Gwirfoddolwr Gerddi
Dewch yn wirfoddolwr Gerddi CyDA am gyfle i weithio gyda’n tîm gerddi profiadol a dysgu oddi wrthyn nhw, i gwrdd â phobl ysbrydoledig a diddorol ac i ddod yn rhan annatod o’r hyn y mae CyDA yn ei wneud.
Beth mae CyDA yn ei wneud?
Cenhadaeth CyDA yw ysbrydoli, hysbysu a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, rhannu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau ac offer i helpu pobl i greu newid.
O weithgareddau i blant cyn oed ysgol i raddau ôl-raddedig, rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau i helpu i ysbrydoli newid ar draws pob sector. Mae gweithgareddau allweddol yn cynnwys ein canolfan ymwelwyr, cyrsiau byr, ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, graddau ôl-raddedig, gwasanaeth gwybodaeth a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – i gyd wedi’u cefnogi gan rwydwaith anhygoel o aelodau a chefnogwyr ar draws y DU a thu hwnt.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel aelod o’r Tîm Garddio, byddwch yn helpu i gadw’r gerddi arddangos o amgylch ein canolfan ymwelwyr yn ddiddorol, yn hardd ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cadw’n dda.
Mae gwirfoddolwyr preswyl yn helpu o 09:00 i 17:00 bum diwrnod yr wythnos, gydag egwyliau, gan weithio fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener. Serch hynny, os ydych ar y rota penwythnos i ddyfrhau’r gerddi, cewch ddiwrnod i ffwrdd yn ystod yr wythnos.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli dydd rheolaidd, cysylltwch i drafod dyddiau ac amseroedd – volunteering@cat.org.uk
Mae’r tasgau garddio yn cynnwys:
Haf (Ebrill – Medi)
- Cyfrifoldebau dyddiol fel dyfrhau, agor a chau twnelau polythen
- Defnyddio magwrfeydd i dyfu planhigion o had
- Plannu tu allan
- Compostio
- Rhoi help llaw gyda gweithgareddau i blant ac ymgysylltu ag ymwelwyr
- Chwynnu’r ganolfan ymwelwyr a’i chadw’n daclus (mae hyn yn aml yn cynnwys chwynnu’r llwybrau)
- Cynnal arddangosfeydd yr ardd addysgol
- Darparu rhywfaint o gynnyrch a blodau ffres ar gyfer caffi CyDA
Gaeaf (Hydref-Mawrth)
- Cyfrifoldebau dyddiol a allai gynnwys dyfrhau, agor a chau twnelau polythen
- Yr olaf o gynaeafau’r haf
- Paratoi’r twnelau polythen a’r gerddi ar gyfer y gaeaf
- Rhoi help llaw gyda gweithgareddau i blant ac ymgysylltu ag ymwelwyr
- Gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf a gwaith tirlunio
- Tocio
- Compostio a llwydni dail
- Adeiladu magwrfeydd a dechrau hau
- Tacluso’r gerddi yn y gwanwyn
Beth mae CyDA yn ei ddarparu?
- Hyfforddiant cychwynnol a pharhaus yn ôl y gofyn
- Cefnogaeth a chyfarwyddyd gan oruchwylydd garddio
- Amgylchedd i ddatblygu sgiliau newydd a sgiliau cyfredol
- Y cyfle i gwrdd â phobl newydd
- Llety am ddim ar y safle
- Brecwast, cinio a swper am ddim
- Aelodaeth CyDA am ddim am flwyddyn
- Gostyngiad o 40% oddi ar y rhan fwyaf o gynnyrch ein caffi a’n siop
- Un cwrs byr am ddim a gostyngiad o 50% oddi ar yr ail gwrs
- Tystysgrif ar gyfer eich cyfraniad at CyDA
Am beth rydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:
- â phrofiad o weithio yn yr awyr agored neu’n gyfforddus â gwneud hynny (beth bynnag bo’r tywydd)
- yn mwynhau byw a gwirfoddoli gydag eraill
- yn frwdfrydig ac yn awyddus i gymryd rhan
- yn gyfeillgar ac yn parchu eraill
- yn ddibynadwy
- yn dilyn cyfarwyddiadau eu goruchwylydd a pholisïau CyDA
- meddu ar wybodaeth, diddordeb neu barodrwydd i ddysgu am gynaliadwyedd a gwaith CyDA.
Bydd angen y brechiadau a’r pigiadau atgyfnerthu diweddaraf canlynol arnoch chi:
- Difftheria
- Polio
- Tetanws
- Hepatitis A
Os na allwch neu os nad ydych yn dymuno cael unrhyw un o’r rhain, bydd gofyn i chi lofnodi ymwadiad.