Two members talking at the CAT Conference

Home » Dewch i CyDA » Grwpiau a Dysgu » Grwpiau Corfforaethol

Grwpiau Corfforaethol

Mae CYDA yn ganolfan eco byd enwog sy’n ymchwilio ac yn cefnogi ffyrdd gwyrddach o fyw.

Mae ein canolfan ymwelwyr 7 erw yn cynnig arddangosfeydd ynni adnewyddadwy ymarferol, amrywiaeth eang o enghreifftiau o adeiladu amgylcheddol-gyfrifol, gerddi organig hardd a gweithdai ymarferol. Mae 17 erw arall yn ymestyn i fyny i’r bryniau coediog o amgylch y ganolfan gyda golygfeydd godidog o Fiosffer Dyfi i’w gweld o Lwybr y Chwarel.

Cymerwch ran mewn gweithgareddau adeiladu cynaliadwy, ewch am daith o gwmpas safle CYDA i ymchwilio i’n hanes a’n bioamrywiaeth, neu archwiliwch brosiect ymchwil arloesol CYDA – Prydain Di-garbon.

Mae CYDA mewn lleoliad prydferth a delfrydol yng nghanolbarth Cymru, ddwy awr yn unig ar drên o Birmingham.

Writing on a Straw Bale

Mae CyDA yn ganolfan addysg sy’n cynnig rhaglen helaeth ac amrywiol o gyrsiau byr ac Ysgol i Raddedigion ar y safle. Mae hyn yn golygu bod gennym gronfa helaeth o arbenigwyr gwybodus wrth law i gynnal gweithgareddau.

Volunteer in the garden

Mae gan CyDA lawer iawn i’w gynnig i unrhyw grŵp o unrhyw ddiwydiant. Mae ein hanes cyfoethog, ein bioamrywiaeth ffyniannus, ein haddysg cynaliadwyedd a’n cyfleusterau arloesol yn arwain y ffordd ym maes eco-dwristiaeth.

Sheppard Theatre
Double accommodation in WISE
Food from the CAT cafe