Gwely a Brecwast

Gwely a Brecwast

Home » Dewch i CyDA » Aros » Gwely a Brecwast

Arhoswch yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) a mwynhewch olygfeydd godidog o odre Parc Cenedlaethol Eryri, dair milltir yn unig i ffwrdd o dref farchnad hanesyddol Machynlleth.

Gallwch aros mewn ystafell sy’n cynnwys gwely dwbl neu ddau wely, ynghyd â’ch ystafell ymolchi eich hun, yn ein hadeilad WISE, gan fwynhau brecwast o’n bwyty llysieuol.

Gall gwesteion fwynhau crwydro coetiroedd a gerddi CyDA a reolir mewn ffordd gynaliadwy, neu fynd am dro ar hyd ein Llwybr Chwarel, sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws Dyffryn Dulas ac i mewn i’r hen chwarel lechi yr adeiladwyd CyDA arni.

CYDA yw’r lle perffaith i aros er mwyn archwilio tref gyfagos Machynlleth, gyda’i stryd fawr lewyrchus o siopau annibynnol, caffis a thafarndai, neu i ailgysylltu â byd natur ym mryniau, coetiroedd a thraethau Canolbarth Cymru.

Os hoffech drefnu ymweliad grŵp, cysylltwch.  Gallwn drefnu ymweliad wedi’i deilwra i chi, sy’n cynnwys teithiau a gweithdai gyda’n tîm arbenigol

Mae ystafelloedd hygyrch ar gael o wneud cais, ond nid oes modd eu harchebu ar-lein.  Cysylltwch os oes angen ystafell hygyrch arnoch – anfonwch e-bost at wise.reception@cat.org.uk neu ffoniwch +44(0)1654 705950.

Mae llety gwely a brecwast ar gael pan fydd lle gennym rhwng cyrsiau a grwpiau, felly dim ond am hyd at 90 diwrnod ymlaen llaw y mae modd ei archebu.  Dylech fod yn ymwybodol o’r ffaith y gallech fod yn aros yn CyDA ar yr un pryd â grŵp neu gwrs.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae pob ystafell yn cynnwys ystafell ymolchi
  • Mae ystafelloedd ar gael sy’n cynnwys gwely dwbl neu ddau wely
  • Mae’r pris yn cynnwys brecwast llysieuol blasus wedi’i goginio neu frecwast cyfandirol
  • Efallai y byddwn yn gallu cynnig cinio, swper neu (ar gyfer grwpiau mwy o faint), bar, er nad yw hyn wastad yn bosibl – cysylltwch i holi
  • Mae cyfleuster wifi am ddim ar gael
  • Mae modd cyrraedd y safle ar drafnidiaeth gyhoeddus a Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
  • Mae lle parcio am ddim ar gael ar y safle
  • Nid oes setiau teledu yn yr ystafelloedd gwely
  • Rydym yn defnyddio systemau hidlo dŵr naturiol felly dim ond pethau ymolchi bioddiraddadwy a ganiateir
  • Mae modd archebu lle gwely a brecwast am hyd at 90 diwrnod cyn i chi ddod yma – os hoffech archebu lle cyn hynny, cysylltwch
  • Os hoffech aros yn CyDA yn ystod y 48 awr nesaf, ffoniwch ni ar +44(0)1654 705950
  • Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch!

Cysylltu â ni:  Anfonwch e-bost at wise.reception@cat.org.uk neu ffoniwch ni ar +44(0)1654 705950

Searching Availability...