Teithio Cymelliadol
Mae gan CyDA lawer iawn i’w gynnig i unrhyw grŵp o unrhyw ddiwydiant. Mae ein hanes cyfoethog, ein bioamrywiaeth ffyniannus, ein haddysg cynaliadwyedd a’n cyfleusterau arloesol yn arwain y ffordd ym maes eco-dwristiaeth.
Yn ei lleoliad unigryw o fewn Biosffer Dyfi UNESCO, ardal a gydnabyddir am ei pherthynas gytbwys rhwng pobl a natur, gall CyDA gynnig gweithgareddau grŵp o fewn y ganolfan ymwelwyr a ledled yr ardal gyfagos hefyd.
Mae gan dîm digwyddiadau CyDA brofiad o ddarparu profiadau proffesiynol a phwrpasol a lletygarwch corfforaethol ar gyfer grwpiau amrywiol o bob maint.

Teithiau o gwmpas CyDA a thu hwnt
Gyda safle hynod ddiddorol ac ardal a gydnabyddir gan UNESCO am ei phwysigrwydd, gallwch fwynhau amrywiaeth o deithiau o fewn y ganolfan ymwelwyr ac o’i chwmpas. Archwiliwch hanes unigryw a lliwgar CyDA, canfyddwch enghreifftiau o ynni adnewyddadwy o fewn y Ganolfan Ymwelwyr ac ar raddfa ddiwydiannol ar draws y rhanbarth. Neu gallwch ddysgu sut rydym yn rheoli ein gerddi a’n coetiroedd er mwyn hybu ein bioamrywiaeth ffyniannus.

Amrywiaeth eang o weithdai
Dysgwch sut i fyw a gweithio’n fwy cynaliadwy drwy gyfrwng profiadau grŵp undydd neu aml-ddiwrnod difyr CyDA. Mae CyDA’n cynnig amrywiaeth drawiadol o weithdai ymdrochol. Ymunwch ag arbenigwyr adeiladu cynaliadwy CyDA i adeiladu celfi paled neu ffwrn bitsa clai. Gallwch ymgolli ym myd natur gyda thîm coetir CyDA ac ystyried materion llesiant wrth i chi ailgysylltu â byd natur.

Dysgwch wrth yr arbenigwyr
Gallwch gyfoethogi profiad eich grŵp trwy archebu cyflwyniad gan un o arbenigwyr CyDA ar amrywiaeth eang o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol. Archwiliwch ganfyddiadau prosiect ymchwil blaenllaw CyDA, Prydain Di-garbon, neu manteisiwch ar arbenigwyr academaidd Ysgol Graddedigion CyDA i ddysgu am bynciau megis Cynllunio Dinesig Cynaliadwy neu ddadansoddi’r data hinsawdd cyfredol.






Cysylltu  CyDA
Am ragor o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.


