Gyda chalon drom, rydym yn cadarnhau y bydd canolfan ymwelwyr CyDA yn cau i ymwelwyr dydd o 9 Tachwedd 2023. Bydd yn parhau i fod ar agor i fyfyrwyr, ymweliadau grŵp addysgol, digwyddiadau, a chyrsiau.
Yn anffodus, mae 14 o swyddi mewn perygl yn CyDA ac mae ymgynghoriad llawn yn digwydd dros o leiaf 14 diwrnod. Mae lles staff o’r pwys mwyaf, ac rydym yn darparu cymorth arbenigol i staff yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Gwnaed y penderfyniad hwn oherwydd nifer o ffactorau, yn ystod cyfnod heriol i’r sector elusennol yn y DU. Mae’r cyfuniad o gostau rhedeg cynyddol, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr i Gymru ar ôl y pandemig ac oedi o ran cyllid wedi ei gwneud yn economaidd anhyfyw inni barhau i weithredu’r ganolfan ymwelwyr yn ei model presennol — er gwaethaf ein hymdrechion gorau i liniaru’r ffactorau hyn.
Bydd cau’r ganolfan ymwelwyr bresennol i ymwelwyr dydd, fodd bynnag, yn caniatáu i CyDA ganolbwyntio ar gryfhau agweddau economaidd hyfyw ar ei gweithrediadau — gan ein helpu ni i ddarparu ar ein cenhadaeth o greu a rhannu atebion ymarferol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
Mae CyDA yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i’w chynlluniau ailddatblygu ehangach arfaethedig, sy’n cynnwys gwelliannau sylweddol i’r cynnig i ymwelwyr. Mae’r cynigion hyn yn dal i gael eu hystyried ar gyfer cyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru a ffynonellau eraill. Unwaith y bydd wedi’i sicrhau, bydd y cronfeydd hyn yn sicrhau y gall CyDA ailagor i ymwelwyr dydd, gan ddarparu cyfleoedd twristiaeth ac addysg ychwanegol i gymunedau canolbarth Cymru a thu hwnt.
Yn y cyfamser, ni effeithir ar Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd, y ddarpariaeth o gyrsiau byrion, ymweliadau grŵp, a Hwb a Labordy Arloesi Prydain Ddigarbon — gan ganiatáu i CyDA barhau â’i gwaith hanfodol wrth ddarparu sgiliau gwyrdd ar gyfer y dyfodol.
Fel elusen, mae CyDA yn dibynnu ar incwm gan ymwelwyr, dysgwyr a chefnogwyr i dalu costau ei darpariaethau addysg amgylcheddol ac ymchwil. Os hoffech chi roi rhodd i CyDA, ewch i: cy.cat.org.uk/ymuno-a-chyfrannu/
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys beth i’w wneud os oes gennych chi docyn neu daleb, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin: https://cy.cat.org.uk/diweddariad-cwestiynau/
Diolch am eich cefnogaeth barhaus.