Hanes

Hanes

Home » Hanes

Am bum degawd mae CyDA wedi ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i ganfod atebion ymarferol i gynaliadwyedd.

Wedi ei sefydlu yn 1973 mewn hen chwarel llechi yng Nghanolbarth Cymru, mae CyDA wedi esblygu o gymuned i ganolfan ymwelwyr i elusen addysgiadol sy’n arbenigo mewn rhannu atebion ymarferol i gynaliadwyedd.

Y Dechreuad

CAT staff photo from 1978
Llun grŵp o 1978 o’r staff y tu allan i Tea Chest.

Dechreuwyd CyDA gan grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig, gan gynnwys peirianwyr, penseiri, adeiladwyr a thyfwyr oedd yn chwilio am ffyrdd i fyw nad oeddynt yn dibynnu ar danwydd ffosil.

Dechreuodd fel cymuned oddi-ar-y-grid oedd yn wely prawf ar gyfer arbrofi gyda mathau amgen o dechnolegau, a hynny mewn ymateb i argyfwng olew y 1970au a phryder cynyddol ynghylch effaith tanwydd ffosil ar yr amgylchedd.

“Yr hyn oedd ei angen oedd prosiect i ddangos natur y broblem a nodi ffyrdd o symud ymlaen.” Sylfaenydd CyDA, Gerard Morgan-Greville.

Arweiniodd arbrofion ynni gwynt a solar cynnar at ddatblygu’r systemau masnachol sydd bellach yn ganolog yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Early photo of CAT

Wrth i’r gair fynd o gwmpas am y sefydliad arloesol hwn, roedd fwyfwy o bobl am weld dros eu hunain.  Agorodd canolfan ymwelwyr CyDA ym 1975 fel modd o rannu’r weledigaeth a’r syniadau gydag ystod llawer ehangach o bobl, ac arddangos y technolegau a’r dewisiadau all ein helpu i adeiladu cymdeithas fwy cynaliadwy.

Gallwch wrando ar rai o’r gwirfoddolwyr cynnar yn trafod bywyd yn CyDA ar raglen BBC Radio 4 The Reunion.

Trawsnewid safle CyDA

Early picture of CAT

Stopiodd y gwaith yn y chwarel lle’r adeiladwyd CyDA yn y 1950au ar ôl cynhyrchu llechi am bron i ganrif. Erbyn 1973, y cyfan oedd yno oedd  ychydig o adfeilion ar frig hen domen llechi.

“Mewn byd neilltuedig felly, mor bell o’r pwysau oedd yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl, cefais y teimlad efallai y gellid arddangos rhywbeth newydd, rhyw ffordd ffres a glanach o fyw.” Sylfaenydd CyDA, Gerard Morgan-Grenville.

50 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r safle’n anadnabyddadwy, gyda’i amrywiaeth cyfoethog o erddi, coetiroedd, llynnoedd, adeiladau gwyrdd ac arddangosfeydd.

Cyflawnwyd y trawsnewidiad hwn diolch i waith caled staff a gwirfoddolwyr ymroddedig, a chefnogaeth gan filoedd o bobl eraill dros y blynyddoedd.

I greu’r gerddi, bu rhaid gwneud pridd allan o gompost, plannwyd coed a llwyni i greu cynefinoedd bywyd gwyllt amrywiol, adnewyddwyd yn llwyr yr adeiladau oedd yno’n barod, ac ychwanegwyd ystod o adeiladau newydd dros y degawdau, gan gynnwys canolfan addysg a chynhadledd wobrwyedig WISE a agorodd ei drysau yn 2010.

Cretan windmill - early wind turbine at CAT

Ar y dechrau, roedd rhaid cynhyrchu pob tamaid o wres a thrydan ar y safle oherwydd bod CyDA oddi-ar-y-grid yn llwyr. Wrth i’r ganolfan dyfu, roedd yn gwneud synnwyr i gysylltu â’r grid drwy dariff trydan gwyrdd, er ein bod yn dal i gynhyrchu peth o’n trydan drwy ddulliau solar a dŵr (nid yw’n safle da am bŵer gwynt). Rydym hefyd yn cynhyrchu ein gwres a’n dŵr twym ein hunain drwy baneli thermol solar a boeleri biomas effeithiol.

Ymchwil ac Arloesedd

Mae gan CyDA hanes hir o ymchwil ac arloesedd: o’r arbrofion cynnar gyda phŵer gwynt a helpodd i ddatblygu’r tyrbinau gwynt modern, i greu prototeipiau oergelloedd pŵer solar i storio brechlynnau sydd bellach yn arbed bywydau ledled y byd.

Rydym wedi arbrofi gyda ffyrdd newydd o gynhyrchu compost a thrin gwastraff, deunydd a dulliau adeiladu carbon isel arloesol, mathau amrywiol o wres adnewyddadwy (rhai yn fwy llwyddiannus na’i gilydd!), a llawer mwy.

Ers 2007, mae ein hymchwil wedi canolbwyntio’n bennaf ar ein prosiect Prydain Di-garbon, sy’n cyflwyno model o sut y gall y DU gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net gan ddefnyddio’r dechnoleg sydd ar gael heddiw.

Addysg ar gyfer pob oed

Family living at CAT in the old cottages

Ers y blynyddoedd cynharaf, roedd gan CyDA genhadaeth addysgol, ac mae’r angen i newid o danwydd ffosil i ffynonellau pŵer mwy cynaliadwy wastad wedi bod wrth galon ein neges.

Drwy gydol ein hanes, rydym wedi croesawu ymwelwyr a grwpiau ysgol ac wedi darparu deunydd addysgol ar ddewis eang o bynciau’n ymwneud â chynaladwyedd. Ychwanegwyd cyrsiau penwythnos ac wythnos ar gyfer oedolion yn y 1980au mewn ymateb i alw cynyddol am hyfforddiant mewn ynni adnewyddadwy ac adeiladu cynaliadwy.

Wrth i ddifrifoldeb newid hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg, agorodd CyDA Ysgol Raddedig yr Amgylchedd yn 2007 i ddarparu gwybodath a sgiliau hanfodol i helpu pobl i ddeall a datblygu atebion i’r her hon a heriau amgylcheddol eraill.

Hyd yn hyn, mae 1,795 o bobl wedi astudio gyda ni, gan fynd ymlaen i ddefnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a enillwyd yn CyDA i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd. Gallwch ddarllen rhai o’r storïau yn ein hadran ‘Beth rydym yn ei wneud’

Y cyfan gydag ychydig help gan ein ffrindiau

Drwy gydol hanes CyDA, rydym wedi dibynnu ar gefnogaeth pobl fel chi. Mae CyDA yn elusen addysgol gofrestredig, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl unigolion sy’n cefnogi ein gwaith.

O’r rhodd o £20,000 wnaeth gic-danio’r holl beth i’r debydau uniongyrchol parhaus sy’n helpu i dalu ein costau rhedeg o ddydd i ddydd, ni fyddem yma oni bai am eich ymroddiad a’ch cefnogaeth.

Darganfyddwch fwy am genhadaeth CyDA a sut rydym yn ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i ganfod atebion ymarferol i gynaliadwyedd yn ein hadran ‘Beth rydym yn ei wneud’

Diolch am eich cefnogaeth.

Archif CyDA

Cedwir dyddiaduron, dogfennau, lluniau a fideos cynnar o CyDA mewn archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ynghyd â dros 90 o gyfweliadau llafar hanesyddol gyda phobl fu’n gysylltiedig â CyDA mewn gwahanol ffyrdd dros y degawdau. Gellir eu gweld ar gais yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Llinell amser CyDA