Lles Gwyllt – Crefftau Coetir Traddodiadol

Lles Gwyllt – Crefftau Coetir Traddodiadol


Home » Lles Gwyllt – Crefftau Coetir Traddodiadol

Diwrnod allan hamddenol ac ymwybyddol ofalgar yng nghoed CYDA.

Byddwn yn archwilio ecoleg coetir, yn cael profiad ymarferol o waith pren gwyrdd, yn dysgu am dwrio am ddeunyddiau ar gyfer prosiectau, a phopeth arall perthnasol yn ystod y diwrnod allan hamddenol hwn yng nghoed CYDA.

Ymdrochi yng nghynefin coetir CYDA yw’r amgylchedd perffaith er mwyn archwilio’r trawsnewidiad lle y bydd deunyddiau sy’n rhan o eco-system fyw yn cael eu cynaeafu a’u defnyddio fel adnodd.

Trwy gydol y dydd, byddwch yn cael dirnadaeth o’r ffordd y mae CYDA yn rheoli ein cynefinoedd coetir ar gyfer bioamrywiaeth, byddwch yn archwilio sut i ddewis deunyddiau o bersbectif ecolegol ac ymarferol, a byddwch yn cael profiad ymarferol o dechnegau gwaith pren gwyrdd wrth i chi greu mainc gyda’ch gilydd.

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer llaw traddodiadol gan gynnwys mainc llyfnu a thurn polyn i greu coesau, gwerthydau a sedd y fainc.

Prif ffocws y diwrnod yw cael profiad o’r broses, o archwilio a dysgu i gynaeafu a chreu.  Gan ddibynnu ar yr amser, efallai na fydd y grŵp yn llwyddo i orffen mainc yn ystod y sesiwn grefftio.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd:  un diwrnod:
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 10yb ac yn gorffen am 5:00yp
  • Ffi:  £125
  • Bydd yn cynnwys:  hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, cinio
  • Bydd angen esgidiau a dillad priodol arnoch er mwyn treulio diwrnod allan yng ngerddi CyDA.
  • Amodau a Thelerau:

Searching Availability...