Cyrraedd CyDA

Cyrraedd CyDA

Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (Biosffer Dyfi), tua thair milltir i’r gogledd o Fachynlleth ar yr A487, ger pentrefan bychan Pantperthog.

Mae CyDA yn hawdd i’w chyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Machynlleth ar linell drên Birmingham i Aberystwyth, ac o’r fan honno bydd bysus rheolaidd yn dod â chi o fewn taith gerdded fer i CyDA. Neu dilynwch lwybr beicio Sustrans o Fachynlleth yn syth at garreg ein drws. Os ydych chi’n dod o gyfeiriad y gogledd, mae bws rheolaidd o Fangor i Aberystwyth yn stopio ym Mhantperthog.

Mae parcio hygyrch ar gael i’r rheiny sydd ei angen.

Lleoliad

Ar y Trên

Mae Machynlleth ar linell drên Birmingham-i-Aberystwyth, a gellir ymuno â’r llinell hon hefyd o’r Amwythig neu Wolverhampton. Gwasanaethir y llinell gan Drafnidiaeth Cymru.

Ar y Bws

Gallwch ddal naill ai bws T2 neu 34 o Fachynlleth i CyDA. Maent yn rhedeg tua phob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac yn llai aml ar ddydd Sul.

Ar feic neu ar droed

Mae Llwybr 8 Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol Sustrans yn pasio drwy’r orsaf drenau ac yn mynd yr holl ffordd i fyny i fynedfa Canolfan Ymwelwyr CyDA. Mae hwn yn llwybr dymunol iawn, er ychydig yn serth. Mae’r daith yn cymryd llai na hanner awr ar feic a thuag awr ar droed.

Mewn Car

Lleolir y Ganolfan Ymwelwyr i’r gogledd o Fachynlleth, ychydig oddi ar yr A487 i Ddolgellau. Mae wedi ei arwyddo’n eglur o’r ffordd fawr ac mae maes parcio ar y safle.

Ceir Trydan

Gwelwch Cwestiynau Cyffredin ymwelwyr i gael gwybodaeth am gwefru e-v
Cwestiynau Cyffredin

Mewn Tacsi

Archebwch dacsi gyda chwmni Tacsi Peter i’ch cludo i neu o CyDA.
Archebwch Nawr