Rheoli Prosiect Hunan-adeiladu
Tachwedd, 02 2024 - Tachwedd, 03 2024Home » Rheoli Prosiect Hunan-adeiladu
Cynllunio didrafferth ar gyfer eich prosiect adeiladu
Os ydych yn ystyried adeiladu eich cartref eich hun, gofod cymunedol neu adeilad hunan-adeiladu arall, mae’n talu i baratoi. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â sut i greu cynllun prosiect, cyllideb a chynllun iechyd a diogelwch, yn ogystal â hanfodion caniatâd cynllunio, arolygon adeiladu a rheoli safle.
Gwybodaeth Allweddol
- Parhau: dau ddiwrnod
- Amserau cychwyn a gorffen: cychwyn am 10am a gorffen am 4pm ar y diwrnod olaf
- Ffi: £295
- Yn cynnwys: hyfforddiant, yr holl ddeunyddiau, llety a rennir a phob pryd bwyd (llety sengl ar gael am £20 y pen y nos yn ychwanegol)
- Beth sydd ei angen arnoch: llyfr nodiadau a phen.
- Telerau ac Amodau:
- Rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn i fynychu ein cyrsiau.
- Am restr lawn o’r telerau ac amodau cliciwch yma
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Ymunwch â’r arbenigwr hunan-adeiladu Geoff Stow am arweiniad ymarferol ar reoli eich prosiect.
Dysgwch sut i greu cynllun prosiect ar gyfer eich adeiladwaith, pa elfennau allweddol y dylech eu cynnwys, pryd y dylai tasgau allweddol ddigwydd a pha mor hir y maent yn debygol o gymryd. Byddwch hefyd yn dysgu am y dibyniaethau allweddol rhwng tasgau fel y gallwch nodi llwybr critigol a chyfrifo’r amser y dylai eich prosiect gymryd.
Byddwn yn archwilio effeithiau peidio â gwneud pethau penodol mewn pryd a’r camau y gellir eu cymryd i adennill amser.
Bydd prosesau cynllunio a chymeradwyo’r DU yn ogystal â’r rheoliadau adeiladu a’r arolygon rheoli yn cael eu hesbonio. Byddwn hefyd yn eich helpu i ddeall sut i sefydlu a rheoli eich cyllideb a hawlio ad-daliad TAW.
Byddwn yn dangos sut i amcangyfrif costau a chael dyfynbris am rai eitemau allweddol, a sut i ddewis a chydweithio gyda chyflenwyr. Byddwn yn ymdrin â’r gofynion iechyd a diogelwch, sy’n dibynnu ar bwy sy’n gwneud y gwaith, a beth mae’n ei olygu i fod yn brif gontractwr.
Byddwch yn gadael gyda rhestr wirio ar gyfer paratoi eich safle a rheoli gwastraff eich safle.
Ynghlwm yn yr holl gwrs y mae ethos cynaliadwyedd ac egwyddorion adeiladu moesegol, a byddwn yn gofalu eich bod yn gwybod ble i gael cymorth os bydd ei angen.
Dros y penwythnos byddwch yn creu cynllun prosiect, cyllideb a chynllun iechyd a diogelwch drafft, y gallwch eu datblygu ymhellach ar gyfer eich prosiect eich hun.
Cyfarfod â’ch tiwtor
Mae Geoff Stow yn diwtor ar ein cyrsiau Hunan-adeiladu Ffrâm Bren a Rheoli Prosiect Hunan-adeiladu.
Adeiladodd Geoff ei gartref ei hun yn Llundain drwy gynllun hunan-adeiladu nifer o flynyddoedd yn ôl. Aeth ymlaen i reoli safleoedd cynlluniau hunan-adeiladu eraill yn Llundain a Brighton. Mae’n cynnal cyrsiau hyfforddi ac yn cynnig cyngor i hunan adeiladwyr trwy ei gwmni ymgynghoriaeth BIY.
Mae wedi gweithio fel swyddog datblygu ar gyfer Ymddiriedolaeth Hunan-adeiladu Walter Segal, ac mae wedi bod yn aelod o bwyllgor yr AECB (Cymdeithas dros Adeiladu Amgylcheddol Ymwybodol)
Related events
Creu Dodrefn Paledi
8th Chwefror 2025Prydain Di-garbon: Ar-lein yn Fyw – Ehangu Gweithredu Cymunedol
6th Mawrth 2025Creu Dodrefn Paledi
8th Mawrth 2025Searching Availability...
Searching Availability...