TOCYNNAU CANOLFAN YMWELWYR

Archebwch eich tocynnau i Ganolfan Ymwelwyr CyDA arlein heddiw a pharatowch i archwilio byd o gynaladwyedd, adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy yma yn CyDA.

Gwybodaeth bwysig

  • Mae croeso i gŵn.
  • Ceir mynediad drwy reilffordd clogwyn cydbwysedd dŵr hollol hygyrch CyDA.
  • Mae parcio hygyrch ar gael i’r rheiny sydd ei angen.
  • Mae CyDA ar agor rhwng 10am a 5pm.

Tocynnau Mynediad

Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw

Prisau’r Haf (Cychwyn31 Mawrth 2023)

  • Oedolyn: £9.5
  • Consesiwn: £8.5*
  • Plentyn: £4.5**

*Consesiwn: myfyrwyr, pobl dros 60 oed a phobl ddi-waith.
**Plentyn: 4-16 oed. Dan 4 oed – am ddim.

Aelodau, pobl leol a gostyngiadau

Nid yw ein tocynnau disgownt ar gael arlein, felly os ydych yn aelod o CyDA, yn byw’n lleol (o fewn codau post SY19 a SY2), yn teithio i CyDA heb gar neu yn meddu ar daleb disgownt, dewch draw ar y diwrnod!

Dewch â’ch cerdyn aelodaeth, tocyn rhad neu brawf o’ch cyfeiriad gyda chi pan fyddwch yn ymweld i ddangos eich bod yn gymwys i gael mynediad am ddim neu ddisgownt.

Searching Availability...

Cynllunio eich Ymweliad

Am ragor o wybodaeth am y newidiadau a wnaed i helpu i sicrhau eich bod yn cael ymweliad diogel a phleserus, taflwch olwg ar yr adran Cwestiynau Cyffredin.