Diwrnod agored am ddim i ddathlu pen-blwydd CyDA yn 50 oed!

Diwrnod agored am ddim i ddathlu pen-blwydd CyDA yn 50 oed!


Home » Diwrnod agored am ddim i ddathlu pen-blwydd CyDA yn 50 oed!

Ymunwch â ni yn CyDA ar ddydd Sadwrn 19 Awst i fwynhau diwrnod agored i’r teulu i ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed – a bydd mynediad am ddim trwy gydol y dydd.

Trwy gydol y dydd, byddwn yn cynnig gweithgareddau ymarferol, gweithdai, sgyrsiau, teithiau, gweithgarwch adrodd straeon, cerddoriaeth a mwy wrth i ni ddod ynghyd gyda ffrindiau hen a newydd i ddathlu’r garreg filltir anhygoel hon.

Bydd ystod eang o weithdai i’r teulu cyfan yn caniatáu i ymwelwyr o bob oed ddysgu am ynni adnewyddadwy, adeiladu gwyrdd, adnabod elfennau o fyd natur a mwy, a bydd sgyrsiau a theithiau yn dwyn bywyd i safle CyDA.

Gweithdai a fydd yn addas i’r teulu cyfan

Gall egin beirianwyr arbrofi gyda phŵer y gwynt, hydro a solar gyda’n tîm addysg, gan brofi gwahanol ddulliau gweithredu a dysgu mwy am ffynonellau ynni glân.

Yn y cyfamser, bydd darlithwyr o Ysgol Graddedigion CyDA yn helpu darpar benseiri ac adeiladwyr i fod yn greadigol mewn gweithdai ‘Penseiri y Dyfodol’ neu i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau adeiladu gwyrdd a chrefftau coetir ymarferol.

Bydd teuluoedd yn gallu archwilio bydoedd y dyfodol mewn gweithdai ‘Dyfodol Mentrus’ – gan ddychmygu sut hoffent i’r byd fod ymhen 10, 20, 50 mlynedd, a sut y gallwn sicrhau bod hynny yn digwydd.

Adnabod Natur

Ar ben hynny, trwy gydol y dydd, bydd pobl o bob oed sy’n hoff o fyd natur yn gallu archwilio erwau o lwybrau coetir a mannau gwyllt, gan fireinio eu sgiliau adnabod natur gyda cheidwaid bywyd gwyllt CyDA – bydd gweithgareddau treillio pyllau ac adnabod pryfed, a’r cyfle i fwrw golwg agosach ar fydoedd microsgopig.

Darganfod mwy am CyDA – a’r hyn y gallwch chi ei wneud

Yn ogystal, bydd cyfle i glywed mwy am ein gwaith presennol a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gyda sgyrsiau, teithiau a stondinau gwybodaeth, a fydd yn rhoi sylw i bopeth o hyfforddiant sgiliau a graddau ôl-raddedig i Wasanaeth Gwybodaeth am Ddim CyDA.

Welwn ni chi yno!

Dywedodd Eileen Kinsman, cyd Brif Swyddog Gweithredol CyDA: “Mae 50 mlynedd yn dipyn o garreg filltir a byddwn wrth ein bodd i groesawu ffrindiau hen a newydd i ddathlu yma gyda ni yn CyDA ar y diwrnod arbennig hwn. Os ydych chi’n ymwelydd rheolaidd neu’n dod i CyDA am y tro cyntaf, byddem wrth ein bodd pe bai modd i chi ymuno â ni am ddiwrnod llawn hwyl ac ysbrydoliaeth wrth i ni edrych ymlaen i’r 50 mlynedd nesaf.”

Bydd y gweithgareddau yn cychwyn am 10am a bydd mynediad am ddim trwy gydol y dydd – welwn ni chi yno!

I gael gwybod mwy am yr hyn a fydd yn digwydd, i archebu eich tocynnau, ac i ystyried y dewisiadau er mwyn cyrraedd CyDA, trowch at: cy.cat.org.uk/events/cyda-yn-50-dathliad-yr-haf/

Plant yn cofleidio wrth edrych trwy hwb tyrbin gwynt

Gwneud cyfraniad un-tro

Newidiwch y byd gyda ni heddiw. Bydd eich cyfraniad yn helpu i rannu atebion ac addysg ymarferol. Ffurflenni ar gael yn Saesneg yn unig.
Woodlands near CAT

Dathlu pen blwydd CyDA yn 50 oed gyda’n gilydd

Ymunwch â ni’r haf hwn, wrth inni ddathlu ein pen blwydd yn 50 oed gyda diwrnod yn llawn digwyddiadau i’r teulu cyfan, gan gynnwys gweithdai, sgyrsiau, teithiau, cerddoriaeth a llawer mwy.
50th at CAT