Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy

Dyfodol CyDA: sesiwn ymgynghori ag aelodau a chefnogwyr


Home » Dyfodol CyDA: sesiwn ymgynghori ag aelodau a chefnogwyr

Cyfle i drafod cynlluniau CyDA ar gyfer y dyfodol – digwyddiad rhyngweithiol ar-lein.

Gwahoddir aelodau a chefnogwyr CyDA i rannu syniadau ar gynlluniau i greu canolfan sgiliau gwyrdd a phrofiad yr ymwelydd o’r radd flaenaf yn ein canolfan eco yng nghanolbarth Cymru.

Ymunwch â rhai o dîm CyDA am sesiwn ryngweithiol ar-lein i drafod yr hyn sydd bwysicaf i chi am ein gweithgareddau a’n heffaith, a’n canolfan eco.

O brofiad yr ymwelydd a’r cynnig addysg a sgiliau presennol i fannau ffisegol ac adeiladau’r ganolfan eco — rydym am gasglu cymaint o syniadau â phosibl, waeth pa mor fawr neu fach ydyn nhw, felly ymunwch â ni a rhannwch eich barn!

I gael gwybod mwy am y datblygiadau arfaethedig, ewch i: https://cy.cat.org.uk/cynlluniau/

Methu â dod i’r digwyddiad ar-lein? Rhannwch eich barn yma: https://cy.cat.org.uk/eich-mewnbwn/

Gwybodaeth am y digwyddiad

  • Hyd: 1.5 awr
  • Amser dechrau: 19.00
  • Nifer gyfyngedig o leoedd ar gael
  • Mae angen archebu lle (gweler isod)
  • Bydd cyfleoedd am drafodaethau grŵp mewn ystafelloedd trafod
  • Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd

Sut mae’n gweithio

  • Cynhelir y digwyddiad ar Zoom ac mae angen archebu lle (gweler isod).
  • Dim ond un lle ar y tro y gellir ei archebu.
  • Mae angen cyfeiriad e-bost gweithredol er mwyn archebu gan mai dyma lle bydd y ddolen i gael mynediad i’r digwyddiad yn cael ei hanfon. Dim ond un archeb a ganiateir fesul cyfeiriad e-bost.
  • Fel arfer, byddwch yn derbyn hysbysiad gennym 1 diwrnod ac 1 awr cyn y disgwylir i’r digwyddiad gael ei gynnal.
  • Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys dolen cyfarfod Zoom. Cliciwch ar y ddolen cyn y disgwylir i’r digwyddiad ddechrau.
  • Peidiwch â rhannu eich cyswllt e-bost â defnyddwyr eraill. Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad a bydd pob dolen yn caniatáu mynediad i un defnyddiwr yn unig.
  • Ni fydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio, a dim ond CyDA a’n partneriaid ategol – at ddibenion y prosiect hwn – a fydd yn ymdrin ag adborth a roddir yn ystod y sesiwn (gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd  i gael rhagor o wybodaeth).

 

 

Searching Availability...

Mae digwyddiadau ymgynghori yn rhan o raglen o weithgareddau a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

UK Government Logo