Gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr CyDA

Gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr CyDA


Home » Gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr CyDA

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr CyDA yn ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr gan bobl sydd â dealltwriaeth o dirlun gwleidyddol ac economaidd Cymru,  a/neu brofiad mewn cyllid neu gyfrifeg.

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn elusen amgylcheddol sy’n adnabyddus ar draws y byd, ac yn ganolfan eco flaenllaw yn y byd, ac yn un o ddarparwyr pennaf addysg amgylcheddol ôl-raddedig yn y DU, sydd wedi’i lleoli ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru.

Mae ein Hymddiriedolwyr yn cynnig trosolwg strategol hanfodol o’n gwaith, nad yw fyth wedi bod mor bwysig ag y mae ar yr adeg hon lle y gwelir angen dybryd i gynnig datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae’r Bwrdd yn ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr CyDA gan bobl sydd â phrofiad ym maes cyfrifeg a thirlun gwleidyddol Cymru. Siaradwyr Cymraeg yn ddymunol iawn.

Yn arbennig, byddem yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr iau, siaradwyr Cymraeg, a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Y dyddiad cau er mwyn cael datganiadau o ddiddordeb mewn bod yn ymddiriedolwr yw 31 Ionawr 2025.

I ddysgu mwy am y rôl a sut i ymgeisio, lawrlwythwch ein Gwybodaeth i Ddarpar Ymddiriedolwyr - 2025