Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys


Home » Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys.

Cyfle i archwilio datrysiadau hinsawdd, llunio cynllun gweithredu ar eich cyfer chi a’ch cymuned neu’ch sefydliad, a sicrhau ardystiad Llythrennedd Carbon.

Ariannir hwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac rydym yn cynnig Hyfforddiant Llythrennedd Carbon am ddim i bobl sy’n byw neu sy’n gweithio ym Mhowys, ar ffurf cyrsiau byr, hyfforddiant pwrpasol neu ddosbarthiadau nos tan fis Rhagfyr 2024.

Mae CYDA yn ddarparwr blaenllaw hyfforddiant Llythrennedd Carbon, ac mae gennym amrywiaeth o gyrsiau unigryw wedi’u hachredu gan y Prosiect Llythrennedd Carbon.  Gall y rhaglenni hyfforddiant hyn fod yn rhan allweddol o godi ymwybyddiaeth yn eich cymuned neu’ch sefydliad, ac wrth greu diwylliant carbon isel sy’n ymgysylltu yn llawn ac sy’n gallu cymryd camau effeithiol.

Beth yw Llythrennedd Carbon? Mae’r Prosiect Llythrennedd Carbon yn ei ddisgrifio fel ‘Ymwybyddiaeth o gostau carbon ac effeithiau gweithgareddau bob dydd a’r gallu a’r cymhelliant i leihau allyriadau, ar sail unigol, cymunedol a sefydliadol.’

Edrychwch ar ein cyrsiau a gynhelir yn ystod y dydd neu gyda’r hwyr, neu cysylltwch â ni i holi am ein dewisiadau hyfforddiant pwrpasol.

PECYNNAU HYFFORDDIANT PWRPASOL AM DDIM

Os ydych chi’n rhan o sefydliad, grŵp cymunedol neu gyngor tref/cymuned ym Mhowys, rydych yn gymwys i gael hyfforddiant llythrennedd carbon pwrpasol am ddim fel rhan o’r prosiect hwn a ariannir.

Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim yn ystod y Dydd ym Mhowys

Cwrs ar-lein sy’n rhedeg dros ddau fore, 12 ac 19 Rhagfyr rhwng 9.30yb ac 1yp
DYSGU MWY
Person works on a laptop. Image by StartupStockPhotos from Pixabay

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Carbon Am Ddim ym Mhowys

Cwrs 2 awr ar-lein a gynhelir ar 17 Rhagfyr rhwng 6yp ac 8yp
DYSGU MWY

Ariannir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda.

 Powys Council Logo Growing Mid Wales