GWIRFODDOLI YN CyDA

Mae angen mwy o wneuthurwyr newid arnom ni. Mae gwirfoddoli yn CyDA yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ac i gefnogi ein gwaith drwy gynnig atebion ymarferol a darparu dysgu ymarferol i helpu i greu byd di-garbon.

Gwirfoddolwyr oedd yn gyfrifol am ddechrau CyDA 50 mlynedd yn ôl. Heddiw maen nhw’n dal i fod yn rhan amhrisiadwy o deulu CyDA.

Mae ein gwirfoddolwyr yn ein helpu i reoli’r safle drwy gydol y flwyddyn, gan gyfrannu at gynnal a chadw ein gerddi a’n coetiroedd a rhoi help llaw mewn meysydd allweddol eraill.
Mae gwirfoddoli gyda ni yn gyfle gwych i fagu sgiliau newydd a phrofiad gwaith, i archwilio’r ardal hardd hon yng Nghanolbarth Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri ac i gwrdd ag amrywiaeth o bobl newydd ddiddorol a chyfeillgar – i gyd yn gweithio gyda’i gilydd ar atebion i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae sawl ffordd wahanol o wirfoddoli

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol:

  • Swyddi gwirfoddoli chwe mis preswyl, yn aros ar safle CyDA.
  • Gwirfoddoli am gyfnodau byrrach os ydych yn byw’n lleol neu’n gallu trefnu eich llety eich hun.
  • Diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd, er enghraifft ymuno â ni am ddiwrnod bob wythnos.

Gweithio fel gwirfoddolwr

Mae’r rhan fwyaf o’n gwirfoddolwyr yn ymuno â’r Adran Ystadau, gan weithio yn ein timau Gerddi neu Goetir a Dŵr. Gallwch ddarllen mwy am y rolau hyn isod.

Serch hynny, os oes gennych sgiliau eraill yr hoffech eu cynnig i CyDA, byddem yn falch iawn o ystyried ceisiadau ar gyfer meysydd eraill. Er enghraifft, mae cyn wirfoddolwyr wedi helpu gyda chyfryngau digidol, marchnata, codi arian, ymgysylltu ag ymwelwyr, archebion drwy’r post a chyrsiau byr.

Gwirfoddolwr yn yr ardd

GWIRFODDOLWR GERDDI

Dewch i fyw a bod cynaliadwyedd. Cewch gyfle i weithio gyda’n tîm gerddi profiadol a dysgu oddi wrthyn nhw, cwrdd â phobl ysbrydoledig a diddorol a dod yn rhan annatod o’r hyn y mae CyDA yn ei wneud.
Gwirfoddolwyr yn plannu coed

COETIR A DŴR

Archwiliwch sut i reoli coetiroedd, dysgwch sgiliau gwerthfawr a chael hwyl wrth weithio ochr yn ochr â'n tîm coetiroedd a dŵr i helpu i reoli ein coetiroedd, systemau dŵr a glanweithdra a gwneud gwelliannau o amgylch y safle drwy ddefnyddio ein hadnoddau naturiol.
Gwirfoddolwch

Gwnewch gais i wirfoddoli yn CyDA

Gwirfoddolwyr dydd

Os ydych yn byw’n lleol neu wedi trefnu eich llety eich hun gerllaw ac â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr dydd rheolaidd, nid oes angen gwneud cais. I gysylltu ynglŷn â bod yn wirfoddolwr dydd, e-bostiwch volunteering@cat.org.uk

Dysgwch fwy am wirfoddoli dydd

Gwirfoddolwyr preswyl chwe mis

Pan fydd ceisiadau ar agor, llenwch y ffurflen gais i wirfoddolwyr preswyl chwe mis a’i dychwelyd at volunteering@cat.org.uk erbyn y dyddiad cau a nodir.

Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, mae’r rhestr fer yn cael ei llunio, pan fydd goruchwylwyr y rolau gwahanol yn gwahodd uchafswm o 16 o bobl i ymuno â ni am wythnos brawf yma yn CyDA.

Dysgwch fwy am ddod yn wirfoddolwr preswyl chwe mis

Dyddiadau allweddol

  • Ceisiadau ar gyfer lleoliad gaeaf 2024 yn agor ar 26 Mai.
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Gorffennaf.
  • Bydd yr wythnos brawf ar gyfer y lleoliad hwn rhwng 12 a 16 Awst.
  • Bydd lleoliad gaeaf 2023 yn dechrau ar 28 Hydref.

Yn anffodus, ar yr adeg hon, ni allwn dderbyn ceisiadau am wirfoddolwyr hirdymor wrth y rhai sydd o dan 18 oed neu wladolion tramor. Ymddiheurwn am unrhyw siom y gall hyn ei achosi.

E-bostiwch ceisiadau gorffenedig at volunteering@cat.org.uk

E-bostiwch ymholiadau at volunteering@cat.org.uk

Lawrlwythwch y Ffurflen Gais Gwirfoddoli am 6 mis

Beth mae ein cyn wirfoddolwyr wedi’i ddweud

Fel rhywun newidiodd yrfa hanner ffordd drwy fywyd, mae dod i fyw ac i weithio yn CyDA fel gwirfoddolwr preswyl wedi newid fy mywyd heb os. Mae wedi fy helpu i fagu gwreiddiau mewn rhan newydd o’r byd ar ôl dau ddegawd yn Llundain, ac rydw i bellach yn bwriadu astudio yma a datblygu gyrfa sy'n canolbwyntio’n fwy ar natur. Mae holl staff y safle a’r gwirfoddolwyr yn gofalu am ei gilydd, mae bron iawn fel bod yn rhan o deulu estynedig. Rydw i wedi caru fy amser yn CyDA ac yn llawn cyffro am yr hyn sydd i ddod nesa.
Joe Downie, Gwirfoddolwr Coetir a Dŵr  (Hydref 2021 – Medi 2022)

Joe Downie, Gwirfoddolwr Coetir a Dŵr (Hydref 2021 – Medi 2022)

Fe wnaeth CyDA ganiatáu i fi gael y gofod a'r amser i ddatgysylltu ac i fod, ond yn y pen draw ailgysylltu â natur a fi fy hun. Rhoddodd fy nghyfnod o wirfoddoli fwy o eglurder i fi o ran ble ro’n i eisiau mynd mewn bywyd, ond yn bwysicach fyth, pwy o’n i eisiau bod. Rwy’n fythol ddiolchgar am y profiadau ges i a’r bobl wnes i gwrdd â nhw ar hyd y daith. Diolch CyDA... am fod yn ofod o adfywio, natur a'r ysbryd dynol.
Julia Robertson, Gwirfoddolwr Coetir a Dŵr  (Hydref 2021 – Mawrth 2022)

Julia Robertson, Gwirfoddolwr Coetir a Dŵr (Hydref 2021 – Mawrth 2022)

Mae staff a gwirfoddolwyr CyDA wir yn credu yn yr hyn maen nhw’n ei wneud - rhywbeth nad ydych chi’n ei weld mewn llawer o lefydd gwaith. Mae'n lle gwirioneddol ysbrydoledig. Sbardun i gynifer o bobl mewn cymaint o ffyrdd, dyna pam mae cymaint o wirfoddolwyr yn dymuno y gallan nhw aros.
Rachel Solnick – Gwirfoddolwr Gerddi

Rachel Solnick – Gwirfoddolwr Gerddi

CYSYLLTU Â NI

Angen mwy o wybodaeth neu rywfaint o help? Mae croeso i chi gysylltu â ni a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu nôl.