Adeiladu Tîm a Hyfforddiant
Mae ein cyfleusterau arobryn ac unigryw yn berffaith ar gyfer cyflwyno rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol pwrpasol ar amrywiaeth o bynciau cynaliadwyedd yn ogystal â gweithgareddau adeiladu tîm ymgysylltiol.
Mynnwch brofiad ymarferol o arferion adeiladu cynaliadwy, dysgwch am ynni adnewyddadwy ar daith o amgylch y safle, ailgysylltwch â natur ar enciliad llesol, neu archwiliwch brosiect blaenllaw CyDA – Prydain Di-garbon.

Mae CyDA yn ganolfan addysg gyda chronfa helaeth o arbenigwyr gwybodus wrth law i ddatblygu amrywiaeth eang o weithgareddau pwrpasol ar gyfer grwpiau o unrhyw sector. Manteisiwch ar raglen cyrsiau byr helaeth ac adnoddau academaidd ysgol ôl-raddedig CyDA i lunio’r pecyn perffaith ar gyfer eich grŵp.

Adeiladu Cynaliadwy
Ymunwch â’r meistr grefftwr Carwyn Lloyd Jones i ddysgu sut i adeiladu tŷ bychan hardd a phwrpasol o’r gwaelod i fyny, dysgwch sut i wneud celfi allan o baledau pren neu adeiladu adeileddau syml o ddeunyddiau cynaliadwy megis byrnau gwellt a phridd.

Edrych i’r dyfodol
Darganfyddwch sut olwg allai fod ar Brydain Di-garbon a sut y gallwch oresgyn y rhwystrau o ran gwireddu Cytundeb Hinsawdd Paris. Mae Paul Allen, prif ymchwilydd prosiect blaenllaw CyDA, yn cyflwyno ein canfyddiadau mewn cyfres o gyflwyniadau a gweithdai hynod ddiddorol ac addysgiadol.

Llesiant ac ymwybyddiaeth ofalgar
Mentrwch allan i goetir cynaliadwy CyDA i ymgolli mewn amgylchedd naturiol a chychwyn ar eich taith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arfer ymwybyddiaeth ofalgar, llesiant a chysylltu â natur.

Cysylltu  CyDA
Am ragor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.


