Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi – Insiwleiddio

Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi – Insiwleiddio


Home » Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi – Insiwleiddio

Ailfeddwl defnydd ynni mewn cartrefi – pwysigrwydd insiwleiddio.

Mae llawer o adeiladau yn y DU wedi’u hinsiwleiddio’n wael ac yn ddrafftiog, sy’n arwain at golli gwres a galw uwch am ynni. Er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau allyriadau’n ddioed, mae’n rhaid i ni newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy a lleihau ein defnydd o ynni.

Bydd gwella’r insiwleiddio ein cartrefi a’n hadeiladau yn eu gwneud yn fwy cyfforddus i fyw ynddynt ac yn ein helpu i sicrhau lleihad aruthrol yn ein defnydd o ynni. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ddibynnu ar ynni adnewyddadwy ar raddfa fach neu i leihau ein biliau ynni.

Gwybodaeth allweddol

  • Parhau: un diwrnod
  • Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 10am a gorffen am 4.30pm
  • Ffi: £80
  • Yn cynnwys: hyfforddiant a’r holl ddeunyddiau
  • Beth sydd ei angen arnoch: argymhellir dillad gwrth-ddŵr

Telerau ac Amodau:

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Bydd y cwrs yn cynnig canllaw hawdd i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo colled gwres a deall gwerthoedd ‘R’ ac ‘U’. Byddwch yn dysgu sut i ganfod drafftiau a gollyngiadau aer, a sut y gallai eu hatal arwain at well cysur thermol, effeithlonrwydd ac arbedion ariannol.

Trwy gymysgedd o ddarlithoedd a sesiynau ymarferol, byddwch hefyd yn archwilio gwahanol fathau o insiwleiddio ac yn dysgu pa ddeunydd insiwleiddio sy’n briodol ar gyfer gwahanol leoliadau.

I unrhyw un sydd am weithredu oddi-ar-y-grid neu ddibynnu’n bennaf ar ei ffynhonnell ynni adnewyddadwy eu hunain, bydd lleihau eich defnydd o ynni yn allweddol i’ch llwyddiant, gan eich helpu i gynllunio a chael gwell dealltwriaeth am ba ynni sydd ei angen arnoch a pha system sy’n addas i chi.

Mae gwybodaeth sylfaenol am MS Excel (neu debyg) yn ddymunol ar gyfer y cwrs hwn.

Cyrsiau Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi

Mae’r cwrs hwn yn rhan o gyfres sy’n archwilio technolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer cartrefi. Gellir cymryd pob cwrs yn unigol neu fel cyfres, a byddant yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i roi gwahanol dechnolegau adnewyddadwy ar waith yn eich cartref.

  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Tyrbinau Gwynt – Dydd Sadwrn 13 Ionawr 2024
  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Pympiau Gwres – Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024
  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Solar Ffotofoltaidd – Dydd Sadwrn 18 Mai 2024
  • Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Cartrefi: Dŵr Twym Solar – Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024

Cyfarfod â’ch tiwtor

Mae Alan Owen yn Beiriannydd Ynni Siartredig ac yn ddarlithydd ar ein cyrsiau ôl-raddedig yma yn CyDA. Mae ei ymchwil yn amrywio o fodelu rhifiadol systemau ac adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ewrop, i ddatblygu polisi a strategaeth ynni cynaliadwy rhyngwladol yn ardaloedd ôl-wrthdaro/ôl-drychineb yn Ne Ddwyrain Asia.

 

 

Searching Availability...