Adeiladu gan ddefnyddio Clom

Adeiladu gan ddefnyddio Clom


Home » Adeiladu gan ddefnyddio Clom

Dysgwch sut i ddefnyddio clom – deunydd amlddefnydd, gwydn a bach ei effaith.

Mae clom yn ddeunydd adeiladu naturiol a ddefnyddiwyd yn y DU ac o gwmpas y byd am gannoedd o flynyddoedd, ac mae’n ffordd hyblyg iawn o adeiladu, y gellir ei gerfio i greu strwythurau prydferth ac unigryw.  Byddwch yn cael y cyfle i ystyried y theori a’r arfer o adeiladu gan ddefnyddio clom ar y cwrs deuddydd ymarferol iawn hwn.

Gwybodaeth allweddol

•Hyd: dau ddiwrnod
••Amser: dechrau am 10.00am a gorffen am 3.00pm ar y diwrnod olaf
•Cost: £295
•Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunydd, llety a rennir gyda phob pryd bwyd
•Beth sydd ei angen arnoch: gan fod hwn yn gwrs ymarferol iawn, bydd angen i chi ddod ag esgidiau diogelwch ac rydym yn eich cynghori i ddod â dillad glaw
•Telerau ac Amodau:
◦rhaid bod yn 18 neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
◦Am restr lawn y telerau ac amodau cliciwch yma

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Bydd gofyn i chi dorchi eich llewys wrth i chi ddarganfod y pleser o adeiladu gan ddefnyddio clom.

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i benderfynu a yw clom yn iawn ar gyfer eich prosiect chi.

Byddwch yn dysgu sut i ddewis y pridd cywir, gan gynnal profion pridd syml, a byddwch yn archwilio dulliau cymysgu ar gyfer gwaith adeiladu ar raddfa fach a mawr, gan gynnwys cymysgu gan ddefnyddio peiriant a chymysgu â llaw/troed.

Gallwch ddechrau o’r dechrau wrth i chi edrych ar y gwahanol fathau o sylfaen a ddefnyddir, cyn bwrw ati i gymysgu, gosod a chywasgu’r clom.

Yn ogystal, byddwn yn ystyried dylunio agoriadau megis ffenestri a drysau, a byddwn yn ystyried gorffeniadau ar gyfer brig ac ochrau waliau ac agoriadau.

Penwythnos hwyliog a fydd yn cynnig yr hyder i chi ddechrau adeiladu gan ddefnyddio clom.

Cyfarfod eich Tiwtor

Eich tiwtor ar y cwrs hwn fydd Ken Neal, adeiladwr sy’n brofiadol wrth ddefnyddio clom.

Mae Ken wedi gweithio fel Ymgynghorydd Dylunio Adeiladu ar ei liwt ei hun dros y 42 o flynyddoedd diwethaf, gan arbenigo mewn dylunio tai cynaliadwy ac nad ydynt yn defnyddio llawer o ynni.  Yn 2004, symudodd i mewn i’w dŷ clom a adeiladodd ei hun, gan droi byngalo 800 troedfedd sgwâr yn dŷ ffrâm pren ynni isel sy’n 2300 troedfedd sgwâr dros dri llawr.

Mae gan Ken Ddiploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil, Diploma PG ar gyfer cwrs MSc 2010 CYDA:  Astudiaethau Amgylcheddol ac Ynni Uwch, ac mae’n aelod hirdymor o AECB.  Mae wedi bod yn cynnal cyrsiau am adeiladu gan ddefnyddio clom, ffwrn glom a rendro clai er 2004.

Ychwanegu llety i’ch archeb

A hoffech chi aros yn CYDA dros gyfnod eich cwrs byr?  Ychwanegwch y cwrs byr i’ch cart, yna dewiswch o blith y dewisiadau a nodir.

Mae’r dewisiadau llety yn cynnwys:

Gwely a Brecwast y noson cyn y bydd eich cwrs yn cychwyn – £80 sengl

Llety a phob pryd bwyd dros gyfnod eich cwrs

– £324 sengl

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at courses@cat.org.uk

Searching Availability...