Proses Labordy Arloesi

Prydain Di-garbon

Mae gan brosesau’r labordy arloesi ddyluniad proses eglur sy’n cael eu hwyluso gan arbenigwyr. Mae proses sydd wedi ei strwythuro’n eglur ac yn cael ei hwyluso gan arbenigwyr yn golygu bod gan y cyfranogwyr ymdeimlad clir o’r broses. Mae hefyd yn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a bod cyfeiriad a momentwm yn cael eu cynnal. Yn nodweddiadol, mae ganddynt yr elfennau craidd canlynol, sef:

Cyd-greadigol Mae cyfranogwyr amrywiol yn cydweithio fel tîm cyfartal, gan gydnabod terfynau unrhyw un safbwynt penodol a niwtraleiddio deinameg pŵer. Cyfranogiad a chydweithrediad rhanddeiliaid amrywiol, yn hytrach nag ymgynghoriadau gan ac ar gyfer timau o arbenigwyr neu dechnegwyr, yw sail labordy arloesi cymdeithasol. Po fwyaf yw’r amrywiaeth, y mwyaf yw’r potensial ar gyfer arloesi.

Arbrofol Gan nad yw’n bosib bod yn siŵr sut y bydd pethau’n troi allan mewn system gymhleth, rhaid arbrofi. Mae’r tîm yn defnyddio dull ailadroddol o ymdrin â’r heriau y mae’n mynd i’r afael â hwy, gan brototeipio ymyriadau a rheoli portffolio o atebion addawol.

Gwneud synnwyr Daw cyfranogwyr at ei gilydd i ddeall y system yn ei chyfanrwydd, yr hyn sy’n digwydd a pham. Mae rhoi’r gorau i syniadau rhagdybiedig yn eu gwneud yn fwy agored i ymatebion newydd.

Systemig Mae hyn yn golygu datblygu atebion neu ymyriadau sy’n mynd y tu hwnt i ymdrin â rhan yn unig o’r cyfanwaith neu symptomau, a mynd i’r afael â gwraidd y broblem pam nad yw pethau’n gweithio.

Bydd labordy arloesi Prydain Di-garbon yn cefnogi sefydliadau i gymryd y camau angenrheidiol i ddatblygu systemau sydd eu hangen i wynebu’r argyfwng hinsawdd.  Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion a chanfod mwy.

Dau berson mewn harneisiau yn gweithio ar hwb tyrbin gwynt

Hwb Adnoddau

Ar gael yn rhwydd arlein - ysbrydoliaeth, offer, adroddiadau, canllawiau, hyfforddiant, gweminarau a mwy i gefnogi eich gweithredu dros sero net.
Cyrchu’r Hwb
Sgrin-lun o bobl yn dangos negesau am atebion newid hinsawdd

Hyfforddiant a Digwyddiadau Prydain Di-garbon

Archwiliwch sut y gallwn greu cymdeithas fodern di-allyriadau. Mae ein cyrsiau yn cael eu datblygu a’u diweddaru’n gyson i ddod â’r syniadau a’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Mynnwch Sgiliau
Adroddiadau Prydain Di-garbon

Pob Adroddiad

Mae ein holl adroddiadau Prydain Di-garbon yn canolbwyntio ar atebion ac yn archwilio’r rhwystrau posib i gyrraedd Prydain Di-garbon, a sut y gellir eu goresgyn.
Darllen Mwy

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.

Newyddion diweddaraf o CyDA