Diwrnod Cadw Hadau

Diwrnod Cadw Hadau


Home » Diwrnod Cadw Hadau

Ymunwch â ni am ddiwrnod i archwilio’r broses o gadw, sychu a storio hadau, ynghyd â manteision tyfu amrywiadau o hadau treftadaeth.

Byddwch yn treulio hanner y diwrnod yma yng Ngerddi Organig CYDA a’r hanner arall yn un o safleoedd coetir CYDA.

Mae’r cwrs byr hwn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb brwd mewn dysgu sut i gadw a storio eu hadau eu hunain o lysiau, ffrwythau, blodau gardd a dyfir, blodau gwyllt a choed.

Yn ystod y cwrs, byddwn yn dechrau egluro’r broses o gadw hadau, gan gynnig cyngor am le da i gychwyn a pha blanhigion i’w hosgoi yn y lle cyntaf. Yna, byddwch yn edrych o gwmpas safle CYDA ar enghreifftiau o gnydau y byddwn yn cadw eu hadau ac yn rhoi cynnig ar gasglu a diogelu hadau amrywiaeth o rywogaethau.

Erbyn diwedd y diwrnod, bydd gennych y wybodaeth a’r profiad i ddechrau casglu a chadw hadau beth bynnag fo maint eich gardd.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd:  un diwrnod
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 9.30yb ac yn gorffen am 5.00yp
  • Ffi:  £85
  • Bydd yn cynnwys:  hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, cinio
  • Bydd angen esgidiau a dillad priodol arnoch er mwyn treulio diwrnod allan yng ngerddi CYDA.
  • Amodau a Thelerau:

Searching Availability...