Cynhadledd i Aelodau CyDA

Cynhadledd i Aelodau CyDA


Home » Cynhadledd i Aelodau CyDA

Ymunwch â’n Cynhadledd i Aelodau CyDA, cyfle i gysylltu â ffrindiau hen a newydd i fwynhau penwythnos o sesiynau, anerchiadau a gweithdai a fydd yn archwilio’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn gweithredu i sicrhau dyfodol iachach, tecach a mwy diogel.

Bu hon yn flwyddyn fawr am sawl rheswm – o benderfyniadau polisi hollbwysig a chyfarfodydd hinsawdd rhyngwladol, i effeithiau hinsawdd parhaus, gan gynnwys y mis Ionawr cynhesaf ers i bobl ddechrau cymryd cofnodion.  Gallwn deimlo fel pe baem yn cael ein llethu.  Ond lle y mae cymuned, mae gweledigaeth a gobaith.

Ers 50 mlynedd, mae cymuned CyDA wedi wynebu heriau mewn ffordd uniongyrchol.  Trwy gydweithio – rhannu gwybodaeth a sgiliau – rydym yn darganfod ffyrdd ymlaen.

Ymunwch â ni i ddathlu grym ein cymuned yn CyDA trwy gyfrwng y digwyddiad blynyddol hwn sy’n annwyl gan lawer.  Os ydych yn ymuno fel aelod newydd, neu os ydych chi wedi bod yn rhan o CyDA ers degawdau, mae ein Cynhadledd i Aelodau yn amser arbennig i ddwyn egni ynghyd a meithrin cysylltiadau newydd pwysig.

Mae’r rhaglen eleni yn cynnwys cyfleoedd i:

  • Glywed gan ein myfyrwyr a’n graddedigion CyDA am eu meysydd arbenigol a’u teithiau unigryw, o waith ymchwil ynghylch ffwng i arbed ynni yn y cartref
  • Mynd ar daith o gwmpas Coed Gwern CyDA, sef coetir a reolir mewn ffordd gynaliadwy
  • Archwilio thema cyfiawnder hinsawdd wrth galon trawsnewid teg
  • Dysgu am ein system fwyd a’r berthynas rhwng ein cnydau a’r blaned
  • Mwynhau amser yn y gerddi a gyda deunyddiau adeiladu cynaliadwy
  • Dysgu a rhannu gyda chyd aelodau, yn ystod prynhawn wedi’i neilltuo ar gyfer eich cyfraniadau a’ch cyflwyniadau chi.

Gyda digon o amser i fwynhau sgyrsiau hamddenol, diod, ffilm a dawnsio ceilidh.

CYNHADLEDD CYDA 2024 - RHAGLEN

Gwybodaeth allweddol

  • Dyddiadau: 11 i 13 Hydref 2024
  • Amseroedd: cyrraedd o 3yp ar y dydd Gwener, yn gorffen am 12.30yp ar y dydd Sul.
  • Sylwer bod y gynhadledd yn gorffen cyn cinio ar y dydd Sul, a bydd modd prynu cinio pecyn ar gyfer eich taith.
  • Pris Tocynnau: £250.
    • Mae tocyn i’r gynhadledd yn cynnwys yr holl fwyd
    • Sylwer, rydym yn cynnig tocyn consesiwn, i fyfyrwyr CYDA, preswylwyr sy’n byw yn lleol yn ardal SY20 a’r rhai sy’n teimlo y gallant fforddio pris tocyn llawn. Ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom i wneud ymholiad.
    • Er mwyn mynychu, rhaid eich bod yn aelod o CYDA. Os nad ydych chi’n aelod yn barod, gallwch ychwanegu aelodaeth i’ch archeb wrth i chi brynu eich tocyn.

Ffoniwch neu anfonwch e-bost os hoffech wneud ymholiadau am unrhyw gonsesiynau sydd ar gael (i fyfyrwyr CYDA, preswylwyr lleol yn ardal SY20 a’r rhai y mae eu hincwm yn gyfyngedig).

Searching Availability...