Cynllunio eich Ymweliad
Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Mae CYDA yn cynnwys yr holl gyfleusterau gofynnol ar gyfer ymweliad grŵp unigryw ac ysbrydoledig – gyda 24 erw o erddi, coetiroedd ac arddangosiadau ac arbenigwyr mewn amrywiaeth eang o ddatrysiadau cynaliadwy. Dewiswch o blith gweithdai, anerchiadau a theithiau, y gallwn eu teilwra i’ch grŵp chi.
Mae gennym lety a gwasanaeth arlwyo ar y safle hefyd, ynghyd â lle i barcio bysiau am ddim a thîm digwyddiadau penodedig er mwyn helpu i reoli eich archeb.
Am ragor o wybodaeth, trowch at ein tudalen Cwestiynau ac Atebion neu cysylltwch â’n tîm trwy ddefnyddio’r ffurflen ymholiadau isod.
GWEITHDAI, TEITHIAU AC ANERCHIADAU
CYFLEUSTERAU A LLEOEDD ER MWYN CYNNAL DIGWYDDIADAU
Aros
ARLWYO LLYSIEUOL
CYRRAEDD CYDA
Cyn eich ymweliad
A fydd angen i mi archebu ymlaen llaw?Bydd. Rhaid i bob archeb grŵp gyda CYDA gael eu harchebu ymlaen llaw.
Oes, rydym yn cynnig rhaglenni addysgiadol a phleserus o weithdai, anerchiadau a theithiau tywys wedi’u teilwra i amrywiaeth eang o grwpiau gan gynnwys grwpiau ysgol, coleg a phrifysgol, grwpiau cymunedol, grwpiau corfforaethol, teithio ar gyfer grwpiau a mwy.
Fel rhan o becyn grwpiau wedi’i archebu ymlaen llaw, gall grwpiau drefnu eu bod yn cael archwilio arddangosiadau’r ganolfan ymwelwyr, adeiladau o ddiddordeb hanesyddol, gerddi organig prydferth a chyfleusterau coetir a reolir mewn ffordd gynaliadwy. Siaradwch â chydlynydd eich grŵp i wneud trefniadau.
Mae hyn yn dibynnu’n fawr ar eich math o grŵp, pryd y byddwch yn dod a’r math o raglen addysgiadol yr ydych yn chwilio amdani. Holwch ein tîm grwpiau i gael gwybod mwy.
Defnyddiwch y ffurflen ymholiad archebu uchod neu anfonwch e-bost at education@cat.org.uk.
Oes mae gennym ddigon o le parcio am ddim ar gyfer bysiau. Rhowch wybod eich gofynion i ni cyn dod fel y gallwn sicrhau bod digon o le.
Mae ein polisi canslo yn amrywio, ac mae’n dibynnu ar ffactorau megis maint y grŵp a’r rhybudd a roddir. Trowch at ein hamodau a thelerau ar gyfer archebion grŵp neu cysylltwch â’n tîm archebu am ragor o wybodaeth.
Gall caffi CYDA sy’n hollol llysieuol ac sy’n annwyl gan bawb, ddiwallu anghenion eich grŵp yn llawn. Cynigir brecwast blasus wedi’i goginio, dewisiadau cinio poeth ac oer sy’n defnyddio cynnyrch o’r gerddi, a detholiad sylweddol o brydau gyda’r hwyr, ynghyd â diodydd poeth, teisennau a mwy. Rhaid archebu’r holl fwyd ymlaen llaw, felly gwnewch ymholiad.
Mae ein caffi yn hollol llysieuol ac mae’n cynnig amrywiaeth o ddewisiadau figan safonol. Mae ein tîm proffesiynol yn brofiadol iawn wrth arlwyo ar gyfer pob math o ofynion dietegol.
A fyddech gystal â hysbysu cydlynydd eich grŵp o unrhyw ofynion dietegol yn eich grŵp o leiaf bythefnos cyn dyddiad eich archeb.
Hygyrchedd a Chyrraedd CyDA
A yw’r safle yn cynnig mynediad i’r anabl?Mae lleoedd parcio i’r anabl ar gael ar ben y ffordd sy’n cychwyn ger adeilad yr orsaf waelod ac mae modd holi i gydlynydd eich grŵp eu cadw ar eich cyfer. Fel arall, ceir mynediad i’r ganolfan ymwelwyr trwy’r llwybr coetir neu’r dramwyfa, y mae’r ddau ohonynt yn eithaf serth.
I gyrraedd y maes parcio, gyrrwch i fyny’r lôn i’r chwith o’r brif swyddfa docynnau. A fyddech gystal â chymryd gofal gan bod y lôn honno yn cael ei defnyddio fel mynedfa ar droed i ymwelwyr hefyd.
Lleolir yr arddangosiadau ar draws safle 7 erw yn yr awyr agored. Mae rhan fwyaf y llwybrau o gwmpas y safle wedi’u gwneud o agregau cywasgedig ac maent yn wastad ar y cyfan; fodd bynnag, efallai y bydd angen cymorth ar ddefnyddwyr cadair olwyn ar y rhain, yn enwedig yn ystod tywydd garw.
Mae mynediad gwastad neu gyda chymorth ramp i’r holl adeiladau, ac mae’r mynedfeydd a’r coridorau yn ddigon llydan ar gyfer cadair olwyn. Ceir toiledau hygyrch i’r anabl yn yr adeilad derbynfa ger y maes parcio gwaelod ac ar ben y rheilffordd clogwyn.
Mae gennym sgwteri symudedd trydan a chadair olwyn, a gellir llogi’r rhain yn rhad ac am ddim trwy anfon e-bost at visit@cat.org.uk mewn da bryd cyn eich ymweliad.
Mae adeilad WISE CYDA yn cynnwys dwy ystafell wely sy’n hollol bwrpasol ar gyfer ymwelwyr sydd ag anghenion symudedd ychwanegol. A fyddech gystal â sôn wrth gydlynydd eich grŵp os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol yr hoffech eu trafod. Mae eco-gabanau CYDA yn hollol hygyrch hefyd.
Mae gan CYDA orsaf wefru cerbydau trydan gyhoeddus sydd ar gael i ymwelwyr ei defnyddio AM DDIM.
Rhaid archebu hwn ymlaen llaw. Cysylltwch â chydlynydd eich grŵp i gadw slot amser.
Mae’r pwynt gwefru yn soced Math 2 32 amp (neu Mennekes), sy’n caniatáu gwefru cyflym, hyd at 4 awr fel arfer. Dylech ddod â’ch ceblau gwefru eich hun gyda chi.
Mae gennym ddigon o leoedd parcio am ddim ar gyfer ceir a bysiau.
Oes, mae siediau beiciau sy’n cynnwys cyfleusterau cloi yn y maes parcio gwaelod.