‘EarthArt’ i’w gweld yr haf hwn yn ein cymunedau

‘EarthArt’ i’w gweld yr haf hwn yn ein cymunedau


Home » ‘EarthArt’ i’w gweld yr haf hwn yn ein cymunedau

Mae arddangosfa newydd o gelf gymunedol sydd wedi’i hysbrydoli gan yr  amgylchedd. Fe grëwyd yr arddangosfa mewn cyfres o weithdai lleol ac sy’n cael ei harddangos yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) yn ystod yr haf.

Dan arweiniad y grŵp celf cymunedol Celf-Able, sy’n cael ei gynnal gan artistiaid anabl ac artistiaid gydag anabledd o Sir Drefaldwyn. Fe gynhaliodd y prosiect ‘DaearGelf/EarthArt’ weithdai mewn cymunedau lleol ar draws Canolbarth Cymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, gan wahodd cyfranwyr i weld sut mae byw’n gynaliadwy yn gallu bod o fewn cyrraedd pawb. Roedd cyfle i’r cyfranwyr i fynegi eu meddyliau a’u teimladau ar y materion hyn trwy gyfrwng celf.

Yn ôl cydlynydd y prosiect, Amanda Wells: “Mae’r prosiect yn edrych ar y cysylltiadau rhwng cyfiawnder o ran hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol, gan ddefnyddio celf fel ffordd o archwilio a chyfleu meddyliau a theimladau ar y materion dan sylw. Rydyn ni wedi bod yn ymdrin â phob math o gelf, gan gynnwys animeiddio, celf y tir, pypedau cysgod, a llawer mwy. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at rannu’r gwaith gydag ymwelwyr â CyDA yn ystod yr haf hwn.”

Cynhelir yr arddangosfa rhwng 18 Mehefin a 15 Gorffennaf gyda mynediad am ddim i CyDA.

Exhibition

 

YMWELD Â CYDA

Beth am arbed amser drwy archebu eich tocynnau ymlaen llaw arlein?