Teithio Cymelliadol
Mae gan CyDA lawer iawn i’w gynnig i unrhyw grŵp o unrhyw ddiwydiant. Mae ein hanes cyfoethog, ein bioamrywiaeth ffyniannus, ein haddysg cynaliadwyedd a’n cyfleusterau arloesol yn arwain y ffordd ym maes eco-dwristiaeth.
Yn ei lleoliad unigryw o fewn Biosffer Dyfi UNESCO, ardal a gydnabyddir am ei pherthynas gytbwys rhwng pobl a natur, gall CyDA gynnig gweithgareddau grŵp o fewn y ganolfan ymwelwyr a ledled yr ardal gyfagos hefyd.
Mae gan dîm digwyddiadau CyDA brofiad o ddarparu profiadau proffesiynol a phwrpasol a lletygarwch corfforaethol ar gyfer grwpiau amrywiol o bob maint.
Teithiau o gwmpas CyDA a thu hwnt
Amrywiaeth eang o weithdai
Dysgwch wrth yr arbenigwyr
Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol...
Ymunwch â’r meistr grefftwr Carwyn Lloyd Jones i ddysgu sut i wneud tŷ bychan hardd a phwrpasol o’r gwaelod i fyny, gan gynnwys ffrâm bren, y tu mewn a systemau adnewyddadwy perthnasol.