Sut mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cymryd siâp — cefnogi gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur

Sut mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cymryd siâp — cefnogi gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur


Home » Sut mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cymryd siâp — cefnogi gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur

Mae ein cynlluniau ar gyfer profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr a’r hyb sgiliau cynaliadwy newydd yn CyDA yn symud i’r cam nesaf o ddatblygiad.

Mae cyfleusterau newydd y cynlluniau yn cynnwys mannau addysgu, mannau arddangos, llety ychwanegol ar y safle, caffi estynedig, mannau manwerthu, llwybrau natur a llwybrau cerdded, a gwell profiad i ymwelwyr.

Rydym ar hyn o bryd wrthi’n penodi tîm uwchgynllunio, a fydd yn cynnwys pensaer, peiriannydd gwasanaeth, peiriannydd sifil a strwythurol, ymgynghorydd ecolegol, rheolwr prosiect ac ymgynghorydd peirianneg sifil i fynd â’r prosiect i’r cam dylunio strwythurol — gyda’r bwriad o gadw Haworth Tompkins fel y prif bensaer uwchgynllunio.

Daw hyn wrth i Wyddonwyr y Cenhedloedd Unedig roi ‘rhybudd olaf’ ar yr angen i weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd — a’n nod yw cynyddu capasiti hyfforddiant amgylcheddol ac addysg y Ganolfan i helpu i ateb y galw hwn.

Bydd y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn helpu mwy o bobl a sefydliadau ledled y DU a thu hwnt i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd — trwy ddatblygu rhaglenni ‘hyfforddi’r hyfforddwr’, cyrsiau sgiliau proffesiynol ac ymweliadau astudio pwrpasol ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Bydd y cyfleusterau hefyd yn cefnogi’r gwaith o ehangu ein rhaglenni ôl-raddedig sydd eisoes yn llwyddiannus, gan helpu i bontio’r bwlch sgiliau gwyrdd — a ddyfynnir fel un o’r prif rwystrau i daclo newid hinsawdd ar y raddfa a’r cyflymder sydd eu hangen.

Yn y cyfamser, bydd y profiad newydd i ymwelwyr yn cynnig y cymhelliad, yr wybodaeth, a’r gefnogaeth i unigolion greu newid gartref, yn y gwaith ac o fewn y gymuned ehangach.

Yn ogystal â denu llawer mwy o ddysgwyr ac ymwelwyr i’r Ganolfan, mae disgwyl i’r cynlluniau greu 48 o swyddi ychwanegol, a fydd yn elwa’r economi leol am flynyddoedd i ddod. Unwaith y bydd y tîm uwchgynllunio newydd yn ei le, bydd y cynlluniau’n parhau i gael eu datblygu wrth i gyllid ganiatáu

Dywedodd Eileen Kinsman, Prif Weithredwr ar y Cyd CyDA: “Mae’r cynlluniau newydd — a grëwyd gyda help y cwmni pensaernïaeth adfywiol blaenllaw, Haworth Tompkins — yn ffrwyth ymgysylltu helaeth gyda’r gymuned leol ac ymwelwyr, myfyrwyr, aelodau a chefnogwyr CyDA.

“Mae tipyn o gynnydd eisoes wedi’i wneud, ond yn y cam nesaf hwn — a fydd yn cynnwys dylunio strwythurol a chynllunio gwasanaeth, gyda help ymgynghoriad pellach — bydd ein cynlluniau’n cael eu cadarnhau a’u ffurfioli’n gadarn.

“Rydym yn hyderus y bydd y prosiect yn annog mwy o bobl nag erioed o’r blaen i ymuno â ni i archwilio atebion yn ymwneud â’r hinsawdd. Ac, wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed, pa well amser sydd i gymryd camau i ysbrydoli newid cadarnhaol am hanner canrif arall?”

Mae’r prosiect uchelgeisiol — sydd ymhlith y prosiectau cychwynnol sy’n cael eu hystyried ar gyfer portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru — yn mynd ati’n raddol i leihau tarfu ar y Ganolfan ac i ganiatáu iddi aros ar agor i fyfyrwyr ac ymwelwyr drwy gydol ei thrawsnewidiad.  Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y dull graddol hwn yn creu mwy o gyfleoedd i arbenigwyr lleol mewn adeiladu a dylunio cynaliadwy gynnig am y gwaith.

Gyda chymorth ariannol o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, nod ein huwchgynllun ac achos busnes yw sicrhau’r arian sydd wedi’i glustnodi o’r Fargen Twf, yn ogystal â denu arian gan ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a chefnogwyr eraill — gan helpu i wireddu’r cynlluniau.

Diolch am eich cefnogaeth

Hoffem ddiolch i’n holl gefnogwyr sydd wedi helpu i ariannu a chyfrannu at gyfnodau cychwynnol y gwaith hwn. Nawr, mae angen eich cefnogaeth arnom i gyflogi ecolegwyr arbenigol i gynnal arolygon manwl o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd niferus yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen — wrth barhau i ariannu ein gwaith parhaus, sef rhannu sgiliau cynaliadwy.

Bydd yr arolygon hyn yn llywio cynlluniau i wella a diweddaru ein canolfan eco mewn ffordd wirioneddol adfywiol, gan gynnal a gwella’r amrywiaeth ecolegol sy’n gwneud ein cartref yng nghanolbarth Cymru yn un mor gyfoethog — yn ogystal â chynnig profiad gwych i lawer mwy o ymwelwyr a dysgwyr.

Os byddwn yn cyrraedd ein targedau codi arian, rydym yn hyderus y byddwn yn gallu cwblhau’r arolygon hyn yr haf hwn, gan ddod gam yn nes at wireddu ein cynlluniau.

I roi rhodd, ewch i: https://cy.cat.org.uk/ymuno-a-chyfrannu/

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.