Ystafell John Willmer
Lleolir Ystafell John Willmer ar y llawr isaf ac mae ganddi ffenestr lithro fawr yn estyn o’r llawr i’r nenfwd ac sy’n agor allan i ardd y cwrt.
Mae golau naturiol hefyd yn llifo i mewn drwy’r ffenestr do uwchben. Mae hon yn ystafell amlbwrpas y gellir ei threfnu mewn nifer o wahanol ffyrdd ac mae ganddi offer clywedol gosodedig.

