Archwilio Gwresogi Thermol Solar

Archwilio Gwresogi Thermol Solar

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Ymweliadau Ysgolion » Ynni Adnewyddadwy » Archwilio Gwresogi Thermol Solar

Mae system gwresogi dŵr solar, a elwir hefyd yn thermol solar, yn defnyddio ynni’r haul i gynhyrchu dŵr twym domestig.

Mae dŵr twym ar gyfer cawodydd, baddonau a thapiau dŵr twym yn cyfrif am gyfran fawr o’r holl ynni domestig a ddefnyddir. Ond hyd yn oed yn y DU, gall aelwyd gynhyrchu tua hanner y dŵr twym sydd ei angen arnynt mewn blwyddyn yn hawdd drwy ddefnyddio ynni solar. Mae’r gweithdy hwn yn rhoi cipolwg ymarferol i ddisgyblion ar sut y mae system gwresogi solar yn gweithio ac yn rhoi cyfle iddynt gasglu a dadansoddi data er mwyn cyfrifo effeithlonrwydd casglwr ynni thermol solar.

 

Braslun o’r gweithdy

Yn dilyn cyflwyniad i gysyniad casglu ynni thermol solar gan ddefnyddio enghreifftiau ar safle CyDA, bydd disgyblion yn cynnal arbrofion gan ddefnyddio casglwr ar ffurf tiwb. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth iddynt o system wresogi dŵr solar domestig nodweddiadol a’i effeithlonrwydd. Bydd disgyblion yn casglu data gan ddefnyddio Excel i ddadansoddi a chreu graffiau, a byddant yn ystyried rôl newidion annibynnol a dibynnol mewn dadansoddi.

Gwybodaeth allweddol:

  • Parhau am 1½ awr
  • Addas ar gyfer lefel A
  • Canolbwyntio ar bynciau STEM
  • Mae’r gweithdy yn cynnwys mynediad i safle CyDA ac mae esgidiau a dillad awyr agored addas yn hanfodol.
  • Cwmpasu egwyddor casglu ynni thermol solar a’r ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd y paneli
  • £120 y sesiwn (hyd at 20 disgybl)

 

Cysylltu â Ni

Cysylltwch â ni i archebu lle neu i ddysgu mwy.