Ystafelloedd Gwern a’r Chwarel
Mae Ystafell Gwern ac Ystafell y Chwarel wedi’u lleoli ar yr ail lawr gerllaw Ystafell Ymddiriedolaeth Brook.
Mae’r ddwy ystafell yn agor allan i falconi gyda golygfeydd o’r hen chwarel lechi, a chânt eu trochi yn y golau naturiol o ffenestr gromen yn y nenfwd. Mae’r ystafelloedd yn cynnig preifatrwydd tawel, wedi’u dodrefnu’n chwaethus ac yn cynnwys sgrin LCD ynni-isel ac offer clywedol. Mae’r ystafelloedd yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd bach neu sesiynau trafod.

