Mwy o ynni solar ar gyfer CYDA

Mwy o ynni solar ar gyfer CYDA


Home » Mwy o ynni solar ar gyfer CYDA

Wrth i’r galw i wefru cerbydau trydan gynyddu ymhlith ein myfyrwyr a’r grwpiau sy’n ymweld â ni, rydym yn gweithio gyda phrosiect ynni adnewyddadwy cymunedol lleol i ychwanegu tua 50kW o gyfleuster cynhyrchu ffotofoltäig newydd i system bŵer ein safle.

Yn ogystal â defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, mae cynyddu’r cyflenwad adnewyddadwy er mwyn bodloni galw CYDA am ynni wedi bod yn flaenoriaeth o’r cychwyn. Dros y degawdau, a chan barhau heddiw, rydym wedi bod yn cynorthwyo prosiectau ynni cymunedol lleol er mwyn galluogi i hyn ddigwydd.

Yn ôl yn 2000, bu CYDA yn gweithio gyda grŵp o arbenigwyr brwdfrydig lleol o’r enw Bro Dyfi Community Renewables (BDCR) i ddatblygu cynllun pŵer gwynt cymunedol. Cytunodd CYDA brynu’r pŵer wrth dyrbin gwynt cychwynnol BDCR. Byddai hwn yn cynnig cyfle arloesol i ddangos ynni adnewyddadwy cymunedol i’n hymwelwyr a’n myfyrwyr, gan sicrhau cyflenwad o drydan glân ar yr un pryd.

Ers hynny, mae BDCR wedi mynd o nerth i nerth. Yn 2010, roedd buddsoddiadau gan gyfranddalwyr lleol wedi galluogi’r grŵp i osod tyrbin gwynt Nordtank 500kW wedi’i adnewyddu ar y bryn uwchben CYDA, sydd wedi gweithio’n dda, gan gynhyrchu ynni glân, a rhannu’r incwm gyda phobl leol a defnyddio’r elw ar gyfer prosiectau budd cymunedol.

Peirianwyr yn gosod ceblau er mwyn cysylltu gydag aráe PV BDCR
Peirianwyr yn gosod ceblau er mwyn cysylltu gydag aráe PV BDCR

Ychwanegu PV i’r gymysgedd

Fel erioed, mae BDCR yn teimlo’n frwdfrydig ynghylch cynyddu gweithgarwch cynhyrchu pŵer adnewyddadwy cymunedol ac mae bellach yn cynnwys technoleg ffotofoltäig (PV).  Mae cymysgu gwynt a PV yn gweithio’n dda iawn, gan eu bod yn tueddu i gynhyrchu pŵer ar wahanol adegau, felly maent yn gwneud y defnydd gorau o’r safle a’r cysylltiad â’r grid.  Gyda chymorth Ynni Cymru, mae BDCR wedi gosod aráe PV 300kW newydd ar safle ei dyrbin gwynt.  Roedd CYDA yn awyddus i gefnogi hyn trwy brynu rhywfaint o’r trydan solar newydd trwy gysylltiad cyflenwi preifat.  Ar adegau brig, bydd hyn yn galluogi safle CYDA i fanteisio ar tua 50kW o bŵer adnewyddadwy ychwanegol.  Gan bod yr aráe PV newydd a osodwyd ar y ddaear tua 1 cilomedr o safle CYDA, bu angen ychwanegu cebl cysylltu.  Adnewyddwyd ac ail-gomisiynwyd cebl a oedd yn bodoli eisoes o’r tyrbin gwynt V17 cyntaf, wrth i BDCR allgludo pŵer i ystafell reoli ynni CYDA yn uniongyrchol.

Gwnaethpwyd y gwaith gosod a’r gwaith cysylltu yn CYDA gan arbenigwyr a gosodwyr lleol, gan gefnogi’r gymuned ar stepen drws CYDA.  Bellach, mae BDCR yn ystyried lansio cynnig cyfranddaliadau lleol arall, a fyddai’n cynyddu ei aelodaeth ac yn rhannu’r incwm gyda’r gymuned ehangach.

Uned y cynhwysydd storio batris yn cyrraedd safle CYDA
Uned y cynhwysydd storio batris yn cyrraedd safle CYDA

Sut caiff yr ynni adnewyddadwy ychwanegol hwn ei ddefnyddio?

Wrth i niferoedd cynyddol o bobl deithio i CYDA mewn ceir trydan ac ar feiciau trydan, bydd y datblygiad newydd hwn yn helpu i fodloni’r galw i wefru’r cerbydau hyn.

Fel rhan o’r prosiect, bydd un o gwmnïau deillio CYDA, DULAS Ltd yn gosod uned gynhwysydd gerllaw’r lle parcio.  Bydd ystafell reoli yn hon a fydd yn cynnwys gwerth 50kw-awr o drydan wedi’i storio mewn batris, ynghyd ag offer rheoli, a fydd yn hygyrch er mwyn cynorthwyo addysgu ar y safle.  Ar y tu allan, byddwn yn gosod dau declyn gwefru car 22kW newydd, y bydd pobl yn gallu eu defnyddio gyda cherdyn neu trwy sganio cod QR a thalu ar-lein.  Bydd teclyn gwefru e-feic hefyd, a darpariaeth er mwyn cloi a gwefru dau feic.

Byddai modd cynyddu capasiti y batris yn ôl yr angen, oherwydd y byddant yn dod yn bwysicach wrth amsugno gweithgarwch cynhyrchu gormodol wrth i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol symud yn eu blaen, ac wrth i gyfanswm y dechnoleg PV ar adeiladau gynyddu.

Peirianwyr BDCR yn gosod system reoli a storio batris
Peirianwyr BDCR yn gosod system reoli a storio batris

Bwriedir cwblhau’r prosiect hwn erbyn diwedd mis Mawrth 2025, sy’n golygu y bydd CYDA yn cael budd gan dymor PV cyflawn yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru