Cerddi Natur
Dilyn Llwybr Chwarel sy’n edrych lawr dros CyDA, y gronfa ddŵr a Dyffryn Dulas. Bydd disgyblion yn ymchwilio i’r hyn sydd i’w weld ymhob tymor, ac yn defnyddio eu synhwyrau i ddarganfod ac yna i ddisgrifio’r byd o’u cwmpas.
Bydd disgyblion yn archwilio ac yn ymchwilio i’r amgylchedd naturiol ac yna’n cydweithio i greu cerddi fydd yn cael eu rhannu yn y Tŷ Unnos. Mae’r Tŷ Unnos yn ofod dysgu atmosfferig a diarffordd wrth ymyl y gronfa ddŵr hardd a’r chwarel gudd yn ddwfn ynghanol y goedwig.
Gwybodaeth allweddol
- Parhau am 60-90 munud
- Addas i Gyfnod Allweddol 2 – 4
- Canolbwyntio ar y cyswllt â natur gyda chysylltiadau i’r fframwaith llythrennedd
- Mae’r daith yn cynnwys mynediad i safle CyDA. Mae esgidiau a dillad awyr agored sy’n addas ar gyfer gwaith ymarferol yn hanfodol.
- Pris – £90 y sesiwn
- Gellir ymestyn a datblygu’r gweithgaredd hwn ar ôl dychwelyd i’r ysgol.
- Mwyafswm grŵp – 20
Braslun o’r Gweithdy
Beth sy’n Digwydd?
Tywysir y disgyblion i archwilio’r chwarel drwy ddefnyddio eu synhwyrau, ac i gofnodi eu syniadau a’r geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio’r hyn y byddant yn ei weld, clywed, arogli a chyffwrdd. Mae cysylltiadau eglur yn cael eu llunio yn ôl oed a chyfnod y disgyblion, gan ddatblygu’r sgiliau a amlinellir yn y fframwaith llythrennedd. Wrth gyrraedd y Tŷ Unnos byddant yn rhannu eu syniadau ac yn ysgrifennu cerddi drwy weithio gyda’i gilydd. Gellir datblygu’r cerddi ymhellach ar ôl dychwelyd i’r ysgol a gellir hefyd eu harddangos ar safle CyDA i ddathlu harddwch yr ardal o gwmpas a’r ysbrydoliaeth a ddaeth o hynny.
Lleoliad
Cynhelir y gweithdy ar brif safle CyDA ac ar y llwybr chwarel cyfagos.
Gweithgareddau Cyfoethogi:
Cyflwyno’r cerddi drwy ystod o gyfryngau gan gynnwys lluniau golosg, sgetshis, lluniau dyfrlliw a ffotograffiaeth.