Gwirfoddolwr Dŵr a Choetiroedd
Fel aelod o’r Tîm Coetiroedd a Dŵr, byddwch yn helpu i reoli ein coetiroedd a’n systemau dŵr a glanweithdra oddi ar y grid, a helpu i wneud gwelliannau o amgylch y safle drwy ddefnyddio ein hadnoddau naturiol.
Beth mae CyDA yn ei wneud?
Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau ac offer i helpu pobl i greu newid.
O weithgareddau i blant cyn oed ysgol i raddau ôl-raddedig, rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i helpu i ysbrydoli newid ar draws pob sector. Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, graddau ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – i gyd wedi’u cefnogi gan rwydwaith anhygoel o aelodau a chefnogwyr ar draws y DU a thu hwnt.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel aelod o’r Tîm Coetiroedd a Dŵr, byddwch yn helpu i reoli amrywiaeth o gynefinoedd o amgylch safle CyDA a’n coetir cyfagos, Coed Gwern. Byddwch hefyd yn helpu i gynnal ein systemau dŵr a glanweithdra unigryw oddi ar y grid.
Mae gwirfoddolwyr preswyl yn helpu o 09:00 i 17:00 bum diwrnod yr wythnos, gydag egwyliau, gan weithio fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli dydd rheolaidd, cysylltwch i drafod dyddiau ac amseroedd – volunteering@cat.org.uk
Dŵr
Ar gyfer ein holl ofynion dŵr a glanweithdra, mae CyDA oddi ar y grid yn gyfan gwbl. Fel rhan o’r gwaith o gynnal a chadw ein systemau, byddwch yn dysgu sut rydyn ni’n hidlo dŵr yfed o’n cronfa ddŵr drwy ddefnyddio hidlwyr tywod a hidlwyr UV, a sut rydyn ni’n prosesu ein dŵr llwyd a du gan ddefnyddio toiledau compost a dwy system gwely cyrs ar wahân.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cynnal a chadw systemau dŵr a glanweithdra CyDA oddi ar y grid e.e. newid a gosod pibellau, newid hidlwyr, cynnal a chadw’r gwelyau cyrs).
- Cynnal trefn brofi i sefydlu effeithiolrwydd triniaeth systemau
- Edrych am feysydd i wella effeithiolrwydd y systemau.
- Gweithio gydag aelodau eraill y tîm dŵr a glanweithdra i helpu i ddangos y systemau i ymwelwyr.
- Helpu i ddatblygu deunydd dehongli i alluogi ymwelwyr i ddeall y stori ddŵr.
- Sgiliau tirwedd ac ystâd ymarferol, e.e. adeiladu a gosod ffensys a chlwydi.
Coetiroedd
Caiff ein coetiroedd eu rheoli’n gynaliadwy drwy ddefnyddio technegau effaith isel a chynaliadwy, y bydd cyfle i chi ddysgu amdanyn nhw yn ogystal â datblygu’r sgiliau ymarferol gofynnol, gan ein helpu i gydbwyso’r gofynion cystadleuol am fioamrywiaeth, cynnyrch coetiroedd (gan gynnwys coed tân a deunyddiau adeiladu) a defnydd hamdden ac addysgol.
Sylwer bod y rôl hon yn go wahanol rhwng yr haf a’r gaeaf.
Mae gwirfoddolwyr yr haf yn dueddol o weithio llawer mwy ar gynnal a chadw seilwaith a gwelliannau (adeiladau meinciau, gosod neu atgyweirio ffensys, rheoli llwybrau troed, etc.), gwella bioamrywiaeth (tirfesur, adeiladu a gosod blychau adar/ystlumod/pathewod), a gwelliannau i gynefinoedd (fel pladurio dolydd a thynnu rhododendron).
Mae gwirfoddolwyr y gaeaf yn dueddol o gyflawni mwy o waith sy’n ymwneud â choedwigaeth, gan fwyaf yn cynorthwyo gyda thorri coed a phrosesu cynnyrch coetir, bôn-docio, plannu coed a phlygu perthi.
Beth mae CyDA yn ei ddarparu?
- Hyfforddiant cychwynnol a pharhaus yn ôl y gofyn
- Cefnogaeth a chyfarwyddyd gan oruchwylydd garddio
- Amgylchedd i ddatblygu sgiliau newydd a sgiliau cyfredol
- Y cyfle i gwrdd â phobl newydd
- Llety am ddim ar y safle
- Brecwast, cinio a swper am ddim
- Aelodaeth CyDA am ddim am flwyddyn
- Gostyngiad o 40% oddi ar y rhan fwyaf o gynnyrch ein caffi a’n siop
- Un cwrs byr am ddim a gostyngiad o 50% oddi ar yr ail gwrs
- Tystysgrif ar gyfer eich cyfraniad at CyDA
Am beth rydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:
Hanfodol:
- Eisiau gwneud ymrwymiad rheolaidd i wirfoddoli gyda CyDA.
- Â phrofiad neu’n gyfforddus yn:
- Gweithio yn yr awyr agored (beth bynnag bo’r tywydd)
- Byw gydag eraill.
- Yn frwdfrydig ac yn awyddus i gymryd rhan.
- Yn gyfeillgar ac yn parchu eraill.
- Yn ddibynadwy.
- Yn dilyn cyfarwyddiadau eu goruchwylydd a pholisïau a gweithdrefnau CyDA.
Dymunol:
- Meddu ar wybodaeth, diddordeb neu barodrwydd i ddysgu am gynaliadwyedd a gwaith CyDA.
- Meddu ar rywfaint o wybodaeth flaenorol am reoli safleoedd neu gadwraeth (nid yw hyn yn hanfodol oherwydd gellir darparu’r holl hyfforddiant).
- Meddu ar sgiliau damcaniaethol ac academaidd ac yn awyddus i ddatblygu gwybodaeth ymarferol a thrwy brofiad.
- Meddu ar brofiad gosod plymio.
Bydd angen y brechiadau a’r pigiadau atgyfnerthu diweddaraf canlynol arnoch chi:
- Difftheria
- Polio
- Tetanws
- Hepatitis A
Os na allwch neu os nad ydych yn dymuno cael unrhyw un o’r rhain, bydd gofyn i chi lofnodi ymwadiad.