
Labordy Arloesi CyDA: Dull gweithredu Cyd-greu tuag at Newid Systemig
Mehefin 10, 2025Home » Labordy Arloesi CyDA: Dull gweithredu Cyd-greu tuag at Newid Systemig
Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA), credwn bod newid go iawn yn digwydd pan fydd pobl yn dod ynghyd i rannu gwybodaeth, herio tybiaethau a chyd-greu ffyrdd newydd o symud ymlaen. Cynlluniwyd ein Labordy Arloesi Prydain Di-garbon i alluogi hynny – helpu pobl i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol cymhleth trwy gyfrwng prosesau strwythuredig a chyfranogol.
Mae’r Labordy Arloesi yn defnyddio methodoleg hyblyg sydd wedi’i hymwreiddio mewn meddwl trwy systemau, y byddwn yn ei haddasu ac yn ei hailadrodd er mwyn ei defnyddio mewn ystod eang o gyd-destunau – o gynorthwyo sefydliadau i drawsnewid uchelgais ym maes cynaliadwyedd yn weithredu ymarferol, i alluogi cydweithio rhwng sefydliadau a sectorau ar draws rhanbarth, i ddatblygu strategaeth sector ar gyfer cyfiawnder hinsawdd. Mae creu’r amodau ar gyfer newid systemig wrth wraidd gwaith y Labordy Arloesi: cynhwysol, cyfranogol, ac wedi’i ymwreiddio mewn dealltwriaeth a gwaith profi yn y byd go iawn.
Beth yw Labordy Arloesi?
Mae Labordy Arloesi yn broses wedi’i hwyluso sy’n cynorthwyo gweithgarwch ar y cyd er mwyn datrys problemau. Mae’n dwyn ynghyd grwpiau amrywiol o bobl i archwilio her benodol, meithrin dealltwriaeth ar y cyd, a phrofi ymyriadau ymarferol.
Mae labordy nodweddiadol yn cynnwys yr agweddau canlynol:
- Diffinio problem – gan nodi ffocws y labordy, y broblem y mae’n ceisio mynd i’r afael â hi a’r nod cyffredinol.
- Mapio cyfranogwyr – nodi ac ymgysylltu gyda chymysgedd amrywiol o bobl a sefydliadau perthnasol. Mae hyn yn golygu ystyried y sawl sy’n cael eu heffeithio gan fater a’r rhai sydd ynghlwm ag ef, y sawl yr anghofir amdanynt a’r sawl y gallent wrthwynebu’r nod yr ydym yn gweithio tuag ato – a’u gwahodd i gyd i’r broses.
- Gweithdai cyfranogi – cynllunio a hwyluso gweithdai, lle y mae cyfranogwyr yn archwilio’r her, yn cyd-greu dealltwriaeth ar y cyd, yn meithrin perthnasoedd ac yn creu syniadau gyda’i gilydd.
- Cynllunio a phrofi ymyrraeth – cyd-gynllunio ymyriadau a’u profi ar lawr gwlad, gan fabwysiadu dull gweithredu arbrofol ac ailadroddol.
- Gwerthuso a dysgu – mae arsylwi, myfyrio a gwneud synnwyr o bethau yn digwydd trwy gydol proses y labordy. Rydym yn crisialu’r hyn sy’n gweithio (a’r hyn nad yw’n gweithio) er mwyn cyfrannu at weithredu yn y dyfodol a’i rannu gydag eraill.
Mae’r dull gweithredu hwn yn galluogi pobl i gydweithio ar draws sectorau, profi syniadau yn gyflym ac mewn ffordd ymatebol, a datblygu datrysiadau sydd wedi’u hymwreiddio mewn gweithredu cadarnhaol a phrofiad ymarferol.
Pam bod y fethodoleg hon yn bwysig
Mae nifer o heriau mawr yr oes – o’r hinsawdd yn ymddatod i ddiffyg diogeledd bwyd – yn rhyng-gysylltiedig iawn. Ni ellir eu datrys gyda pholisïau o’r brig i lawr yn unig neu gan un grŵp neu bersbectif sy’n gweithio ar ei ben ei hun.
Cynlluniwyd methodoleg y Labordy Arloesi i ddwyn pobl ynghyd ar draws rhaniadau, boed hyn o fewn neu rhwng sefydliadau, cymunedau, rhanbarthau, sectorau neu y tu hwnt. Mae’n galluogi cydweithredu rhwng gwahanol bersbectifau, o academyddion a threfnwyr cymunedol, llunwyr polisi ac ymarferwyr, i sefydliadau mawr a grwpiau bychain ar lawr gwlad, neu’n syml, rhwng gwahanol dimau o fewn sefydliad. Mae hyn yn creu dealltwriaeth fwy cyfoethog o faterion ac mae’n helpu i feithrin ymddiriedaeth, capasiti a rhwydweithiau hirdymor er mwyn gweithredu newid.
Nid nod proses y labordy yw meddwl am syniadau da yn unig – mae’n ymwneud â’u profi yn y byd go iawn, gan addasu syniadau ar sail dysgu newydd, a gosod y sylfeini ar gyfer trawsnewid systemig parhaol ac ystyrlon.
Cyflwyno rôl CyDA o fewn Cymru Wledig LPIP Rural Wales
Un o’r prosiectau sy’n gweithio gyda Labordy Arloesi CyDA ar hyn o bryd yw’r Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (LPIP) ar gyfer Cymru Wledig – menter a ariannir gan UKRI sy’n dwyn ynghyd ymchwilwyr, awdurdodau lleol, mudiadau cymunedol ac eraill i archwilio sut y gall Cymru symud tuag at economi llesiant.
Mae CyDA yn bartner craidd yng Nghymru Wledig LPIP Rural Wales, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth. Sefydlwyd LPIPs mewn rhanbarthau ar draws y DU i dreialu ffyrdd newydd o alinio gweithredu, ymchwil a pholisi lleol. Y nod yw gweithredu gydag ymchwilwyr, dinasyddion, llunwyr polisi ac eraill wrth ymateb i heriau a chyfleoedd unigryw cymunedau, gan gyfrannu at ddysgu ehangach ynghylch sut y gall arloesi ar sail lle gynorthwyo nodau cenedlaethol ar gyfer cynaliadwyedd a lles.
Fel rhan o bartneriaeth Cymru Wledig, mae CyDA yn rhedeg un o’r pedwar Labordy Arloesi – Labordy Pontio tuag at Sero Net – a hefyd goruchwylio’r broses o ddarparu Ffrwd Waith y Labordy Arloesi. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor ynghylch methodoleg, a chynorthwyo gweithrediad y tri labordy arall, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a CCRI (Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymunedol).
Beth sy’n digwydd yn labordy LPIP CYDA?
Bydd y labordy arloesi yr ydym yn ei ddarparu fel rhan o LPIP yn canolbwyntio ar y sector garddwriaethol yng Nghymru. Byddwn yn archwilio sut y gallwn gynorthwyo a gwobrwyo garddwriaeth carbon isel ac sy’n gyfeillgar i fyd natur mewn ffordd well, a’r rôl y gall hwn ei gyflawni mewn system fwyd gydnerth.
Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn gweithio gyda phartneriaid LPIP ym Mhrifysgol Aberystwyth i fapio cyfranogwyr – gan nodi a gwahodd ystod eang o bobl i gymryd rhan yn y gweithdai. Mae hyn yn cynnwys tyfwyr, ymchwilwyr, trefnwyr lleol, busnesau tir a’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg, polisi a dosbarthu. Y nod yw dwyn ynghyd lleisiau amrywiol sydd â phrofiad uniongyrchol a dirnadaeth broffesiynol i archwilio’r cyfleoedd a’r heriau yn y maes hwn.
Cynhelir y gweithdy cyfranogol cyntaf yn Sir Gaerfyrddin yng nghanol mis Mehefin, a chynhelir ail un yn hwyr ym mis Gorffennaf. Bydd cyfranogwyr yn cyd-gynllunio ymyrraeth ymarferol i’w dreialu, gyda chyllid a chymorth LPIP yn ei le i’w brofi mewn cyd-destun yn y byd go iawn.
Edrych ymlaen
Bydd hi’n haf prysur i dîm Labordy Arloesi CyDA wrth iddynt ddarparu a goruchwylio labordai LPIP. Rydym yn teimlo’n gyffrous i gael gweithio ar brosiect mor gadarnhaol a gallwn weld y potensial sylweddol yn barod i gael labordai pellach yn ymgysylltu gyda gweithgarwch trawsnewid systemau bwyd. Ar wahân i hyn, rydym yn cynnal trafodaethau am labordai ynghylch ynni cymunedol, pensaernïaeth atgynhyrchiol a rhoi natur wrth wraidd penderfyniadau busnes… rhagor maes o law! Beth bynnag fo’r pwnc, mae pob labordy yn datblygu gwybodaeth, perthnasoedd a momentwm.
Trwy greu lleoedd i gydweithio, cyd-greu ac arbrofi, mae Labordy Arloesi CyDA yn helpu i siapio dyfodol sy’n fwy cynaliadwy – ond hefyd, sy’n fwy cynhwysol, yn fwy creadigol ac yn fwy seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio.
- Climate Change
- News Feed
- Zero Carbon Britain
Pynciau Cysylltiedig
Related news


Mwy o ynni solar ar gyfer CYDA
4th Ebrill 2025
Cyn Cadeirydd Ymddiriedolwyr CyDA yn derbyn MBE
31st Rhagfyr 2024
Cynlluniau yn dechrau siapio ar gyfer y dyfodol
30th Ebrill 2024COFRESTRU AR E-BOST
Gallwch gael y wybodaeth am yr holl weithgareddau, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein diweddaraf drwy gofrestru ar gyfer ein e-byst a'n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. Ac os hoffech chi gymryd rhan a chefnogi ein gwaith, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod CyDA.