BETH RYDYM YN EI WNEUD

ATEBION YMARFEROL I’R NEWIDIADAU I’N PLANED

Rhaid i ddynoliaeth sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn canol y ganrif er mwyn osgoi newid hinsawdd trychinebus. Y cynharaf y gwneir hyn, y mwyaf ein siawns o gadw’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn agos i 1.5°C, gan helpu i atal newid hinsawdd direolaeth.

Rhaid i bob allyriad a all fynd i sero, fynd i sero – cyn gynted â phosib. Nid o drydan yn unig, ond hefyd gwresogi, trafnidiaeth, diwydiant a defnydd tir.

Mae gennym yr offer i wneud hyn. Mae ymchwil Prydain Di-garbon CyDA yn dangos yn glir bod gennym eisoes y technolegau angenrheidiol i gyrraedd allyriadau carbon sero erbyn 2050 – neu hyd yn oed cyn hynny.

“Mae pob tamaid o wresogi ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth” Hans-Otto Pörtner, Panel Rhynglywodraethol Newid Hinsawdd (IPCC)

Mae angen gweithredu ar bob lefel:

unigolion, cymunedau, busnesau a llywodraethau. Rydym angen pobl â’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud i newid ddigwydd.

A rhaid gweithredu nawr!

YSBRYDOLI, HYSBYSU, GALLUOGI

Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i ganfod atebion ymarferol ar gyfer cynaladwyedd

Mae CyDA yn elusen addysgol sydd wedi ymrwymo i ymchwilio i atebion cadarnhaol i newid hinsawdd, a’u rhannu.

Rydym yn siarad â’r llywodraeth ac ymgyrchwyr am bolisïau a fyddai’n helpu i greu Prydain Di-garbon. Rydym yn hyfforddi myfyrwyr ymhob agwedd o gynaliadwyedd ac yn helpu plant ysgol i ddeall pwysigrwydd gweithredu yn erbyn newid hinsawdd. Rydym hefyd yn cynnig cyngor i ddeiliaid tai am yr hyn y gallant ei wneud yn eu cartrefi.

A wnewch chi helpu i greu newid?

“Mae’r penderfyniadau a wnawn heddiw yn hollbwysig o ran sicrhau byd diogel a chynaliadwy i bawb, heddiw ac yn y dyfodol.” Debra Roberts, IPCC.

Rydym angen pobl fel chi sy’n poeni am y byd a phawb sy’n ei rannu i’n helpu i wneud i newid ddigwydd.

A wnewch chi ymuno â ni heddiw a dod yn rhan o’r newid?

  • Ymwelwch â ni i ddysgu am atebion a allai weithio i chi yn eich cartref eich hun
  • Dysgwch sgiliau newydd ar un o’n cyrsiau byr ar ynni adnewyddadwy, adeiladu gwyrdd, tyfu cynaliadwy a mwy
  • Astudiwch gyda ni i ennill gradd Meistr amgylcheddol.
  • Cefnogwch ein gwaith drwy ddod yn aelod neu wneud cyfraniad heddiw
Cretan Wind Turbine

Hanes

Darganfod sut mae CyDA wedi annog newid mewn mwy na 50 mlynedd o ysbrydoli, hysbysu a galluogi pobl i gyflawni atebion ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd.

Adeilad WISE yn CyDA -enghraifft o bensaernïaeth gynaliadwy

GWOBRWYON

Dros y blynyddoedd cawsom yr anrhydedd o ennill amryw o wobrau mewn cydnabyddiaeth o’r gwaith a wnawn. Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd – bydd y Gymraeg ar gael yn fuan.

CYMRYD RAN

Dim ond trwy gefnogaeth ein haelodau, rhoddwyr, myfyrwyr ac ymwelwyr yr ydym yn gallu gwneud yr hyn a wnawn. Drwy ein cefnogi rydych yn ein helpu i greu newid a gweithio tuag at ddyfodol gwell, a mwy cynaliadwy.

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Os hoffech weithio gyda CyDA i greu newid, neu os hoffech wybod mwy am yr hyn a wnawn, cysylltwch â ni.