Mae Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon yn helpu i droi datganiadau am yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn gamau gweithredu. Gydag atebion technolegol ar gael yn rhwydd, mae momentwm yn cynyddu yn ein trefi a’n dinasoedd i gyrraedd sero net cyn gynted â phosib.
Rydym yn rhoi’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau i gynghorau, cymunedau a sefydliadau eraill i drawsnewid systemau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol cymhleth a sicrhau allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2040. Gwnawn hyn drwy ystod o gyrsiau hyfforddi, digwyddiadau, adroddiadau ymchwil manwl, prosesau labordy arloesi a hwb adnoddau ar-lein sy’n rhad ac am ddim. Rydym yn integreiddio ein dysgu ar draws y gweithgareddau hyn i’w gwella’n barhaus ac rydym yn rhannu’r wybodaeth orau sydd ar gael gyda’r rhai yr ydym yn gweithio gyda hwy a rhyngddynt.
Hwb a Labordy Arloesi Prydain Di-garbon – Crynodeb Gweithredol