Gwirfoddolwr Codi Arian
Gwirfoddolwch gyda Thîm Codi Arian CYDA, trwy ein helpu i ddarparu sgiliau a gwybodaeth i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.
Beth mae CyDA yn ei wneud?
Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau ac offer i helpu pobl i greu newid.
O weithgareddau i blant cyn oed ysgol i raddau ôl-raddedig, rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i helpu i ysbrydoli newid ar draws pob sector. Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, graddau ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – i gyd wedi’u cefnogi gan rwydwaith anhygoel o aelodau a chefnogwyr ar draws y DU a thu hwnt.
Beth fyddwch yn ei wneud?
Fel gwirfoddolwr codi arian, byddwch yn ymuno â Thîm Codi Arian cyfeillgar CYDA i’w helpu i godi arian trwy gyfrwng rhoddion unigol a rheolaidd gan gefnogwyr ac aelodau CYDA. Lleolir y swydd hon mewn swyddfa, ar safle prydferth CYDA ger Machynlleth, yn cynorthwyo’r tîm i reoli a gweinyddu data, cyfathrebu gyda chefnogwyr, ac yn cyflawni tasgau eraill – y gellir penderfynu arnynt i ryw raddau yn unol â’ch diddordebau. Bydd prosesu gwybodaeth sensitif a chyfrinachol yn rhan o’r rôl hon, felly bydd cymryd gofal i ddilyn yr hyfforddiant a ddarparir yn hanfodol.
Mae’r swydd hon yn berffaith i rywun sy’n dymuno ymuno â thîm bach a chefnogol sy’n cydweithio er mwyn helpu i greu dyfodol iachach, tecach a mwy diogel.
Beth mae CYDA yn ei ddarparu?
- Hyfforddiant cychwynnol a pharhaus yn ôl y gofyn
- Cymorth a chyfarwyddyd gan reolwr a goruchwylydd codi arian
- Amgylchedd i ddatblygu sgiliau newydd a phresennol
- Y cyfle i gyfarfod pobl newydd
- Cinio a diodydd poeth am ddim i staff a gwirfoddolwyr
- Aelodaeth CYDA am ddim am flwyddyn
- Gostyngiad o 40% ar ran fwyaf y cynhyrchion yn ein caffi a’n siop
- Un cwrs byr am ddim a 50% oddi ar ail gwrs
- Tystysgrif am eich cyfraniad i CYDA
Am bwy yr ydym yn chwilio?
Rydym yn chwilio am bobl:
- Y byddent yn dymuno cael profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa neu y mae ganddynt brofiad yr hoffent ei rannu.
- Y byddent yn ddelfrydol yn dymuno gwirfoddoli’n rheolaidd a meithrin perthynas waith barhaus gyda Thîm Codi Arian CYDA. Fodd bynnag, mae croeso i bobl sy’n chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli hyblyg a /neu dros y tymor byr wneud cais hefyd.
- Sy’n mwynhau gweithio a gwirfoddoli gydag eraill
- Sy’n frwdfrydig ac yn awyddus i fwrw ati
- Sy’n gyfeillgar ac yn parchu eraill
- Sy’n ddibynadwy
- A fydd yn dilyn cyfarwyddiadau eu goruchwylydd a pholisïau CYDA
- Sy’n meddu ar wybodaeth, diddordeb neu barodrwydd i ddysgu am gynaliadwyedd a gwaith CYDA.
Mae modd hawlio costau teithio i’ch gwaith gwirfoddol ac oddi yno yn y rôl hon. Nid yw’r cyfle hwn yn cynnwys llety, felly mae’n gyfle delfrydol i rywun sy’n byw gerllaw CYDA.