
LABORDY ARLOESI
Prydain Di-Garbon
Dod â grwpiau aml-randdeiliaid ynghyd i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o wneud pethau fydd yn gwneud i sero net ddigwydd.
Mae prosesau penderfynu cyfredol yn aml yn ei chael hi’n anodd gweld y system gyfan a thynnu ar wybodaeth, profiad a safbwyntiau amrywiol y rhanddeiliaid sy’n rhan ohoni. Gall dwyn pobl o wahanol sectorau ynghyd helpu i adnabod atebion sy’n gweithio ar draws ystod gymhleth o feysydd rhyngweithiol; atebion sydd, nid yn unig yn cynnig datrysiadau technegol, ond sydd hefyd yn helpu i oresgyn rhwystrau gwleidyddol, diwylliannol a seicolegol.
Nod Labordy Arloesi Prydain Di-garbon yw datgloi atebion cynaliadwy i heriau penodol, gan gyfrannu at yr ymdrech i atal y lefelau mwyaf peryglus o newid hinsawdd.
Bydd y Labordy yn cynnig cyfleoedd i ddinasyddion, ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau, llywodraethau a sefydliadau eraill i gydweithio a chyd-ddylunio atebion arloesol ac effeithiol i’r argyfwng hinsawdd. Bydd yn gwneud hyn drwy aml brosesau’r labordy arloesi, sydd pob un, yn mynd i’r afael â rhwystr penodol i’r nod o gyrraedd sero net.
Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion neu i ganfod mwy.
Adroddiadau diweddaraf y labordy arloesi
Darllenwch ein hadroddiad diweddaraf, sy’n archwilio sut y gall cynghorau weithredu gyda’i gilydd ar ddatganiadau Argyfwng Hinsawdd, yn seiliedig ar ddysgu o Labordy Arloesi Cynghorau Swydd Stafford. Mae’r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.
Beth yw proses labordy arloesi?
Mae proses labordy arloesi yn cael ei dylunio’n drylwyr a’i hwyluso gan arbenigwr i gynorthwyo grwpiau aml-randdeiliaid i fynd i’r afael â phroblem gymdeithasol gymhleth, gyda’r nod o drawsnewid y system gyfredol er mwyn datrys y broblem honno.

Hyfforddiant a Digwyddiadau Prydain Di-garbon
Archwiliwch sut y gallwn greu cymdeithas fodern di-allyriadau. Mae ein cyrsiau yn cael eu datblygu a’u diweddaru’n gyson i ddod â’r syniadau a’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Pob Adroddiad
Mae ein holl adroddiadau Prydain Di-garbon yn canolbwyntio ar atebion ac yn archwilio’r rhwystrau posib i gyrraedd Prydain Di-garbon, a sut y gellir eu goresgyn. Mae’r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.

Ysgol y Graddedigion
Dewch i archwilio atebion cynaliadwy a datblygu sgiliau ymarferol ar gwrs Ôl-raddedig CyDA. Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd – bydd y Gymraeg ar gael yn fuan.
Cwrdd â’r Tîm
Rachel Tuckett
Innovation Lab Manager
An experienced facilitator, bringing over 10 years’ experience in the UK Civil Service, Rachel is committed to helping organisations deliver a just transition.
Paul Allen
Knowledge and Outreach Coordinator
John Anderson
Zero Carbon Britain Trainer/Facilitator
Newyddion diweddaraf o CyDA
-

I ddynodi’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yma, rydym yn dathlu sut mae CyDA yn ysbrydoli, hysbysu a galluogi gyrfaoedd gwyrdd dylanwadol. Wrth i’r argyfwng hinsawdd a…
-

Bydd Arweinydd y Rhaglen, Dr Carl Meddings, yn rhannu detholiad o brosiectau dylunio terfynol ein myfyrwyr M.Arch Pensaernïaeth Gynaliadwy, gan arddangos dylunio atgynhyrchiol mewn byd…
-

Yma yn CyDA, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig mewn cynaliadwyedd ac mae ein hopsiynau dysgu hyblyg yn caniatáu i fyfyrwyr astudio gyda ni…

Cofrestru ar gyfer E-bost
Cadwch lygad ar y gweithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru i dderbyn ein negeseuon e-bost a’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelodau CyDA.







