Rhaid i COP26 bontio’r bwlch ffiseg/gwleidyddiaeth

Rhaid i COP26 bontio’r bwlch ffiseg/gwleidyddiaeth


Home » Rhaid i COP26 bontio’r bwlch ffiseg/gwleidyddiaeth

Mae CyDA wedi partneru â Climate.Cymru, i ofyn i chi ymuno â ni i ddanfon neges at arweinwyr gwledydd y byd oddi wrth bobl Cymru yn y cyfnod cyn COP26. Cawn glywed rhagor wrth Paul Allen o dîm Prydain Di-garbon CyDA.

Mewn argyfwng, mae problemau ymarferol yn galw am atebion ymarferol ac ni fydd unrhyw faint o siarad yn gwneud iddynt ddiflannu. Nid yw hynny’n golygu nad yw siarad yn bwysig; mae’n hanfodol, yn enwedig yn y cyfnod cyn COP26. Felly er mwyn helpu i ddodi ffocws y siarad ar weithredu di-oed ar y raddfa a’r cyflymder sy’n ofynnol yn ôl y dystiolaeth wyddonol, mae CyDA wedi ymuno â Climate.Cymru.  Gyda’n gilydd, rydym am gasglu 50,000 o leisiau o blith pobl Cymru i ddangos i arweinwyr y byd faint y mae pobl Cymru yn poeni, ac i hawlio gweithredu ystyrlon er mwyn diogelu’r pethau rydym yn eu caru rhag yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Wrth ystyried yr argyfwng hinsawdd, mae bron pawb yn cytuno mai symud i sero net yw conglfaen unrhyw ateb i’r dirywiad hinsawdd, ond rhaid cysylltu’r nod pell hwn i’r hyn sydd angen ei gyflawni nawr er mwyn ei gyrraedd mewn pryd. Mae gennym ffyrdd digonol o fesur faint sydd ei angen ac erbyn pryd, er enghraifft, mae Adroddiad Bwlch Allyriadau’r Cenedlaethau Unedig yn dadansoddi’r llinell amser yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol.

Fodd bynnag, fel arfer, gwelwn nad yw’r raddfa o weithredu di-oed sy’n ofynnol yn eistedd yn gyfforddus gyda gwleidyddiaeth ac economeg. Ar y llaw arall, os ystyriwn gynllun sy’n dderbyniol o safbwynt gwleidyddiaeth, fe welwn nad yw’n cwrdd â’r gofynion gwyddonol.

Mae Adroddiad Bwlch Allyriadau 2020 yn dweud yn glir bod y byd yn dal i anelu am gynnydd catastroffig mewn tymheredd, sef 3°C y ganrif hon – llawer uwch na nod Cytundeb Paris. I ddelio ag unrhyw argyfwng mae’n ofynnol i ni groesi’r bwlch anferth rhwng yr hyn y mae gwyddoniaeth yn gofyn amdano a’r hyn sy’n cael ei ystyried yn wleidyddol dderbyniol.

Yn adroddiad Prydain Di-garbon Canolfan y Dechnoleg Amgen, gelwir hwn yn ‘fwlch gwleidyddiaeth-ffiseg’. Mae nifer o gynlluniau yn ceisio adeiladu pontydd gan weithio o fewn y ffiniau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol cyfredol i geisio ateb yr her.    Gallwn weld nifer o ‘hanner pontydd’ a adeiladwyd i fod yn wleidyddol dderbyniol, ond nid oes yr un ohonynt yn cyrraedd y pen draw o fewn yr amserlen ofynnol.  Mae llawer ohonom yn gweld hyn, ond ni leisir y pryderon yn aml.

Felly beth allwn ni wneud? – galw am weithredu di-oed yn unol â’r wyddoniaeth!

Wrth i’r byd ymbalfalu ag effaith y pandemig Covid-19, mae’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn parhau yn ddiosteg. Yn dilyn degawd o doriadau caledi, mae llywodraethau lleol bellach yn gorfod delio gyd’r sgil effeithiau niferus megis tlodi cynyddol, ansawdd aer gwael, lefelau uchel o lifogydd a difrod stormydd. Er gwaethaf ystod eang o ymrwymiadau  dybryd, mae nifer fawr o Gynghorau Lleol, Sir, Unedol a Metropolitan yn ogystal â Rhanbarthau Dinasol yn dangos arweiniad newydd ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyd-ddatrys nifer o heriau, gan gynnwys helpu eu cymunedau i gyrraedd sero net.

Rhaid cael rhaglen DU-eang i  ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, sy’n seiliedig ar ymgysylltu democratig a chyd-ddatrys. Mae ar y rheiny sy’n delio â’r argyfwng hwn angen y wybodaeth, sgiliau a’r adnoddau i allu gweithredu yn gyflym ar sail y dystiolaeth wyddonol. Rhaid i ni ymuno gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth  trawsnewidiol radical sy’n mynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd y broblem, yn ogystal â’r gwerthoedd a’r ymddygiad sy’n eu meithrin. Gyda chyfyngiadau o ran amser ac adnoddau, mae cyd-ddatrys nifer o heriau ar yr un pryd yn ateb amlwg. Er enghraifft, wrth geisio gwella’r dirywiad economaidd a waethygwyd gan y cyfnod clo, gallwn wneud hynny mewn modd strategol sydd hefyd yn diogelu bioamrywiaeth ac yn gwella iechyd a lles.  Drwy ystyried gweithgareddau ‘gweledigaethol’ ar lefel sylfaenol, gallwn nid yn unig greu swyddi gwerth chweil ac ysgogi’r economi, gallwn hefyd ddiogelu dynoliaeth at y dyfodol a’i gwneud yn fwy cadarn i ddelio ag argyfyngau hysbys ac anhysbys yr 21ain ganrif.

Tîm Cymru yn COP26

Rydym yn gwybod y gall Cymru gymryd cynaliadwyedd o ddyfrif – yn 2018-19 roedd ganddi’r raddfa ailgylchu uchaf yn y byd, ac yn 2007 cyflwynodd Canolfan y Dechnoleg Amgen ei adroddiad Prydain Di-garbon cyntaf, ymhell cyn bod targedau carbon yn cael eu mabwysiadu ar gyfer Cytundeb Paris. Mae Cymru wastad wedi bod ar flaen y gad o ran arloesedd. Roedd yn rhan annatod o’r Chwildro Diwydiannol, a heddiw mae’r sylw ar gynaliadwyedd gyda deddfwriaeth arloesol megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sef y cyntaf yn y byd, sy’n ei gwneud yn gyfreithiol ofynnol i’r llywodraeth wella llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru. Ac, ynghyd â Llywodraeth Cymru, mae’r mwyafrif helaeth o gynghorau Cymru eisoes wedi datgan argyfwng hinsawdd.

Yn y cyfnod cyn y bydd arweinyddion y byd yn cyfarfod yn y COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd, mae gweithio gyda Climate.Cymru yn rhoi cyfle i ni alw am y gweithredoedd brys unedig sydd eu hangen heddiw er mwyn creu gwell dyfodol i’n cymunedau, yma, ac o gwmpas y byd.  Gallwn barchu anghenion, traddodiadau a diwylliant lleol a ffurfio cyswllt â chyfleoedd lleol pwysig megis amaeth, iechyd a busnesau lleol.  Mae hyn yn helpu drwy gysylltu cynlluniau gweithredu hinsawdd â’r prif faterion sy’n berthnasol i unrhyw ardal.

Mae Labordy Arloesedd a Hyb Prydain Di-garbon Canolfan y Dechnoleg Amgen eisoes wedi bod yn rhoi hyder, sgiliau a dealltwriaeth i awdurdodau lleol, busnesau, sefydliadau a grwpiau cymunedol i wneud y mwyaf o gyd-fuddion llesiant, adfer natur, lleihau tlodi tanwydd a chreu swyddi newydd wrth sicrhau allyriadau sero net.

I ganfod mwy am Climate.Cymru ac i ychwanegu eich llais, ewch i https://climate.cymru

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.