Ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu ymlaen llaw yn unig (cyrsiau, digwyddiadau, Gwely a Brecwast, grwpiau, myfyrwyr) – darllen mwy
Archwilio â’ch synhwyrau: yn un â natur

Archwilio â’ch synhwyrau: yn un â natur


Home » Gweithgareddau i’r Teulu » Archwilio â’ch synhwyrau: yn un â natur

Mae anifeiliaid yn dibynnu ar eu synhwyrau craff i ganfod bwyd a dŵr, osgoi peryglon, canfod cymar, diogelu eu cartref a llawer o bethau eraill sy’n bwysig mewn bywyd.

Fel anifeiliaid, mae gennym ni hefyd y gallu i weld, clywed, teimlo, arogleuo a blasu i’n helpu i lywio drwy fywyd. Ond yn ein byd modern, rydym yn dibynnu llai a llai ar y galluoedd arbennig hyn. Gall hyn olygu ein bod bellach yn llai sylwgar o’r byd naturiol o’n cwmpas lle gall newidiadau for yn gynnil ac anamlwg.

Y newyddion da yw, gydag ychydig o awgrymiadau a chyngor a rhywfaint o ymarfer, gallwn yn hawdd ailddarganfod ein pwerau synhwyraidd a’u defnyddio eto.

Byddwch angen

  • Eich llygaid
  • Eich clustiau
  • Eich cyfyrddiad

Cam wrth gam

Gallu synhwyraidd golwg – llygaid tylluan

  • Yn gyntaf mae angen canfod ymylon ein golwg ymylol.
    • Gan sefyll neu eistedd yn llonydd, edrychwch yn syth o’ch blaen
    • Nawr estynnwch eich breichiau allan i’r ochrau a symud eich bysedd
    • Os na allwch chi weld eich bysedd yn symud, symudwch eich breichiau’n araf at ei gilydd hyd nes y gallwch eu gweld. Dyma ymyl eich golwg ymylol.
  • Gallwch ganfod top a gwaelod eich golwg ymylol hefyd drwy symud eich bysedd tra bod eich breichiau uwch eich pen ac i lawr wrth eich ochrau.

Nawr mae’n amser i brofi eich ‘llygaid tylluan’. Beth allwch chi weld yn eich golwg ymylol ac yng nghanolbwynt eich golwg. Gwnewch hyn yn yr awyr agored y tro nesaf yr ewch am dro natur neu allan i’ch gardd.

Gallu synhwyraidd clyw – clustiau carw

Nid yw pobl yn enwog am gael clyw arbennig o sensitif. Mae ein clustiau bach, sy’n agos at ochr ein pen yn ei chael hi’n anodd dal ystod eang o seiniau. Mewn cyferbyniad, mae clustiau mawr carw yn gweithredu fel dysgl loeren, gan sianelu sŵn o bell.

Gallwn ni gael clustiau carw hefyd!

  • Gwnewch gorn o’ch dwylo y tu ôl i’ch clustiau gan eu gwneud yn fwy ac yn lletach. Nawr pwyntiwch eich wyneb i gyfeiriad rhyw sain. Tynnwch eich dwylo i ffwrdd ac yna’u hailosod i glywed y gwahaniaeth. Gallwch ddefnyddio’r dull hwn am nôl hefyd. Sefwch â’ch cefn at y sain gan wneud corn am eich clustiau am nôl.

Beth allwch chi glywed?

Gallu synhwyraidd cyffwrdd – coesau corryn

Ni chaiff ein synnwyr cyffwrdd ei lawn werthfawrogi, ond rydym yn ei ddefnyddio drwy’r dydd. Efallai y byddwn yn cydio mewn afal i weld a ydyw’n galed a chrensiog, yn mwynhau awel oer ar ddiwrnod heulog neu’n rhwbio ein bysedd dros ein dillad i deimlo eu meddalwch.

Mae gan gorynod synnwyr cyffwrdd tra sensitif. Mae ganddynt goesau blewog iawn (gelwir y blew hyn yn trichobothria), sy’n eu galluogi i synhwyro creadur arall (byrbryd posibl!) yn glanio yn ei gwe. O ganlyniad, mae hel bwyd mor rhwydd â sefyll yn yr unfan ar ei gwe.

Profwch eich synnwyr cyffwrdd gyda’ch teulu.

  • Gofynnwch i aelod o’r teulu gasglu un gwrthrych ar gyfer pob person; dylai pawb arall gau eu llygaid neu wisgo mwgwd dros eu llygaid.
  • Mae’r person cyntaf yn dodi’r eitemau ar ganol bwrdd, ac yna mae pawb arall yn dewis un ac yn cyffwrdd ag ef â’u bysedd.
  • Pan fydd pawb yn barod, rhowch yr eitemau yn ôl yn y canol a gofyn i’r person cyntaf eu cymysgu.
  • Nawr tynnwch eich mygydau a cheisio canfod eich eitem. Allwch chi ei ganfod ar y cynnig cyntaf?

Nawr eich bod wedi ymarfer eich galluoedd synhwyraidd uwch, mae’n amser i’w profi. Naill ai yn y tŷ neu yn yr ardd, ewch ar antur synhwyro i ganfod beth y gallwch ei weld, clywed a chyffwrdd – yr un fath ag anifail.

COFRESTRU AR GYFER E-NEWYDDION

Am y diweddaraf o ran gweithgareddau, digwyddiadau a’n hadnoddau arlein, cofrestrwch i dderbyn e-negesau a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.