Cyw-ffermwyr – atgyfnerthu cyflenwadau bwyd lleol


Home » Cyw-ffermwyr – atgyfnerthu cyflenwadau bwyd lleol

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi tanlinellu bregusrwydd ein systemau bwyd a’r angen i atgyfnerthu ein cadwyni cyflenwi.  Mae Katie Hastings o brosiect Llwybrau at Ffermio yn rhoi blas i ni o sut y mae tyfwyr lleol ym Machynlleth, ein tref agosaf, a’r cyffiniau, wedi ymateb i’r her.

Wrth dderbyn ein derbyniad newydd o hyfforddeion Llwybrau at Ffermio dros flwyddyn yn ôl, roeddem o’r farn y byddai’n flwyddyn hawdd.  A ninnau eisoes wedi rhedeg y rhaglen hyfforddi hon ar gynhyrchu bwyd yn fasnachol yn 2019, roeddem yn barod i’w chyflwyno i hyfforddeion newydd oedd yn awyddus i dyfu bwyd ar gyfer ein cymuned ehangach.

“Fe newidiwn ambell beth bach,” meddem. “Bydd y flwyddyn hon yn haws.” Ychydig a wyddom mai hwn oedd y gosteg cyn y storm.

Aeth ein sesiynau dosbarth yn y gaeaf mwy neu lai yn ôl y cynllun. Aeth ein hyfforddeion ati’n ddiwyd i ysgrifennu cynlluniau busnes a dewis cnydau ar gyfer eu lleiniau hyfforddi. Trafodwyd y marchnadoedd lleol a ymchwiliwyd yn ofalus i ble y gallai ein tyfwyr werthu eu cynnyrch. Crybwyllwyd y busnesau yr oeddem eisoes yn cydweithio â hwy, yn hyderus y byddent am brynu’r llysiau ffres y byddai  ein hyfforddeion yn eu tyfu.

Ac yna, wrth  i’r gwaith o blannu hadau’r gwanwyn gychwyn, daeth y pandemig.

Gwanwyn anodd

Fy mhrif ofn oedd y byddai Llwybrau at Ffermio yn dod i ben wrth i’r wlad gychwyn cyfnod clo. Ond cyn hir sylweddolais mai’r gwrthwyneb oedd yn wir. Mae cynhyrchu bwyd yn waith hanfodol. Rhyddhaodd Senedd Cymru restr o bobl allai barhau i deithio, ac wrth gwrs, roedd cynhyrchwyr bwyd arni. Tarwyd fi gan arwyddocâd y sefyllfa. Roeddem wastad wedi gwybod pa mor bwysig oedd tyfu bwyd i’w fwyta’n lleol, ac yn sydyn, edrychai’n debygol y byddai’n rhaid i ni ddibynnu ar y bwyd hwnnw.

Yn sydyn roedd gan bawb ffocws newydd. Os ydych yn mynd i gael argyfwng yn y gadwyn cyflenwi bwyd, yna does dim gwell amser i’w gael na’r gwanwyn cynnar.  Roedd fel petai’r firws wedi estyn yr un tamaid hwn o dosturi i ni, ac aethom ati fel lladd nadroedd i blannu hadau.

Dros nos, cymerodd ein hyfforddeion yn CyDA ddwywaith cymaint o dir tyfu ag yr oeddent wedi bwriadu.

wheelbarrow in rogers field

Wrth i ganolfan ymwelwyr CyDA gau a’r staff ar ffyrlo, camodd ein hyfforddeion ymlaen i drin y caeau. Derbyniwyd eginblanhigion cennin oddi wrth arddwyr profiadol.  Gan nad oedd amser i gynllunio’n fanwl, e-bostiwyd sgetshis llaw syml o gwmpas gyda’r nos yn dangos lleoliad newydd y cnydau.  Gyda’r cyflenwad cenedlaethol o datws had yn prysur brinhau, aethant at ei gilydd i archebu ar frys. Cynhaliwyd galwadau zoom min nos, gyda’r hyfforddeion yn gofyn llu o gwestiynau i’r tiwtor wrth iddynt geisio addasu i’r cynnydd yn eu cynlluniau.

Yn Y Drenewydd, roedd ein hyfforddeion wedi bod yn paratoi i redeg y cynllun blwch llysiau Veg2Table am yr ail flwyddyn – i gyflenwi llysiau ffres i aelwydydd lleol. Wrth i’r pandemig ennill tir gan effeithio ar y systemau dosbarthu bwyd, rhoddwyd min ar eu ffocws. Mae gwerthu llysiau a dyfwyd yn lleol yn uniongyrchol i bobl leol yn dal i fod yn un o’r modeli gorau o ran cael bwyd o’r pridd i’r plât.  Pwysleisiwyd hyn ymhellach gan y pandemig. Gan weithio’n agos gyda’n chwaer sefydliad Culivate, aeth ein hyfforddeion ati i gael mwy o gnydau yn y ddaear.  Wrth i Cultivate fynd i’r afael ag agor siop fwyd ar y stryd fawr ar adeg newidiol iawn o ran bwyd, medrodd  Veg2Table bacio a dosbarthu eu blychau llysiau yn syth o’r siop i ddwylo pobl leol.

Trefnu cymorth lleol

Yn sgil y pandemig daeth cynnydd pwysig yn y gefnogaeth hirddisgwyliedig i fwyd lleol. Ym Machynlleth, bu sefydliad cymunedol newydd Planna Fwyd yn weithredol yn trefnu cefnogaeth i bobl leol oedd am dyfu bwyd.

Daeth nifer o ffermwyr newydd ymlaen oedd yn dymuno cynhyrchu ar gyfer y gymuned.  Heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol, aethant ati’n frwd i baratoi caeau ar gyfer tyfu cêl, plannu cannoedd o gilogramau o datws a chreu llefydd newydd ar gyfer garddio masnachol gan ddefnyddio sglodion pren a thail.

Trefnwyd ‘grŵp cefnogi ar raddfa maes’ oedd yn rhoi cyfle i’r ffermwyr newydd hyn rannu eu heriau a holi cwestiynau i’r tiwtor wrth iddynt geisio dyfalu sut oedd cael eu cynnyrch i fyrddau pobl leol.

Ffurfiodd Planna Fwyd Fyddin Tir Dyfi er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth a sicrhau bod pobl oedd ar ffyrlo yn gallu gwirfoddoli’n ddiogel ar ffermydd lleol yn ystod cyfnod prysuraf y gwanwyn. Roedd pobl yn barod iawn i helpu i symud pridd, plannu gwrdiau a chwynnu. Rhoesant gymorth mawr ei angen i’r ffermydd llysiau lleol yn ogystal â’n helpu ni i baratoi mwy o dir yng nghae CyDA.

Wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, fe’m synnwyd gan lwyddiant ein hyfforddeion. Roedd y cyhyrau yn brifo a’r wynebau yn fwyfwy blinedig wrth i’r galwadau zoom fynd yn hwyrach yn dilyn diwrnodau hirach yn y meysydd. Erbyn mis Mehefin, roedd y cynhaeaf wedi cychwyn.

Bwyd i’r gymuned

O safbwynt tyfwyr llysiau masnachol, dim ond hanner y stori yw tyfu’r cynnyrch. Ar ôl iddynt gynhyrchu bwyd blasus a maethlon, rhaid ei bacio, ei symud a’i werthu. Oes fer iawn sydd gan lysiau ffres a phris bach iawn a geir amdanynt. Lluniwyd ein hyfforddiant Llwybrau at Ffermio i gefnogi hyfforddeion i ysgrifennu cynlluniau busnes er mwyn canfod marchnadoedd arbenigol, sefydlu cysylltiadau busnes arbenig a thechnegau prosesu sy’n ychwanegu gwerth at y cynnyrch.  Ond wrth i 2020 fynd yn ei blaen, aeth hyd yn oed cynlluniau gorau ein hyfforddeion ar chwâl. Bu rhaid i fwytai a chaffis gau neu dorri costau, aeth mwy o bobl i dlodi a dechreuodd y rheiny oedd â lle i wneud hynny, dyfu eu bwyd eu hunain.

Ond doedd dim atal ar ein hyfforddeion, ac aethant ati i bacio bwyd a’i werthu drwy’r siop fwyd leol, Siop Blodyn Tatws a stondin Ffres a Lleol ym marchnad Machynlleth. Troesant eu ffocws o gnydau proffidiol i rai angenrheidiol. Gan roi undod o flaen ennill bywoliaeth, rhoesant lysiau o’r safon orau i Flychau Llysiau Cydsefyll, i’w dosbarthu i bobl leol nad oeddynt yn gallu fforddio prynu bwyd ffres (trefnwyd gan Planna Fwyd a Chronfa Cydsefyll Machynlleth)

Yn y cyfamser, yn Y Drenewydd, roedd cynllun blychau llysiau Veg2Tableyn cyflenwi 20 aelwyd â llysiau lleol pob wythnos drwy siop Cultivate, ac estynnwyd y cynllun drwy’r gaeaf i ateb y galw am gynnyrch lleol ffres.

Wedi eu hysgogi gan y ffocws newydd a ddaeth yn sgil y cyfnod clo, creodd dau o’n hyfforddeion ardd fasnachol newydd sbon ar fferm fryniog Cwmllywi, a redir gan deulu’r Tomosiaid. Mewn partneriaeth â Mair Tomos a Siop Blodyn Tatws, cynhyrchodd yr ardd fasnachol lysiau salad, perlysiau, tomatos a chnydau eraill i’w gwerthu’n uniongyrchol drwy’r siop, wrth i fwyfwy o bobl droi at eu grîn-groser lleol ar gyfer eu siopa wythnosol.

Lansio hyb dosbarthu ar-lein

Gan adeiladu ar ymgynghoriadau a chynlluniau 2019, lansiwyd Hyb Bwyd Dyfi i helpu gyda’r dosbarthu. Un o’r prif rwystrau i fusnesau sy’n prynu cynnyrch lleol yw’r diffyg sianeli cyfathrebu gyda’r tyfwyr, sydd allan yn y maes yn aml. Gan ddefnyddio meddalwedd Open Food Network, crewyd hyb ar-lein lle gall cynhyrchwyr restru eu cynnyrch ffres ac y gall busnesau osod archeb – i gyd mewn un man.

Gyda nifer o fusnesau lletygarwch ym Machynlleth yn gweithredu ar gapasiti llai, estynnwyd ein swigen ddosbarthu dros ardal ehangach. Yn ogystal â’n galluogi i ddosbarthu cynnyrch oedd yn rhaid ei ddefnyddio, bu hwn yn gyfle i ni atgyfnerthu ein perthynas â chynghreiriaid ymhellach i ffwrdd. Mae’r cysylltiadau hyn eisoes wedi arwain at greu hyb bwyd ehangach a gyflwynir y flwyddyn nesaf ar draws y Biosffer, gan ddosbarthu mwy o lysiau o erddi masnachol i ganolfannau preswyl megis Aberystwyth.

Atgyfnerthu

A minnau’n gallu cymryd anadl o’r diwedd, ni allaf wneud cyfiawnder a’r hyn a gyflawnwyd eleni gan ein cyw-ffermwyr. Yn ddiysgog yn wyneb cymaint o newid, mae ein hyfforddeion a’r tyfwyr cymunedol wedi ymgorffori’r agwedd yr wyf yn ei weld dro ar ôl tro mewn cynhyrchwyr bwyd lleol:  penderfyniad, dycnwch ac angerdd ffyrnig am dyfu bwyd i bobl ei fwyta.

Beth a ddysgwyd yn sgil 2020? Ni allwn ddibynnu ar fwyd sy’n cael ei fewnforio o rywle arall a’i dyfu gan bobl nad oes gennym unrhyw gysylltiad â hwy. Rydym angen system fwyd leol gref sy’n cefnogi tyfwyr lleol. Rhaid i bobl yn ein cymuned brynu bwyd lleol yn gyson ac am bris sy’n adlewyrchu’r gost o gynhyrchu’n gynaliadwy. Mae arnom angen systemau dosbarthu sy’n hybu cyfiawnder bwyd ac yn sicrhau bod bwyd da ar gael i bawb. Rhaid cefnogi ein tyfwyr, yn y maes, gyda’n harian ac ar ein platiau.

Dewch i godi gwydraid i hyfforddeion Llwybrau at Ffermio 2020 a’r holl a gyflawnwyd ganddynt…

Y Fasged Natur

Tyfodd Claire ac Emma Rhydwen fwyd ar dri gwahanol safle y llynedd tra ar ffyrlo o’u gwaith. Gan godi 31 gwahanol fathau o lysiau, cludasant eu cynnyrch ar feic i Fachynlleth. Gan werthu drwy Siop Blodyn Tatws a’r stondin Ffres a Lleol, gwnaethant gyfraniad sylweddol i’r economi bwyd lleol. Aeth eu cynnyrch hefyd i Flychau Bwyd Cydsefyll i fwyda pobl mewn angen. Edrychwch am eu Agretti a chnydau eraill yn 2021.

RealRoots

Mae Kait Leonard yn mwynhau ei hail flwyddyn o dyfu yn CyDA, gan gynhyrchu bwydydd ffres, perlysiau, helfwyd a chynnyrch naturiol ar gyfer y croen. Mae hi wedi cael llwyddiant arbennig yn y maes yn tyfu ffa, tatws a gwrdiau yn ogystal â gofalu am gnwd garlleg Roger, un o arddwyr CyDA. Mae hefyd wedi ehangu ei menter dan do cyffrous lle mae’n tyfu llysiau salad a llysiau gwyrdd bach, gan dreialu uned hydroponig newydd. Gwneir hyn mewn cysylltiad â grŵp o ffermwyr fertigol yng ngogledd Cymru sy’n rhannu sgiliau. Bydd Kait yn parhau i gynyddu cynhyrchiad yn 2021, gan werthu ei chynnyrch ar y stondin Ffres a Lleol ac yn Siop Blodyn Tatws.

Llysiau Enfys

Cynlluniodd Ruth Kernohan ei chnydau’n fanwl gan ddefnyddio meddalwedd plannu llysiau, ond yna bu’n rhaid iddi ddyblu ei chynhyrchiad ac addasu’r cynllun cyfan pan ddechreuodd y pandemig. Ei llysiau mwyaf poblogaidd oedd kohl rabi, sbigoglys, betys, shibwns ac india-corn ar y cobyn. Paciodd y cynnyrch heb fawr o blastig a’u dosbarthu’n uniongyrchol i Siop Blodyn Tatws yn ogystal â thrwy’r Hyb Bwyd, gyda rhai cnydau mawr eu hangen yn mynd i Flychau Llysiau Cydsefyll. Cafodd grin lwyddiant hefyd yn tyfu a sychu ffrwyth y sbwng lwffa ar gyfer sgrwbio’r croen.

Cwmllywi

Mae tri o’n hyfforddeion wedi sefydlu menter gyffrous ar fferm fryniog Cwmllywi yn Abercegir. Mae Mair Tomos, Sadie Maund a Gareth Fysh-Foskett wedi cydweithio i greu isadeiledd  a gwelyau llysiau newydd. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch ffres yn mynd yn uniongyrchol i siop Mair ar y stryd fawr sef Siop Blodyn Tatws ac i Flychau Llysiau Cydsefyll ar gyfer pobl leol. Yn ogystal, mae Sadie yn dosbarthu llysiau salad o’r radd flaenaf a blodau bwytadwy i farchnadoedd eraill drwy ei busnes Dwylo Da.

Lisa Sture

Ymgymrodd Lisa â’r gwaith o reoli’r cynllun blychau Veg2Table ar y cyd â Cultivate. Gan ddefnyddio’i phrofiad ym maes busnes bwyd, mae wedi cynhyrchu, pacio a dosbarthu ystod eang o gynnyrch ffres i’r 20+ o aelwydydd sydd wedi cofrestru i dderbyn llysiau lleol yn wythnosol. Cafodd lwyddiant arbennig gyda letys bach, berwr y dŵr, llysiau gwyrdd bach a thomatos. Yn benderfynol i beidio ag ychwanegu at y domen blastig un defnydd, paciwyd y letys mesclun a’r llysiau gwyrdd bach mewn bagiau y gellir eu compostio yn y cartref, a gweddill y cnydau mewn bagiau papur.

Mae Lisa’n chwilio am le parhaol i dyfu ei chynnyrch ac mae’n parhau i ddatblygu ei chynlluniau busnes hirdymor i werthu llysiau gwyrdd bach a chynnyrch unigryw arall. Mae Lisa’n arbenigo mewn planhigion tsili i’w gwerthu i gwsmeriaid Deli Cultivate yn ogystal â pherffeithio ei fodca tsili.

Ian Davies

Ymgymerodd Ian ag ardaloedd sylweddol o gae cynnyrch CyDA, gan feithrin cnydau cêl a thomato Roger, garddwr CyDA, yn ogystal â phlannu ei gnydau ei hun. Darparodd Ian gyflenwad hynod o fawr o gnydau deiliog i Flychau Llysiau Cydsefyll i’w mwynhau gan bobl na fyddent fel arall yn gallu cael bwyd ffres. Gwerthwyd bwyd Ian yn Siop Blodyn Tatws ar stryd fawr Machynlleth hefyd.  Yn ogystal â hyn, bwydodd ei deulu o saith gyda chynnyrch o’r radd flaenaf gan leihau’r angen iddynt brynu llysiau wedi’u mewnforio.

 Pete Stewart ac Ali Murfitt

Gan jyglo gwaith a gofal plant, cynhyrchodd Pete ac Ali rai o gnydau cyntaf y flwyddyn i gael eu gwerthu, sef winwns mawrion. Tyfasant berlysiau hefyd i’w prosesu’n gnydau â gwerth ychwanegol.

Heather Garett

Roedd gan Heather gynlluniau i dyfu bwyd i’w ddosbarthu i bobl yn Nhywyn lle mae’n byw.  Ond, yn sydyn yn wynebu’r angen i  ynysu drwy gydol y pandemig, canolbwyntiodd ei hegni ar greu gardd hollol hunangynhaliol ar gyfer ei theulu. Cynhyrchodd ystod eang o gnydau drwy gydol y tymor, a chafodd gryn dipyn o bleser wrth dynnu  eu swper yn ffres o’r ardd heb orfod dibynnu ar archfarchnadoedd. Llwyddodd hefyd i werthu peth o’r cynnyrch i gymdogion wrth gât y fferm.

Maxwell Woodford, Fferm Coedcae

Ac yntau yn cychwyn ail flwyddyn y rhaglen Llwybrau at Ffermio, aeth Maxwell ati i baratoi tir ar dyddyn y teulu. Gan adeiladu tŷ gwydr â llaw a sefydlu gwelyau tomwellt nad oes angen eu palu, parhaodd Maxwell i gyflenwi cynllun blychau Veg2Table, gan ganolbwyntio ar datws newydd blasus.

Michelle Watkins

Fel un o sefydlwyr y cynllun blychau Veg2Table, parhaodd Michelle i dyfu cnydau yng Ngardd Gymunedol Cultivate yn 2020. Cynorthwyodd y cynllun blychau llysiau i fynd o nerth i nerth drwy ei gwaith trefnu a dosbarthu, yn ogystal â chynhyrchu cnydau o safon uchel.

Tara Barnett

Canolbwyntiodd Tara ei hegni ar sefydlu isadeiledd tyfu ar ei fferm, gan greu gwelyau uchel ac ardal dyfu wedi ei gorchuddio. Canolbwyntiodd ar lysiau anghyffredin megis pys piws a dail letys coch lliwgar. Dosbarthodd Tara fwyd i bobl eraill yn ei phentref, gwasanaeth mawr ei angen yn absenoldeb siop bentref.

Yr awdur

Mae Katie Hastings yn un o Gydlynwyr Prosiect Llwybrau at Ffermio ac yn gyd-sefydlydd Mach Maethlon.  Mae wedi bod yn tyfu llysiau ers dros 10 mlynedd, gan gynnwys 6 mis fel gwirfoddolwr yng ngerddi CyDA.

Am ragor o wybodaeth am Llwybrau at Ffermio a Mach Maethlon: www.machmaethlon.org, katie@machmaethlon.org

Rhedir Llwybrau at Ffermio gan Mach Maethlon mewn partneriaeth â CyDA a Cultivate ac fe’i hariannir gan y Gronfa Datblygu Gwledig – Arwain, sy’n rhan o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Am ragor o wybodaeth ewch i www.machmaethlon.org

 

COFRESTRU AR E-BOST

Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.