LABORDY ARLOESI

PRYDAIN DI-GARBON

Dod â grwpiau aml-randdeiliaid ynghyd i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd newydd o wneud pethau fydd yn gwneud i sero net ddigwydd.

Mae prosesau penderfynu cyfredol yn aml yn ei chael hi’n anodd gweld y system gyfan a thynnu ar wybodaeth, profiad a safbwyntiau amrywiol y rhanddeiliaid sy’n rhan ohoni. Gall dwyn pobl o wahanol sectorau ynghyd helpu i adnabod atebion sy’n gweithio ar draws ystod gymhleth o feysydd rhyngweithiol; atebion sydd, nid yn unig yn cynnig datrysiadau technegol, ond sydd hefyd yn helpu i oresgyn rhwystrau gwleidyddol, diwylliannol a seicolegol.

Nod Labordy Arloesi Prydain Di-garbon yw datgloi atebion cynaliadwy i heriau penodol, gan gyfrannu at yr ymdrech i atal y lefelau mwyaf peryglus o newid hinsawdd. Bydd y Labordy yn cynnig cyfleoedd i ddinasyddion, ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau, llywodraethau a sefydliadau eraill i gydweithio a chyd-ddylunio atebion arloesol ac effeithiol i’r argyfwng hinsawdd. Bydd yn gwneud hyn drwy aml brosesau’r labordy arloesi, sydd pob un, yn mynd i’r afael â rhwystr penodol i’r nod o gyrraedd sero net. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion neu i ganfod mwy.

Pedwar person mewn sesiwn grŵp mewn cynhadledd

ADRODDIADAU DIWEDDARAF Y LABORDY ARLOESI

Darllenwch ein hadroddiad diweddaraf, sy’n archwilio sut y gall cynghorau weithredu gyda’i gilydd ar ddatganiadau Argyfwng Hinsawdd, yn seiliedig ar ddysgu o Labordy Arloesi Cynghorau Swydd Stafford. Mae’r adnoddau hyn ar gael yn Saesneg yn unig.

Beth yw proses labordy arloesi?

Mae proses labordy arloesi yn cael ei dylunio’n drylwyr a’i hwyluso gan arbenigwr i gynorthwyo grwpiau aml-randdeiliaid i fynd i’r afael â phroblem gymdeithasol gymhleth, gyda’r nod o drawsnewid y system gyfredol er mwyn datrys y broblem honno.

I ddysgu mwy ewch i proses-labordy-arloesi

Dau berson mewn harneisi yn gweithio ar hwb tyrbin gwynt

Hwb Adnoddau

Ar gael yn rhwydd arlein - ysbrydoliaeth, offer, adroddiadau, canllawiau, hyfforddiant, gweminarau a mwy i gefnogi eich gweithredu dros sero net.
Cyrchu’r Hwb
Sgrin-lun o bobl yn dangos negesau am atebion newid hinsawdd

Hyfforddiant a Digwyddiadau Prydain Di-garbon

Archwiliwch sut y gallwn greu cymdeithas fodern di-allyriadau. Mae ein cyrsiau yn cael eu datblygu a’u diweddaru’n gyson i ddod â’r syniadau a’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Mynnwch Sgiliau
Adroddiadau Prydain Di-garbon

Pob Adroddiad

Mae ein holl adroddiadau Prydain Di-garbon yn canolbwyntio ar atebion ac yn archwilio’r rhwystrau posib i gyrraedd Prydain Di-garbon, a sut y gellir eu goresgyn.
Darllen Mwy

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.