Dysgu gyda’n gilydd am 50 mlynedd

Dysgu gyda’n gilydd am 50 mlynedd


Home » Dysgu gyda’n gilydd am 50 mlynedd

Am bum degawd, mae CyDA wedi bod yn helpu pobl i drawsnewid eu tosturi dros yr amgylchedd a dynoliaeth yn gamau ymarferol, trwy gynnig y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol iddynt. Bydd Amanda Smith yn sôn wrthym am raglenni addysgol CyDA, sy’n cyrraedd mwy a mwy o bobl bob blwyddyn.

Er mwyn sicrhau dyfodol lle y gall pobl a byd natur ffynnu, rhaid i bawb weithredu wrth symud i systemau mwy cynaliadwy. Mae angen sicrhau newid ar draws cymdeithas ac ar bob lefel, sy’n golygu y bydd angen i bob un ohonom gyflawni ein rhan.

Er bod ymwybyddiaeth o’r angen i weithredu mewn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth wedi tyfu yn gyflymach dros yr 50 mlynedd diwethaf, mae bwlch sgiliau gwyrdd yn bodoli o hyd. Er mwyn helpu i lenwi’r bwlch hwn a grymuso mwy o bobl i gymryd rhan mewn datrysiadau amgylcheddol, mae addysg yn parhau i fod yn rhan annatod o’n gwaith.

Mae CyDA wastad wedi mabwysiadu dull gweithredu amgen tuag at addysg – un lle y bydd pobl yn dysgu trwy wneud, gan brofi meddwl mewn ffordd greadigol mewn amgylchedd naturiol ymdrochol. Mae adborth gan y rhai sydd wedi ymweld ac astudio gyda ni yn dangos bod y dull gweithredu ymarferol hwn yn ysbrydoli pobl, yn eu sbarduno ac yn eu paratoi i wneud gwahaniaeth.

Dros y degawdau, rydym wedi datblygu’r profiad ar gyfer ymwelwyr, y cyrsiau yr ydym yn eu cynnig, ac amrediad y gwasanaethau addysgol yr ydym yn eu darparu er mwyn helpu i rymuso mwy o bobl i weithredu. O deuluoedd i raddedigion i gynghorau lleol, gall pawb ddysgu sut i sicrhau newid mwy effeithiol nawr yn CyDA.

Astudio yn CyDA

Nid yw astudio yn CyDA yn debyg i astudio mewn unrhyw brifysgol arall. Mae CyDA wedi bod yn gartref ac yn deulu, a hwn fu’r profiad gorau yr wyf wedi’i gael hyd yn hyn.” – Tiziana Di Ronco, un o raddedigion CyDA.

Lansiom ein Hysgol Graddedigion yr Amgylchedd yn 2007, gan gynnig graddau Meistr mewn ynni adnewyddadwy ac adeiladu cynaliadwy. Bellach, bob blwyddyn, bydd cymuned amrywiol o dros 200 o fyfyrwyr o bob cwr o’r DU ac o wledydd tramor yn dod i CyDA i astudio ystod llawer ehangach o bynciau, gan gynnwys ecoleg, newid ymddygiad, bwyd, defnydd tir a llawer mwy.

Yn ogystal â dysgu gan ein tiwtoriaid, ein darlithwyr a’n siaradwyr gwadd rhyngwladol arbenigol, mae ein myfyrwyr yn rhannu cymaint gyda ni hefyd, gan ddwyn eu persbectif, eu profiadau a’u syniadau eu hunain.

Ar gyrsiau prifysgol traddodiadol, bydd myfyrwyr yn ddysgwyr goddefol mewn dosbarth fel arfer, ond yn CyDA, bydd pobl yn gyfranogwyr gweithredol ac yn cael eu hymdrochi ym myd natur o’r diwrnod cyntaf. Mae ein cartref yng Nghanolbarth Cymru yn labordy byw lle y gall myfyrwyr weld arbrofion byw cynaliadwy ar waith a chyfrannu at eu datblygiad. Trwy gydweithio, bydd myfyrwyr yn dysgu gan ei gilydd a byddant yn meithrin perthnasoedd agos a fydd yn aml yn parhau ar ôl i’r cwrs ddod i ben, ac mewn nifer o achosion, byddant yn arwain at bartneriaethau busnes llwyddiannus.

Mae ein cwrs Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch) yn helpu eco-benseiri y dyfodol i ddysgu am ddeunyddiau a dulliau gweithredu cynaliadwy trwy gyfrwng gwaith prosiect ymarferol. Yn wahanol i nifer o gyrsiau pensaernïaeth confensiynol sy’n seiliedig ar theori, bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith i fyfyrwyr eraill, tiwtoriaid a chleientiaid ‘byw’ a byddant yn gwireddu eu dyluniadau yn ystod ‘wythnosau adeiladu’ penodedig. Bydd hyn yn cynnig y profiad iddynt o wynebu’r sialensau ym maes adeiladu cynaliadwy, gan roi’r hyder iddynt sicrhau eu lle yn yr amgylchedd proffesiynol.

Bellach, mae myfyrwyr o bob cwr o’r byd – o Geredigiion i Gambodia – yn dewis astudio yn CyDA. I’r rhai na allant deithio i Ganolbarth Cymru, rydym yn cynnig cyfleuster dysgu o bell ar ein cyrsiau Meistr Gwyddoniaeth (MSc) a Meistr Ymchwil (MRes) hefyd.

Mae hyn wedi golygu bod astudio gyda CyDA yn ddewis hygyrch i ystod ehangach o bobl, gan ehangu amrywiaeth ein poblogaeth o fyfyrwyr ymhellach fyth.

Mae systemau ynni adnewyddadwy ar y safle a gerllaw yn cynnig y cyfle i ddysgwyr gael cipolwg manwl ar ddatrysiadau ar waith.
Mae systemau ynni adnewyddadwy ar y safle a gerllaw yn cynnig y cyfle i ddysgwyr gael cipolwg manwl ar ddatrysiadau ar waith.

Croesawu ymweliadau prifysgol a choleg

Roedd ein myfyrwyr o’r farn bod eu hymweliad â CyDA yn rhyfeddol ac yn ysbrydoledig, a nododd sawl un eu bod wir wedi mwynhau bod mewn awyrgylch lle y mae cymaint o ddatrysiadau cadarnhaol a gobeithiol.” – Dr Nick Hughes, UCL, a ddaeth â 60 o fyfyrwyr ar ymweliad â CyDA fis Tachwedd y llynedd.

Ac nid myfyrwyr ein Ysgol Graddedigion yr Amgylchedd yw’r unig rai sy’n dysgu ac sy’n cael eu hysbrydoli yn CyDA.

Bob blwyddyn, bydd cannoedd o fyfyrwyr o brifysgolion a cholegau ar draws y DU a thu hwnt yn gwneud hynny. Gyda chynaladwyedd yn elfen gynyddol o bynciau academaidd, rydym yn cynnig ymweliadau astudio a theithiau maes i ymwelwyr sy’n dymuno archwilio pynciau o ddaearyddiaeth, peirianneg a phensaernïaeth i’r cyfryngau, seicoleg a dylunio.

Dros y blynyddoedd, mae’r newyddion wedi mynd ar led mai CyDA yw’r lle perffaith i ymwreiddio a chyflawni dysgu myfyrwyr. Mae ein safle yn cynnig cyfle i bobl wneud gwaith ymarferol, gan ystyried materion sy’n ymwneud â chynaladwyedd yn ddyfnach mewn amgylchedd lle na fydd unrhyw beth arall yn tynnu eu sylw a lle y gallant neilltuo eu hamser a’u sylw i’w hastudiaethau.

Bydd grwpiau sy’n ymweld o brifysgolion neu golegau yn cael budd gan sgyrsiau a gynhelir gan ein tîm Prydain Di-garbon sy’n esbonio dulliau gweithredu ar ffurf systemau er mwyn gweithredu mewn perthynas â’r hinsawdd; teithiau o gwmpas ein safle er mwyn gweld datrysiadau go iawn; a gweithdai ymarferol er mwyn gweithredu’r hyn a ddysgont.

Teithiau ysgol gwahanol

“Mae’r ymweliadau diwethaf a drefnom i CyDA wir wedi helpu i ddwyn y dysgu yn fyw.  Mae ein gwaith gyda CyDA wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas i’r disgyblion, ynghyd â dealltwriaeth o bwysigrwydd newid hinsawdd iddyn nhw ac i’w dyfodol hefyd.” – Tomi Rowlands, Arweinydd Digidol, Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth

Ers i ni agor drysau CyDA i ymwelwyr yn y 1970au, mae miloedd o blant ysgol wedi cael eu profiad cyntaf o ffordd o fyw sy’n fwy cynaliadwy.  Rydym yn gwybod bod hyn wedi newid bywydau nifer o bobl, sydd wedi dweud wrthym bod dod i CyDA pan yn blentyn wedi siapio eu gyrfa a’u bydolwg.

Dros y degawdau, rydym wedi datblygu’r profiad yr ydym yn ei gynnig i’n hymwelwyr iau.  Heddiw, mae ein cartref yn safle teithiau ysgol undydd cofiadwy a chyfnodau hwy i grwpiau ysgol sy’n dymuno dysgu mwy fyth.

Bydd pobl ifanc o bob oed yn meithrin gwybodaeth a sgiliau newydd yn CyDA, o lefel cyn ysgol i lefel ôl-raddedig, gan gynnwys TGAU, lefel A a Bagloriaeth Cymru.

Rydym yn cynnal gweithdai am ynni adnewyddadwy, adeiladu gwyrdd, tyfu ac ecoleg, byw’n wyrdd ac agweddau eraill ar gynaladwyedd.  Mae’r rhain yn croesi amrediad o bynciau cwricwlwm, gan gynnwys gwyddoniaeth, daearyddiaeth, dylunio a thechnoleg, addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) a dinasyddiaeth, ac mae modd eu dilyn yn Gymraeg neu yn Saesneg.  Mae’r rhain oll yn helpu pobl ifanc i feithrin sgiliau allweddol mewn llythrennedd a mathemateg, gyda phwyslais ar sdatrys problemau.

Petra, garddwr CyDA yn rhannu sgiliau gyda’n gwirfoddolwyr.
Dysgu ymarferol – Petra, garddwr CyDA yn rhannu sgiliau gyda’n gwirfoddolwyr.

Cyrsiau byr a diwrnodau profiad

Roedd y tiwtoriaid yn wybodus iawn, gan roi blaenoriaeth i feithrin hyder a sgiliau.  Mae hon wedi bod yn wythnos sydd wedi newid fy mywyd – gwneuthum bethau nad oeddwn fyth yn credu y gallwn eu gwneud.” Suzanne Oakley, cyfranogydd ar gwrs byr

Mae ein cyrsiau byr a’n diwrnodau profiad yn caniatáu i bobl o bob oed gael rhagflas neu feithrin eu gwybodaeth o feysydd sy’n cynnwys ynni adnewyddadwy, technegau adeiladu sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, ecoleg, rheoli coetiroedd a garddio organig.

O ymweliadau undydd i gyrsiau manylach sy’n para wythnos, rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau ymarferol er mwyn gwneud newidiadau yn eu bywydau neu yn eu gwaith, neu i arafu ac ailgysylltu â byd natur.

Mae ein cyrsiau hyfforddiant sgiliau gwyrdd yn amrywio o hyfforddiant i bobl sy’n dymuno cael gwybod mwy am ddefnyddio ynni mewn ffordd fwy effeithlon yn eu cartref – er enghraifft trwy osod pŵer solar, pympiau gwres ac inswleiddio – i weithwyr adeiladu proffesiynol y mae angen iddynt ddeall ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio – megis sut i ddefnyddio deunyddiau naturiol neu wneud gwaith ôl-osod cynaliadwy mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes.  Rydym yn cydweithio gyda colegau i gael mwy fyth o effaith hefyd.

Meithrin gwybodaeth a rhwydweithiau – Ruth Stevenson, darlithydd gydag Ysgol y Graddedigion yn cynnal gweithdy yn ystod cynhadledd i aelodau CyDA 2018.

Ein dull gweithredu sy’n esblygu

“Diolch yn fawr am y cwrs.  Mae wedi rhoi mwy o syniadau i mi er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a chaiff cynllun gweithredu y Cyngor ei ailysgrifennu o ganlyniad.” – Cyfranogydd mewn cwrs ar-lein am Lythrennedd Carbon.

Mae ein rhaglenni addysgol unigryw yn cynnig y wybodaeth a’r sgiliau i bobl y mae eu hangen arnynt er mwyn cyflawni eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.  Trwy barhau i ddatblygu ein hymagwedd tuag at addysg, rydym yn ymateb i’r sialensiau sy’n esblygu wrth i ni geisio adeiladu dyfodol tecach, mwy diogel a mwy cynaliadwy.

Mae bellach yn glir bod angen i ni ystyried systemau cyfan a datrysiadau dylunio sy’n cydweithio er mwyn sicrhau newid trawsnewidiol a newidiadau mwy nag y byddai modd eu sicrhau trwy weithio ar ein pen ein hunain.  Mae’r dull gweithredu hwn yn helpu i osgoi unrhyw ddyblygu hefyd, ynghyd â sgil-effeithiau annisgwyl gymaint ag y bo modd.

Yn fwyaf diweddar, mae ein tîm Prydain Di-garbon wedi bod yn cynnal labordai hyfforddiant ac arloesi ar gyfer grwpiau o bobl gan gynnwys cynghorau, busnesau a grwpiau cymunedol er mwyn cyflymu’r gweithgarwch newid systemau sy’n angenrheidiol.  Trwy gyfrwng y gweithdai cyfranogol hyn, am faterion fel Llythrennedd Carbon, mae pobl yn cyd-greu eu datrysiadau eu hunain i oresgyn y rhwsystrau er mwyn cyflawni eu nodau hinsawdd.  Bellach, rydym yn cynnig fersiynau ar-lein o nifer o’n rhaglenni addysg a hyfforddiant, gan ymestyn y cyrhaeddiad ymhellach.

Trwy gydweithio, gallwn barhau i greu symudiad er mwyn sicrhau newid.  Gyda’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn eu lle i ailddatblygu ein canolfan ymwelwyr ac i uwchraddio ein cyfleusterau addysgu ar y safle, yn ogystal ag ehangu ein darpariaeth ddigidol, rydym yn edrych ymlaen i groesawu mwy fyth o ddysgwyr i CyDA a rhannu ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n profiadau er mwyn helpu i sicrhau dyfodol gwell i’r byd naturiol ac i bob un ohonom.

CyDA
Mae amgylchedd dysgu ymdrochol CyDA yn cynnig y cyfle i ddatgysylltu ac ailgysylltu â byd natur.

Am yr awdur

Amanda yw Pennaeth Dysgu CyDA – mae hi wedi goruchwylio datblygiad ein rhaglenni hyfforddiant Prydain Di-garbon, ein cyrsiau byr a’n gwaith addysg gydag ysgolion.  Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o addysgu, arwain ysgolion, hyfforddi oedolion a gwella sefydliadau.