CHERISH: Stori am newid hinsawdd a threftadaeth
Mai, 31 2023Home » CHERISH: Stori am newid hinsawdd a threftadaeth
Ymunwch â thîm CHERISH i ddysgu am effaith newid yn yr hinsawdd ar ein treftadaeth arfordirol frau.
Mae’r Prosiect CHERISH, sy’n dalfyriad o Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd, yn brosiect amlddisgyblaethol sy’n edrych ar effaith newid yn yr hinsawdd ar ein treftadaeth arfordirol frau.
Gyda’r DU ac Iwerddon yn mynd i brofi mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol, bydd y newidiadau a ragwelir yn cael pob math o effeithiau ar ein treftadaeth arfordirol. Bydd erydu arfordirol a difrod i adeiladau o ganlyniad i ymchwydd stormydd, y tebygrwydd cynyddol o lifogydd yn ystod cyfnodau o lawiad uchel ac wynebau clogwyni’n sychu mewn cyfnodau o wres tanbaid i gyd yn effeithio ar ein harfordir.
Bydd arddangosfa deithiol y prosiect sy’n edrych ar y themâu pwysig hyn i’w gweld yn CAT rhwng 10 Mai ac 8 Mehefin ac ar ddydd Mercher 31 Mai. Bydd y tîm wrth law i helpu i esbonio’r delweddau a’r data drwy sesiynau holi ac ateb, modelau rhyngweithiol a gweithgareddau gyda phwyslais ar archeoleg a gwyddoniaeth paleoamgylcheddol.
Addas i bob oed.
Gwybodaeth allweddol
- Amseroedd dechrau a gorffen: 10am tan 3pm
- Lleoliad: Y Ganolfan Wybodaeth a’r Oriel Arddangos (wrth yr orsaf rheilffordd halio uchaf).
- Cost: Am ddim gyda thocyn mynediad.