Diweddariad Cwestiynau


Home » Diweddariad Cwestiynau

A yw’r ganolfan ymwelwyr ynghau yn llwyr?

Na. Er bod y ganolfan ymwelwyr ynghau i ymwelwyr dydd o 9 Tachwedd 2023, mae’n parhau i fod ar agor i fyfyrwyr, ymweliadau grŵp a digwyddiadau.

Pryd fydd y ganolfan ymwelwyr yn ailagor i ymwelwyr dydd?

Mae CyDA yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i’w chynlluniau ailddatblygu ehangach arfaethedig, sy’n cynnwys gwelliannau sylweddol i’r cynnig i ymwelwyr. Mae’r cynigion hyn yn dal i gael eu hystyried am gyllid gan Fargen Twf Canolbarth Cymru a ffynonellau eraill. Unwaith y bydd wedi’i sicrhau, bydd y cronfeydd hyn yn sicrhau y gall CyDA ailagor i ymwelwyr dydd, gan ddarparu cyfleoedd twristiaeth ac addysg ychwanegol i gymunedau canolbarth Cymru a thu hwnt.

A all pobl sy’n gymwys i gael mynediad am ddim (e.e. pobl leol, aelodau a phobl â thocyn blynyddol) ymweld o hyd?

Na. Yn anffodus, nid oes gennym ddewis ond cau’r ganolfan ymwelwyr i ymwelwyr dydd, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys i gael mynediad am ddim. Fodd bynnag, bydd yr holl docynnau presennol yn cael eu hanrhydeddu am gyfnod o chwe mis ar ôl inni ailagor i ymwelwyr dydd, felly cysylltwch ar ôl inni ailagor (dyddiad i’w gadarnhau) i drefnu tocyn newydd. Bydd mynediad am ddim i aelodau CyDA a phreswylwyr parhaol ardaloedd cod post SY20 a SY19 yn dal ar gael unwaith y byddwn yn ailagor i ymwelwyr dydd.

Mae gen i docyn wedi’i archebu ymlaen llaw — a yw’n dal i fod yn ddilys?

Nac ydyw. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cau i ymwelwyr dydd ar unwaith. Fodd bynnag, gallwn drefnu ad-daliad. E-bostiwch members@cat.org.uk neu ffoniwch ni ar 01654 705988, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu, a byddwn yn trefnu ad-daliad llawn.

Mae gen i daleb rodd i’w gwario yn y ganolfan ymwelwyr — a yw’r daleb yn dal i fod yn ddilys?

Nac ydyw. Fodd bynnag, gallwn naill ai ddiweddaru eich taleb i fod yn adenilladwy ar Ecostore CyDA (ar-lein) neu ar gwrs byr, neu gallwn drefnu ad-daliad llawn — yn dibynnu ar eich dewis. E-bostiwch members@cat.org.uk neu ffoniwch ni ar 01654 705988 gan ddyfynnu rhif eich taleb rodd. Nid yw hyn yn berthnasol i dalebau disgownt, na ellir eu cyfnewid.

Mae gen i daleb ddisgownt ar gyfer y ganolfan ymwelwyr. A fydd y daleb yn ddilys pan fyddwch chi’n ailagor?

Bydd. Bydd yr holl dalebau disgownt sy’n dod i ben yn ystod y cyfnod rydym ynghau i ymwelwyr dydd yn cael eu hymestyn am chwe mis ychwanegol o’r dyddiad y byddwn yn ailagor. Ni ellir cyfnewid talebau disgownt am arian parod.

A all ysgolion, colegau a grwpiau prifysgol barhau i ymweld?

Gallant. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn parhau i fod ar agor ar gyfer ymweliadau grŵp sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw, ac rydym yn croesawu archebion gan ysgolion, colegau, prifysgolion, cymunedau, busnesau, neu grwpiau o ffrindiau (mae isafswm maint / cyfraddau grwpiau’n berthnasol — cysylltwch ag education@cat.org.uk i holi). Mae llety, sgyrsiau, teithiau, gweithdai a mannau cyfarfod ac addysgu hefyd ar gael i’w harchebu yma.

A ydw i’n gallu cynnal fy niwrnod i ffwrdd ar gyfer timau yn CyDA?

Gallwch. Mae’r ganolfan ymwelwyr yn parhau i fod ar agor ar gyfer ymweliadau grŵp sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw, gan gynnwys diwrnodau tîm i ffwrdd. Mae modd archebu llety, sgyrsiau, teithiau, gweithdai a mannau cyfarfod ac addysgu i gyd yma.

Os byddaf yn llogi’r lleoliad, a fyddwn yn dal i allu mynd i’r ganolfan ymwelwyr?

Gallwch. Byddwch yn gallu cael mynediad i brif rannau’r ganolfan ymwelwyr. Fodd bynnag, nodwch yn garedig bod rhai mannau yn debygol o fod ynghau ar adegau penodol o’r flwyddyn, felly cofiwch wirio ymlaen llaw. Mae mwy o wybodaeth am logi’r lleoliad ar gael yma.

Os ydw i’n aros yn CyDA ar gyfer cwrs neu ddigwyddiad, a ydw i’n gallu mynd i’r ganolfan ymwelwyr?

Gallwch. Gallwch gael mynediad i brif rannau’r ganolfan ymwelwyr. Fodd bynnag, nodwch fod rhai mannau yn debygol o fod ynghau ar adegau penodol o’r flwyddyn, felly cofiwch wirio ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a’r digwyddiadau sydd i ddod ar gael yma.

Os byddaf yn dod i CyDA fel rhan o ymweliad grŵp neu gwrs, a fyddaf i’n gallu cael mynediad i’r safle drwy’r rheilffordd clogwyn?

Na allwch. Mae angen gwaith cynnal a chadw yn rheolaidd ar y rheilffordd clogwyn a dim ond ar ôl derbyn cyllid ailddatblygu y gellir gwneud hyn. Yn y cyfamser, gellir cyrchu CyDA trwy barcio hygyrch ar ben Rhodfa’r Gogledd neu drwy daith gerdded 10 munud i fyny trac cymharol serth.

A fydd y caffi yn dal i fod ar agor ar ôl i’r ganolfan ymwelwyr gau i ymwelwyr dydd?

Bydd y caffi yn parhau i fod ar agor i fyfyrwyr, ymweliadau grŵp, digwyddiadau a staff, ac efallai y bydd ynghau ar ddyddiau pan nad yw arlwyo wedi’i archebu ymlaen llaw.

Beth fydd CyDA yn ei wneud tra bod y ganolfan ymwelwyr ynghau i ymwelwyr dydd?

Byddwn yn parhau i ddarparu hyfforddiant addysg a sgiliau hanfodol i fyfyrwyr, cynghorau, awdurdodau lleol, cymunedau, ysgolion, prifysgolion, colegau, busnesau a sefydliadau trwy: graddau israddedig, cyrsiau byr, ymweliadau grŵp wedi’u trefnu ymlaen llaw, hyfforddiant ar-lein a hyfforddiannau ac adnoddau Hwb a Labordy Arloesi Prydain Ddigarbon. Mae ein lleoliadau unigryw, cynaliadwy hefyd yn dal i fod ar gael i’w llogi ar gyfer cynadleddau, digwyddiadau a diwrnod i ffwrdd ar gyfer timau.

A fydd fy ngradd ôl-raddedig yn cael ei heffeithio?

Na fydd. Ni fydd ein darpariaeth o raddau israddedig yn cael eu heffeithio gan newidiadau staffio a newidiadau i’r ganolfan ymwelwyr. Byddwn yn parhau i gyflwyno modiwlau trwy gymysgedd o ddysgu o bell ac ymweliadau astudio ar y safle fel yr ydym ar hyn o bryd, a bydd gan fyfyrwyr fynediad i’r un mannau ac adnoddau yn ystod ymweliadau astudio fel cynt.

A all myfyrwyr ymweld y tu allan i wythnosau modiwl penodedig?

Gall myfyrwyr drefnu i ymweld y tu allan i’w modiwlau trwy gysylltu â’r tîm Cymorth i Fyfyrwyr, fel y bydden nhw wedi gwneud o’r blaen. Sylwch, fodd bynnag, efallai na fydd y caffi ar gael ar ddiwrnod eich ymweliad os yw y tu allan i wythnos fodiwl.

A fydd fy nghwrs byr yn cael ei effeithio?

Na fydd. Ni fydd y ddarpariaeth o gyrsiau byr yn cael ei heffeithio gan newidiadau staffio a newidiadau i’r ganolfan ymwelwyr, a bydd pob cwrs yn mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am yr holl gyrsiau byr sydd ar ddod yma.

A yw cynhadledd yr aelodau yn dal i fynd yn ei blaen ar 10-12 Tachwedd?

Bydd. Mae cynhadledd yr aelodau yn mynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd, cysylltwch â ni ar members@cat.org.uk neu 01654 705988.

Hoffwn helpu — beth alla i ei wneud?

Diolch i chi am eich cefnogaeth. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni pobl fel chi. Os hoffech chi roi rhodd, ewch i cy.cat.org.uk/ymuno-a-chyfrannu/ neu ffoniwch ein tîm codi arian ar 01654 705988. Gallwch hefyd helpu drwy annog eraill i gyfrannu neu ddod yn aelodau.

Ni allaf ddod o hyd i ateb i’m cwestiwn — pwy ddylwn i gysylltu â nhw?

Dylid anfon pob ymholiad at members@cat.org.uk. Byddwch yn ymwybodol ein bod yn derbyn mwy o ymholiadau nag arfer ar hyn o bryd, a byddwn yn anelu at ymateb cyn gynted â phosib.