Cynyddu gweithredu ar yr hinsawdd yn eich cymuned

Cynyddu gweithredu ar yr hinsawdd yn eich cymuned


Home » Cynyddu gweithredu ar yr hinsawdd yn eich cymuned

A oes gan eich cymuned chi gynllun cynhwysfawr i gynorthwyo pontio i Brydain di-garbon? Dyma ychydig gyngor er mwyn i chi allu cychwyn arni…

Creu prosesau rhanddeiliaid cymunedol cynhwysol

Mae newid hinsawdd a ffyrdd o’i leddfu ac addasu iddo yn effeithio ar bob un ohonom, ac mae gan bawb yr hawl i gael llais.  Gall ymgysylltu cymunedol da arwain at benderfyniadau gwell, mwy o ddealltwriaeth o’r rhwystrau a ffyrdd ymlaen mwy cynaliadwy.

Gall gweithgarwch mapio rhanddeiliaid manwl eich helpu i ystyried pwy ddylai ymwneud â’ch grŵp cymunedol er mwyn i chi allu cymryd camau rhagweithiol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cynrychioli.

O’r lleoliadau a’r siaradwyr y byddwch yn eu dewis, i amseroedd a ffurfiau cyfarfodydd, i ble a sut y byddwch yn hyrwyddo eich grŵp neu’ch menter – meddyliwch yn ofalus am y ffordd y gall y rhain eich helpu i sicrhau bod yr hyn a wnewch yn fwy hygyrch, amrywiol a chynhwysol.

Ymgysylltu gyda grwpiau a rhwydweithiau eraill

Gall meithrin partneriaethau gydag eraill gyflymu’r cynnydd tuag at y nodau yr ydych yn eu rhannu.  Meddyliwch mewn ffordd strategol am y sgiliau a’r adnoddau y mae eu hangen arnoch efallai, ynghyd â meysydd lle y gallai partneru gydag eraill gryfhau eich grŵp a chynyddu ei effaith.

Gallai gweithio gyda grwpiau cymunedol cyffelyb roi hwb i’ch adnoddau, datblygu eich rhwydweithiau cymdeithasol ac adfywio eich ymdrechion.

Gallai cydweithio gyda chynghorau lleol, busnesau ac elusennau gynnig gwerth i bawb dan sylw, gan gynyddu eich cyrhaeddiad a’ch effeithiolrwydd.  Efallai y bydd yn eich helpu i sicrhau cyllid, cyfathrebu agored gyda chynulleidfaoedd newydd, neu gynnig persbectif ffres gan y rhai sydd â’u profiadau unigryw eu hunain.

Paul Allen yn siarad gyda phobl sy’n ymuno â ni o bob cwr o’r wlad am gwrs Prydain Di-garbon
Paul Allen yn siarad gyda phobl sy’n ymuno â ni o bob cwr o’r wlad am gwrs Prydain Di-garbon

Cydweithio er mwyn cyd-greu gweledigaeth leol

Wrth ddatblygu cynllun gweithredu lleol, gall cyd-greu gweledigaeth ar gyfer eich cymuned mewn pum, 10 neu 30 mlynedd ac archwilio ffyrdd o weithio tuag ati fod yn lle da i gychwyn.

Yn CDA, rydym yn defnyddio sawl dull gweithredu er mwyn helpu grwpiau i feddwl am y dyfodol yr hoffent (a’r dyfodol na hoffent) ei weld, er mwyn deall y rhwystrau wrth geisio cyflawni’r weledigaeth hon, ac ymchwilio i ffyrdd o’u goresgyn.

Un enghraifft yw cynllunio sefyllfaoedd, lle y byddwn yn archwilio tueddiadau amgylcheddol, cymdeithasol, technegol, diwylliannol a gwleidyddol a dychmygu dyfodol amgen dymunol a chredadwy.  Gall hyn danio’r dychymyg a’n helpu i feddwl am y dyfodol yr hoffem ei weld a sut y gallwn gydweithio er mwyn ei gyflawni.

Rydym yn defnyddio dull Tri Gorwel hefyd, sy’n helpu grwpiau i feddwl am y man lle y maent nawr, lle y maent yn dymuno bod, a’r camau y gallant eu cymryd i symud tuag at y dyfodol y maent yn ei ddymuno.  Mae’n offeryn pwerus ar gyfer archwilio’r camau y gallwch eu cymryd fel cymuned.

Teulu yn cymryd rhan mewn ymweliad grŵp yn archwilio lluniau o ddyfodol cynaliadwy
Teulu yn cymryd rhan mewn ymweliad grŵp yn archwilio lluniau o ddyfodol cynaliadwy

Manteisio ar ynni cymunedol

Mae gan brosiectau ynni adnewyddadwy y mae’r gymuned yn berchen arnynt rôl bwysig i’w chyflawni wrth sicrhau pŵer ar gyfer pobl leol a bwydo trydan glân i’r grid, gan helpu i ddatgarboneiddio’r DU.

Ceir amrediad o fanteision i bobl leol yn ychwanegol i’r effeithiau amgylcheddol cadarnhaol – gostwng biliau ynni;  creu swyddi a denu buddsoddiad er mwyn rhoi hwb i’r economi leol;  dwyn incwm er mwyn sicrhau bod mwy o brosiectau lleol yn bosibl;  dwyn pobl ynghyd i wella’r ardal;  a chynnig tystiolaeth weladwy bod gweithredu lleol yn gallu sicrhau newid.

A oes adnoddau naturiol yn eich cymuned chi neu yng nghyffiniau eich cymuned chi, y byddai modd eu defnyddio i gynhyrchu trydan, megis afon neu gopa bryn gwyntog?  A oes adeiladau cyhoeddus, fel ysgolion neu glybiau chwaraeon, y byddai modd eu trawsnewid yn orsafoedd pŵer bychain trwy ychwanegu paneli solar PV ar y to?

Cosmos in front of Solar Panels

Chwilio am gyfleoedd i ddatrys sawl mater

Gall nifer o gamau er mwyn lleihau allyriadau gynnig manteision canlyniadol yn y fath ffordd, gan wella iechyd, cynyddu diogelwch ynni, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, gwella trafnidiaeth leol, creu swyddi gwyrdd lleol a dwyn cymunedau ynghyd.

Mae’r math hwn o weithredu, lle y rhoddir sylw i amrediad o faterion cymunedol trwy ymateb i her yr argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd, yn hollbwysig.  Trwy godi ymwybyddiaeth o gyd-fanteision gweithredu amgylcheddol cadarnhaol, gellir ymgysylltu a chydweithio gyda mwy o bobl a sefydliadau.  Trwy ystyried y rhain, gallwn greu rhwydweithiau pwerus ar draws amrediad o grwpiau sydd â diddordeb.

Arwain trwy esiampl

Gall gweithredu ar lefel gymunedol gael cymaint yn fwy o effaith nag unigolion yn gweithredu ar eu pen eu hunain.  Trwy fanteisio ar arbedion maint a rhannu sgiliau a phrofiad, gall grwpiau o bobl leol sicrhau bod newidiadau arwyddocaol yn digwydd yn eu cymdogaethau.

Gall prosiectau bychain hyd yn oed fod yn werth chweil trwy’r ffordd y maent yn ysbrydoli ac yn annog eraill i ddechrau a datblygu eu mentrau eu hunain.  Pan fydd pobl yn gweld bod newid yn bosibl, mae’n cynnig gobaith iddynt bod dyfodol gwell iddyn nhw a’u cymuned yn bosibl.

Meithrin sgiliau

Beth bynnag fo’r cam yr ydych chi wedi’i gyrraedd wrth weithredu ar yr hinsawdd yn eich cymuned, gall CDA eich helpu i barhau i feithrin eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch rhwydweithiau.

Mae ein cwrs byr Prydain Di-garbon newydd yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n weithgar yn eu cymuned leol ac sy’n dymuno deall sut y gallai’r DU fynd i’r afael â her yr hinsawdd.

Yn ein digwyddiad Prydain Di-garbon – Yn fyw yn CDA – Cynyddu Gweithgarwch Cymunedol yn ystod yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol a gynhelir ym mis Mawrth eleni, byddwch yn archwilio pynciau pwysig sy’n ymwneud â’r cwestiwn ynghylch sut y gall cymunedau gymryd y cam nesaf ar y ffordd i bontio cyfiawn, gan ymgysylltu yn well gyda’r broses bontio ehangach o’u cwmpas.  Byddwn yn manteisio ar waith ymchwil Prydain Di-garbon CDA, ynghyd â’i phrofiad a enillwyd drwy ymdrech gan gymunedau ar draws y wlad.

Byddwch yn archwilio:

  • Y darlun mawr – rhoi’r diweddaraf i chi am y wyddor bioamrywiaeth a hinsawdd sy’n esblygu yn barhaus, ynghyd ag ymdrechion cysylltiedig i ymateb ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol.
  • Ymchwil Prydain Di-garbon – rhoi sylw i gwestiynau tyngedfennol megis:  Sut allwn ddarparu cyflenwad ynni hollol adnewyddadwy dibynadwy ar gyfer y DU?  Sut allwn dyfu’r bwyd y mae ei angen arnom ar gyfer diet carbon isel, iach?  Sut allwn sicrhau bod y dyfodol y byddwn yn ei adael ar gyfer cenedlaethau i ddod yn ddiogel ac yn gynaliadwy?
  • Creu, gweithredu a datblygu gweledigaeth leol – clywed gan grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd ymchwil cenedlaethol Prydain Di-garbon fel model a’i weithredu yn eu lleoliad.
  • Ymgysylltu â’r broses bontio ehangach – trafod sut y gall cymunedau gydweithio gydag eraill ar lefel leol, rhanbarthol, datganoledig a chenedlaethol i gynyddu grymuso cymunedol wrth bontio i gymunedau di-garbon.
  • Y camau nesaf – cynllunio taith eich cymuned i gymdeithas gyfiawn, atgynhyrchiol, ddi-garbon.

Archebu eich lle

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.