Adeiladu gan ddefnyddio Pridd a Ffibrau Naturiol
Medi, 13 2025 - Medi, 14 2025Home » Adeiladu gan ddefnyddio Pridd a Ffibrau Naturiol
Mae’r cwrs deuddydd byr hwn yn cynnig cyflwyniad ymarferol i adeiladau pridd a defnyddio pridd fel deunydd adeiladu.
Os ydych chi’n dymuno adeiladu eich strwythur pridd eich hun neu’n dymuno dysgu mwy am bridd fel deunydd adeiladu, mae’r cwrs hwn yn lle gwych i gychwyn.
Gwybodaeth Allweddol
- Hyd: dau ddiwrnod
- Amseroedd cychwyn a gorffen: bydd yn cychwyn am 9.30am ac yn gorffen am 5pm ar y diwrnod olaf
- Cost y cwrs: £300 – sy’n cynnwys cinio, hyfforddiant a’r holl deunyddiau
- Mae llety gyda phob pryd bwyd ar gael ar gyfer y cwrs hwn: £97 am ystafell wely sengl. (Bydd y dewis hwn ar gael ar ôl i chi glicio “Ar gael” neu “Archebwch Nawr” isod)
- Bydd angen y canlynol arnoch:
- Bydd gofyn cael esgidiau diogelwch/esgidiau blaen dur
- Fe’ch cynghorir i ddod â dillad sy’n dal dŵr, yr ydych yn fodlon iddynt fynd yn fwdlyd
- Tywel neu rywbeth tebyg er mwyn sychu dwylo
- Pad a phen ysgrifennu
- Amodau a Thelerau:
- Rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Cliciwch yma am restr gyflawn o’r telerau ac amodau.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi sicrhau, dylunio ac adeiladu prosiectau sy’n defnyddio pridd fel deunydd.
Bydd Maria Sierra Sánchez, Pensaer a graddedig CYDA, yn eich tywys trwy ddau ddiwrnod ysbrydoledig, lle y byddwch yn archwilio:
- Pridd: clai ac elfennau eraill
- Sut i sicrhau pridd at ddibenion adeiladu
- Sut i brofi eich deunyddiau a’r hyn i gadw golwg amdano
- Symbiosis pridd gyda deunyddiau eraill
- Cymysgeddau Adeiladu Pridd gan ddefnyddio deunyddiau naturiol eraill
- Trosolwg o dechnegau Adeiladu gan ddefnyddio Pridd
- Paratoi a chreu dyluniad bychan
Mae’r cwrs hwn yn cynnig profiad ymarferol i chi, gan ganiatáu i chi roi cynnig ar dechnegau amrywiol wrth ddeall y deunyddiau crai, dewis y dulliau adeiladu cywir, a meistroli’r cymysgeddau perffaith ar gyfer pob defnydd.
Manylion y Tiwtor
Maria Sierra Sanchez
Mae Maria Sierra Sánchez yn bensaer sy’n arbenigo mewn Adeiladu Gwyrdd. Bu’n gweithio ym maes pensaernïaeth gonfensiynol am tua 6 blynedd cyn newid cyfeiriad ei gyrfa i faes adeiladu cynaliadwy trwy astudio ar ein cwrs MSc mewn Adeiladu Gwyrdd.
Mae ei thaith wedi ei thywys ar draws Cymru, Lloegr, Ffrainc, Colombia, Mecsico a Sbaen, lle y mae wedi manteisio ar hyfforddiant o ansawdd uchel a rhaglenni gwirfoddoli sy’n defnyddio pridd a gwellt, pren a bambŵ.
Mae Maria wedi cynnal gweithdai a chyrsiau, o rai 1 awr i rai 3 diwrnod am bridd a ffibrau yn y DU, Sbaen, Mecsico a Colombia. Yn ogystal, mae wedi ymchwilio i addysg oedolion a dysgu trwy brofiad, gan greu methodoleg addysgu sy’n cynnwys dulliau dysgu amrywiol, ac y dangoswyd ei fod yn meithrin hyder cyfranogwyr.
Mae Maria yn addysgu ar gwrs “hyfforddiant i hyfforddwyr” Earth Building UK and Ireland (EBUKI), gan gydlynu digwyddiad llwyddiannus Clayfest 2024 ynghylch adeiladu gan ddefnyddio pridd.
Mae Maria hefyd yn ymwneud â’r modiwl ymarferol ynghylch deunyddiau naturiol ar y cwrs MSc ac MArch yn CYDA, a gyda digwyddiadau eraill.
Ar hyn o bryd, mae Maria yn cyfuno ei rolau fel dylunydd, gwneuthurwr, a hwylusydd gweithdai mewn prosiect adeiladu gyda Sawna Gymunedol Hackney ac mae’n gweithio fel pensaer ar gyfer cwmnïau cydweithredol gweithwyr Tŷ Pren, Ecomotive a SNUG Homes.
Searching Availability...