CyDA yn 50 – Dathliad yr Haf

CyDA yn 50 – Dathliad yr Haf


Home » CyDA yn 50 – Dathliad yr Haf

Bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni, a byddem wrth ein bodd pe baech yn gallu ymuno â ni ar 19 Awst am ddiwrnod agored arbennig i’r teulu cyfan i ddathlu’r garreg filltir anhygoel hon.

Am hanner canrif, rydym bod yn archwilio datrysiadau ymarferol, gan gynnig cyfleoedd dysgu ymarferol a chydweithio er mwyn sicrhau dyfodol gwell i bawb. Bydd cyfle i fwynhau cipolwg ar CyDA yn ystod diwrnod a fydd yn llawn gweithgareddau addas i’r teulu, gweithdai, anerchiadau, teithiau, cerddoriaeth a mwy. Estynnir croeso cynnes i bawb a byddwn yn cynnig mynediad am ddim am y dydd.

Child looks at moth
Archwiliwch goetiroedd a safleoedd gwyllt CyDA gan firieinio eich sgiliau adnabod elfennau natur.

Pryd:  Dydd Sadwrn 19 Awst rhwng 10am a 5:30pm.

Ble:  Canolfan y Dechnoleg Amgen, SY20 9AZ.

Mynediad am ddim trwy gydol y dydd!

Yr hyn a fydd ymlaen

A oes egin beiriannydd yn y teulu? Piciwch i mewn i’n hwb ynni i gael profiad ymarferol o bŵer y gwynt, pŵer hydro, pŵer solar a mwy gyda’n tîm addysg.

Bydd cyfle i fod yn greadigol yn ein gweithdy Penseiri y Dyfodol, lle y bydd ein darlithwyr Pensaernïaeth Gynaliadwy yn ysbrydoli meddyliau chwilfrydig i ddychmygu trefi ac adeiladau’r dyfodol.

Family sitting at a table with pens, paper and post it notes.
Ewch ati i greu eich byd eich hun ar gyfer y dyfodol yn ein gweithdy Dyfodol Mentrus.

Archwiliwch goetiroedd a safleoedd gwyllt CyDA gan fireinio eich sgiliau adnabod elfennau o fyd natur. O ryddhau gwyfynod yn y bore i archwilwyr pyllau i adnabod caneuon adar, byddwn yn darganfod mwy am y bywyd gwyllt anhygoel sy’n rhannu ein safle.

Ewch ati i greu eich byd eich hun ar gyfer y dyfodol yn ein gweithdy Dyfodol Mentrus – dychmygwch sut hoffech chi weld y byd ymhen 10, 20 neu 50 mlynedd, gan archwilio sut y gallwn beri i hynny ddigwydd.

Cewch glywed mwy am waith CyDA a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol gydag anerchiadau, teithiau a stondinau gwybodaeth. O’n Hysgol Graddedig a’n cyrsiau byr i’n Gwasanaeth Gwybodaeth am Ddim, piciwch i mewn i gael gwybod mwy.

Child using an electric microscope to look at creatures in soil
Piciwch i mewn i’n hwb ynni i gael profiad ymarferol o bŵer gwynt, pŵer hydro, pŵer solar a mwy.

Ymunwch ag un o’n teithiau tywys arbennig ar gyfer ein pen-blwydd er mwyn clywed mwy am hanes anhygoel CyDA dros y 50 mlynedd ddiwethaf gan rai o’r bobl a oedd wedi helpu i wireddu hyn – a chewch gyngor am yr hyn y gallwch ei wneud yn eich cartref chi.

Cewch ddarganfod sut y mae data gan loerennau yn helpu gwyddonwyr i ddeall newid hinsawdd a mynd i’r afael ag ef – bydd Athro Richard Lucas yno i gyflwyno prosiect anhygoel ‘Living Wales’.

Archwiliwch stori anhygoel bodau dynol ac ynni, o’r Glec Fawr i Olew Mawr, sesiwn ryngweithiol sy’n ysbrydoli – sut y daethom i’r fan hon, a beth allwn ni ei wneud amdano?

Camwch i fyd chwedlau a mythau gyda Peter Stevenson, storïwr lleol wrth iddo ddwyn straeon gwerin hynafol yn fyw – beth allan nhw ei ddysgu i ni am y byd heddiw?

Hyn oll a cherddoriaeth fyw, bwyd blasus o gaffi CyDA – a chacennau!

Byddem wrth ein bodd eich gweld!

Gallwch archebu lle ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen isod, neu bicio i mewn ac ymuno â ni ar y diwrnod.

Sylwer bod nifer y lleoedd parcio yn gyfyngedig – edrychwch sut i gyrraedd CyDA ar feic, ar droed neu gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gwasanaeth bws rheolaidd o Fachynlleth a Dolgellau/Corris. Os ydych chi’n teithio yma mewn car, a fyddech gystal â chyrraedd yn gynnar er mwyn sicrhau lle.

Cofrestrwch ar gyfer ein e-newyddion neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Family cycling to CAT

Searching Availability...