Adeiladu Tîm a Hyfforddiant
Mae ein cyfleusterau arobryn ac unigryw yn berffaith ar gyfer cyflwyno rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol pwrpasol ar amrywiaeth o bynciau cynaliadwyedd yn ogystal â gweithgareddau adeiladu tîm ymgysylltiol.
Mynnwch brofiad ymarferol o arferion adeiladu cynaliadwy, dysgwch am ynni adnewyddadwy ar daith o amgylch y safle, ailgysylltwch â natur ar enciliad llesol, neu archwiliwch brosiect blaenllaw CyDA – Prydain Di-garbon.
Mae CyDA yn ganolfan addysg gyda chronfa helaeth o arbenigwyr gwybodus wrth law i ddatblygu amrywiaeth eang o weithgareddau pwrpasol ar gyfer grwpiau o unrhyw sector. Manteisiwch ar raglen cyrsiau byr helaeth ac adnoddau academaidd ysgol ôl-raddedig CyDA i lunio’r pecyn perffaith ar gyfer eich grŵp.
Adeiladu Cynaliadwy
Edrych i’r dyfodol
Llesiant ac ymwybyddiaeth ofalgar
Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol...
Mwynhewch bitsas ffres wedi’u coginio yn ffwrn bitsa clai CyDA. Gallwch hyd yn oed adeiladu eich ffwrn eich hun ar un o’n cyrsiau byr!