CyDA yn Tanio Ysbrydoliaeth o’r Byd Go Iawn i Beirianwyr Cynaliadwyedd Byd-eang

CyDA yn Tanio Ysbrydoliaeth o’r Byd Go Iawn i Beirianwyr Cynaliadwyedd Byd-eang


Home » CyDA yn Tanio Ysbrydoliaeth o’r Byd Go Iawn i Beirianwyr Cynaliadwyedd Byd-eang

Bob blwyddyn, mae grŵp o fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol o Brifysgol Caergrawnt yn cyfnewid eu theatrau darlithio am y labordy byw yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA).  Buom yn siarad â’r Darlithydd o Gaergrawnt, Dr Dai Morgan, am eu hymweliad yn ddiweddar.

Mae CyDA wedi’i hamgylchynu gan goetiroedd, gerddi organig, systemau ynni adnewyddadwy, a phrosiectau adeiladu cynaliadwy, ac mae’n cynnig cyfle unigryw i grwpiau ysgolion a phrifysgolion a grwpiau eraill sy’n ymweld i brofi cynaliadwyedd ar waith, y tu hwnt i’r hyn y gall ystafell ddosbarth ei gynnig.

I Dai Morgan, darlithydd ers cryn amser ar y cwrs MPhil mewn Peirianneg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, mae’r ymweliad blynyddol hwn wedi dod yn un o gonglfeini’r profiad a gynigir i fyfyrwyr, gan gynnig dirnadaeth ymarferol o gynaliadwyedd a hefyd, ysbrydoliaeth a phersbectif ffres.

Dr Dai Morgan
Dr Dai Morgan, darlithydd ar y cwrs MPhil mewn Peirianneg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caergrawnt

Cysylltu ag arferion cynaliadwyedd o’r byd go iawn

Mae’r ymweliad â CyDA yn digwydd ar amser perffaith,” dywedodd Dai.  “Mae ein myfyrwyr newydd gwblhau dau dymor o ddarlithoedd dwys.  Maent ar fin cychwyn ar eu traethodau estynedig, a dyma’r amser i gamu i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth, cysylltu ag arferion cynaliadwyedd o’r byd go iawn, a myfyrio am eu dysgu.”

Mae’r cwrs blwyddyn yn denu grŵp amrywiol o beirianwyr o bob cwr o’r byd, sydd newydd gychwyn ar eu gyrfaoedd, ac maent yn cynrychioli 20 o wahanol genhedloedd.  Mae eu cefndiroedd academaidd a phroffesiynol yr un mor amrywiol, gan rychwantu peirianneg mecanyddol, sifil, trydanol a chemegol, ac maent yn dwyn ystod eang o bersbectifau ac arbenigedd.

Mae CyDA yn cynnig rhywbeth unigryw,” esboniodd Dai.  “Mae’n cynnig profiad sy’n ymdrochi ac sy’n integreiddio – enghraifft go iawn o gynaliadwyedd ar waith yn y fan a’r lle.  Mae bod yn yr amgylchedd hwnnw, o gwmpas pobl sy’n gwneud pethau mewn ffordd wahanol a chan ddangos yr hyn sy’n bosibl, yn creu gofod i fyfyrio ac i ail-gysylltu â’r hyn sy’n wirioneddol bwysig.”

Profi cynaliadwyedd ar waith

Trwy gydol eu hymweliad, mae myfyrwyr yn archwilio safle CyDA a gosodiadau ynni systemau-adnewyddadwy, technegau adeiladu bach eu heffaith, gwaith rheoli coetiroedd a dŵr, a mwy.  Maent yn dysgu gan arbenigwyr sydd wedi treulio degawdau yn arbrofi, yn addasu, ac yn rhannu gwersi o rengoedd blaen newid.  Mae’n bwysig bod y gwersi hynny yn cynnwys yr hyn sydd wedi gweithio a’r hyn nad yw wedi gweithio.

Yr hyn yr wyf wir yn ei werthfawrogi am CyDA yw’r gonestrwydd,” dywedodd Dai.  “Mae parodrwydd i rannu’r hyn nad yw wedi gweithio a’r hyn sydd wedi – i ddweud ‘bu hyn yn anodd’ neu ‘nid oedd hyn wedi gweithio fel yr oeddem wedi gobeithio.’  Mae’r math hwn o ymateb agored yn brin, ac mae’n hynod o werthfawr i fyfyrwyr sydd ar fin ymuno â realiti gwaith cynaliadwyedd.”  Mae nifer yn gadael y profiad yn fwy gwybodus a hefyd, wedi cael eu hysbrydoli.  Mae rhai yn dychwelyd i wirfoddoli;  mae eraill yn canfod diben o’r newydd yn eu gwaith neu eu hastudiaethau.

“Gorffennodd un fyfyrwraig ei thraethawd estynedig yn gynnar fel y gallai ddychwelyd i CyDA fel gwirfoddolwr am bythefnos arall,” dywedodd Dai.  “Dywedodd un arall, a oedd yn arweinydd Sgowtiaid, ei fod wir wedi newid y ffordd y mae hi’n gweithio gyda phobl ifanc yn ôl gartref.  Mae’n ysbrydoledig gweld sut y mae’r profiadau hyn yn lledaenu, wrth i fyfyrwyr gymryd yr hyn y maent wedi’i ddysgu a’i weithredu yn eu cymunedau.

Myfyrwyr Caergrawnt yn edrych ar ein System Ddŵr
Myfyrwyr Caergrawnt yn edrych ar ein System Ddŵr

Ysbrydoli gobaith am ddyfodol cynaliadwy

Bellach, mae Dai yn un o aelodau CyDA, ac mae’n bwriadu dychwelyd ar gyfer y Gynhadledd Aelodau yn yr haf.  Iddo ef, fel nifer o bobl arall sy’n dod â grwpiau i CyDA, nid taith maes yn unig yw ymweliad – mae’n rhywle sy’n tanio syniadau newydd, gan feithrin cysylltiadau ac ysbrydoli gobaith am ddyfodol cynaliadwy.

Wrth i fyfyrwyr Dai barhau gyda’u hastudiaethau a pharatoi am yrfaoedd a fydd yn siapio dyfodol ein planed, byddant yn gadael CyDA gyda dealltwriaeth fwy clir o gynaliadwyedd – a’r offerynnau a’r ysbrydoliaeth i fod yn rhan o newid ymarferol a pharhaus yn y byd.

Myfyrwyr o Brifysgol Caergrawnt ar daith o gwmpas safle CYDA
Myfyrwyr o Brifysgol Caergrawnt ar daith o gwmpas safle CyDA

I ddysgu mwy am yr hyn a gynigir gan ymweliad grŵp â CyDA ac i wneud ymholiad, trowch at cy.cat.org.uk/dewch-i-cyda/grwpiau-a-dysgu/ neu anfonwch e-bost at education@cat.org.uk.

COFRESTRU AM NEGESEUON E-BOST

Gallwch gael gwybod am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf trwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost a’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech gymryd rhan a chynorthwyo ein gwaith, hoffem eich croesawu i fod yn aelod o CyDA.