Teyrnged i Sally Carr, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Teyrnged i Sally Carr, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr


Home » Teyrnged i Sally Carr, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Gyda chalon drom, dyma rannu’r newyddion am farwolaeth ein ffrind annwyl Sally Carr, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr yn CyDA.

Roedd Sally yn berson disglair, gyda chalon fawr a phersonoliaeth heb ei hail – roedd hi’n un o fil. Roedd Sally yn feddylgar, caredig, doniol, clyfar, cariadus ac annwyl iawn, ac roedd hi wedi dylanwadu ar fywydau llawer o bobl gyda’i hempathi, ei charedigrwydd, ei hiwmor a’i chyngor doeth.

Dr Sally Carr - Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Bu Sally yn ffrind ac yn gydweithiwraig anhygoel, ac roedd ganddi gariad oes tuag at CyDA. Dechreuodd hi ei gyrfa gyda ni drwy wirfoddoli am wythnos ym 1986, a theimlai’n gartrefol yn syth. Bu hi’n dychwelyd bob blwyddyn, ac yn y pen draw dechreuodd Sally wirfoddoli drwy reoli gwirfoddolwyr eraill cyn gadael ei swydd fel hyfforddwr arweinyddiaeth er mwyn gweithio gyda ni’n barhaol. Ar ôl ymddeol yn 2019, cafodd ei gwahodd i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr, a chafodd ei phenodi’n Gadeirydd ym mis Ebrill y llynedd.

Fel Cadeirydd, helpodd Sally i lywio datblygiad CyDA gydag angerdd, ymrwymiad a charedigrwydd. Bu hi’n gweithio gyda channoedd o wahanol bobl ar draws ei hamrywiaeth o rolau, gan gynnwys llawer o aelodau, cefnogwyr a myfyrwyr CyDA, yn ogystal ag ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr. Roedd Sally bob amser yn barod i roi o’i hamser a’i gwybodaeth i geisio sicrhau’r canlyniadau gorau.

Bydd pawb a oedd yn ei hadnabod yn teimlo colled fawr ar ei hôl, ac anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei theulu a’i holl ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Boncyffion a Chronfa Ddŵr CyDA