Plannu ar gyfer Bywyd Gwyllt

Plannu ar gyfer Bywyd Gwyllt


Home » Plannu ar gyfer Bywyd Gwyllt

Bydd y cwrs byr undydd hwn yn archwilio’r elfennau sylfaenol o sut i gefnogi bywyd gwyllt yn eich gardd neu ofod awyr agored – o ddewis y planhigion cywir, cynllunio, cynnal a chadw a thu hwnt.

Gyda cholled bioamrywiaeth yn cynyddu ar draws y byd, gall bob darn o ofod gwyrdd wneud gwahaniaeth. Dewch i dreulio diwrnod yn paratoi’r gerddi yn CyDA ar gyfer y tymor o’n blaen wrth ddysgu sut i greu hafan ar gyfer bywyd gwyllt gyda garddwr CyDA.

Cyfle perffaith i unrhyw un sy’n awyddus i greu eu gardd neu ofod awyr agored yn amgylchedd ffyniannus a chyfeillgar ar gyfer bywyd gwyllt. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol.

Gwybodaeth Allweddol

  • Hyd:  un diwrnod
  • Dyddiad nesaf:  24 Mai
  • Amseroedd cychwyn a gorffen:  bydd yn cychwyn am 9:30yb ac yn gorffen am 5yp
  • Ffi:  £125
  • Bydd yn cynnwys:  hyfforddiant, cinio bwffe.
  • Bydd angen:  bydd dillad dal dŵr ac esgidiau priodol i’w gwisgo yn yr awyr agored yn hanfodol
  • Amodau a Thelerau:

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Darganfyddwch hanfodion paratoi pridd, chwynnu detholus, a dewis planhigion addas ar gyfer denu pryfed peillio ac adar.

Byddwch yn meithrin y sgiliau ymarferol i gynllunio a gweithredu gardd sy’n darparu bwyd, cysgod, a deunyddiau nythu, gan gefnogi amrywiaeth gyfoethog o adar, pryfed ac ymwelwyr gardd arall.

Manylion y Tiwtor

Veronica Henry

Mae Veronica wedi bod yn Geidwad Gerddi CYDA er 2021.  Gan ddwyn dull holistig tuag at arddio, mae angerdd Veronica ynghylch creu mannau llewyrchus a bioamrywiol yn yr awyr agored yn heintus, ac mae ei chyrsiau yn llawn cyfoeth o wybodaeth garddio tymhorol ac ymarferol.

Searching Availability...